Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Di-Ben-Draw
D. Ben Rees
ISBN: 9781784611866 (1784611867)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2015
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 240 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o Stoc Ein Pris: £12.99   
Sgr y Cwsmeriaid ar gyfartaledd:
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
 
Darllen Adolygiadau...
Hunangofiant y Parchedig D. Ben Rees, gweinidog a darlithydd, awdur a chyhoeddwr a gyfrannodd yn sylweddol i amryfal agweddau ar fywyd Cymru a Lerpwl. 68 ffotograff.

The autobiography of Reverend D. Ben Rees, a Welsh minister and lecturer, author and publisher who contributed substantially to various aspects of life in Wales and Liverpool. 68 photographs.
Mae gen i atgofion dyddiau ysgol o Ben Rees. Roedd e tua thair blynedd yn hŷn na mi, ac yn greadur direidus, hwyliog, pob tro gwn ar ei wyneb ac yn mwynhau ein pryfocio nir rhai iau. Fei cofiaf yn dda oherwydd roedd ei flwyddyn e yn un arbennig o ddisglair yn hanes Ysgol Sir Tregaron, ac ynddi nifer o ddisgyblion a ddaeth yn enwau adnabyddus yng Nghymru a thu hwnt mewn amryw feysydd. Rwyn ei gofio yn dod i bregethu i Gapel y Berth pan oedd yn fyfyriwr, ac in tŷ ni y deuai i ginio neu de, waeth tro pwy oedd hi i gadwr mis. Roedd ein mamaun gyfnitherod a fy mam yn falch or cysylltiad teuluol.

Croesodd ein llwybrau, os nad ein cleddyfau, yn lled gyson dros y blynyddoedd ac mae gen i grugyn o gylchgronau a llyfrau yn y tŷ y byddaf yn taro arnynt yn fynych, a daw'r cyfan 'i enw i gof. Mae sawl rhifyn o Aneurin, y cylchgrawn a sefydlodd ac a olygodd pan oedd yn fyfyriwr, gen i. Hefyd, Pam na ddylid crogi, pamffledyn a gyhoeddodd fel rhan or ymgyrch yn erbyn dienyddio a ysgogwyd wedi crogi Ruth Ellis. Pan oeddwn ar staff Y Cymro yng Nghroesoswallt, arferai anfon erthyglau cyson atom o Abercynon, lle bun weinidog cyn symud i Lerpwl.

Gwyddwn am ei egni ai frwdfrydedd fel awdur, hanesydd, cyhoeddwr a hyd yn oed fel cynhyrchydd recordiau. Cofiaf y record gyntaf iddoi rhyddhau, gan grŵp or enw Hogiar Deulyn, er na wyddwn i ddim mai ei gwmni e gynhyrchodd record gyntaf Y Tebot Piws. Sefydlodd Gyhoeddiadau Modern Cymreig yn y chwedegau cyn oes y grantiau, a bun arloeswr ym myd cyhoeddi llyfrau plant.

Maer gyfrol yn gyforiog o wybodaeth, amryw bethau oedd yn ddieithr i mi a mwy na thebyg i lawer o rai eraill. Wyddwn i ddim, er enghraifft, fod y Parch Henry Rees, Chatham Street, a Gwilym Hiraethog yn frodyr, y naill yn un o bregethwyr mawr y Methodistiaid Cymraeg ar llall yn un o arwyr y traddodiad radicalaidd Cymreig, y ddau au henwau yn annatod glwm wrth hanes Cymry Lerpwl, fel y bu enw Rees arall Ben yr un mor gyfystyr Lerpwl i nghenhedlaeth i.

Bu gen i deimlad ers peth amser fod i rai or cyfrolau hunangofiannol hyn gryn werth hanesyddol, fel y bu ir nifer o gyfrolau a gyhoeddwyd yn arbennig yng Nheredigion ym mhum a chwedegaur ganrif ddiwetha. Cyfrolau gan grefftwyr a gwerinwyr oedd llawer or rheini, hanes hen grefftau oedd bellach yn darfod or tir. Mae ir cyfresi presennol hyn lawer yn gyffredin nhw.

Pan oedd D. Ben Rees yn cychwyn yn y weinidogaeth yr oedd yn broffesiwn uchel ei barch ai ddylanwad. A minnau wedi fy magu mewn capel tra llewyrchus ond heb weinidog, ni sylweddolais cyn i mi ddarllen y gyfrol ardderchog hon mor ganolog a dylanwadol y medrai gweinidog fod yn nhrefi a phentrefi Cymru yn y degawdau wedir Ail Ryfel Byd. Cyfoethogwyd ac ysbrydolwyd Ben oi fagu mewn pentre ller oedd gweinidog or fath, ac aeth yntau yn ei dro i Abercynon ac wedyn i Lerpwl, a'i genhadaeth fawr gydag e.

Stori fyrlymus am ymgyrchu, boed dros heddwch, yn erbyn arfau niwclear neu o blaid yr Arglwydd Iesu Grist, a geir rhwng y cloriau hyn. Stori hefyd am ŵr na fynnai fynd gydar llif poblogaidd. Fur Blaid Lafur erioed yn orboblogaidd yng Ngheredigion, ac anodd credu fod daliadau Sosialaidd Ben yn rhy dderbyniol mewn capel Cymraeg dosbarth canol yn Lerpwl. Ond beth bynnag ei ddaliadau, maen amlwg y medrai gydai radlonrwydd hynaws oresgyn unrhyw anawsterau bach fel yna.

Un cwestiwn syn codi: sut yn y byd y medrodd gyflawnir holl bethau hyn o fewn cwmpas un bywyd? Yn ogystal, dyma dalp sylweddol o hanes Lerpwl, y ddinas ar un adeg a elwid yn brifddinas gogledd Cymru. Ardderchog, ar y ddau gyfrif.

Gwyn Griffiths

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Bywgraffiad Awdur:
Ganed D. Ben Rees yn Llanddewi Brefi, Ceredigion. Mae'n adnabyddus fel awdur toreithiog yn y Gymraeg a'r Saesneg ac yn un o bregethwyr amlycaf ei enwad. Treuliodd ei weinidogaeth yng Nghwm Cynon rhwng 1962 i 1968, ac ymhlith Cymry Lerpwl oddi ers hynny.
Gwybodaeth Bellach:
Dyma hunangofiant gweinidog o Gymro sy'n byw yn ninas fawr Lerpwl. Cyfrol gwbl unigryw yw hon sydd yn portreadu cyfraniad D Ben Rees i'w gymuned yn Lerpwl a hefyd i Gymru, boedd hynny fel cenedlaetholwr sosialaidd a ymladdod etholiadau seneddol, yn lefarydd ar radio a theledu, yn gyhoeddwr, yn olygydd, ac yn hanesydd sy'n arbenigo ar hanse Cymry Lerpwl, dinas Lerpwl a chenhadaeth dramor yr enwad yng ngogledd ddwyrain yr India.
Dyma gyfrol unigryw sydd yn destament olaf gweinidog ymneilltuol trwy gyfrwng y Gymraeg yn ninas y Sgowsers.
Rhoddodd Huw Edwards o Llundain i'r teitl yma ac ysgrifennodd:
"Gallaf ddatgan yn gwbl hyderus fod y cyfaill D. Ben Rees, un on hawduron mwyaf diwyd, wedi rhagori arnoi hun yn ddirfawr: mae ei hunangofiant Di-Ben-Draw yn berl o gyfrol. Dyma lyfr darllenadwy a gonest syn olrhain hanes bywyd Ben Abercarfan, mab fferm o Landdewibrefi a dyfodd i fod yn gyhoeddwr a newyddiadurwr a gwleidydd ac ymgyrchydd yn brif symbylydd bywyd Cymraeg dinas Lerpwl ac wrth gwrs, yn un o weinidogion amlycaf a mwyaf poblogaidd yr oes fodern.
Y peth cyntaf iw nodi am y gyfrol yw natur yr arddull: mae iaith yr hunangofiant yn ddi-lol a chartrefol, y naratif yn gwbl ddirodres, ar traethu yn glir a bachog. Camp anghyffredin yw medru llunio cyfrol y bydd ei chynnwys ai chystrawen yn apelio at ystod eang o ddarllenwyr.
Darllenais ddwsinau o gofiannau a hunangofiannau gweinidogion Cymraeg dros y blynyddoedd. Bur profiad yn aml yn un diflas oherwydd tuedd anochel yr awduron i greu byd artiffisial. Yr argraff a geir gan amlaf yw mai seintiau oedd y gweinidogion dan sylw, seintiaun byw bywydau perffaith mewn paradwys o gapeli gorlawn.
Fe ddylech anghofior hen duedd ddiflas honno yng nghyswllt Di-Ben-Draw. Dyma gyfrol syn frith o sylwadau dadlennol a gonest am gymeriadau ac agweddau a phrofiadau a digwyddiadau. Mae gan Ben arddull sicr syn cynnal diddordeb y darllenydd, ac sydd hefyd yn gallu synnu a syfrdanu. Peidiwch, da chi, meddwl mai cyfrol bolit, sidt yw hon. Mae na sawl ergyd loriol ynddi: ceir ambell darged disgwyliadwy (Margaret Thatcher), ond mae na ddigon o dargedau eraill, gan gynnwys yr anfarwol Robyn Lwis, syn cael cic haeddiannol yn ei ben-l am iddo watwar y syniad call o gynnal y Brifwyl yn Lerpwl.
Hwyrach y bydd nifer yn disgwyl mair penodau ar gyfnod maith Ben yn Lerpwl fydd yn rhoir pleser mwyaf. Ond i mi, maer penodau agoriadol am ei blentyndod yn Sir Aberteifi, ar gyrion pentref Llanddewibrefi, yn cynnig blas cyfoethog or cynfyd mewn ardal a adwaenid am gyfoeth ei diwylliant a chryfder ei Chymreictod dilychwin (newidiodd hynny yn enbyd, fel y sonia Ben yn y darn ar angladd ei dad yn 1979). Pwysodd yn drwm ar ei dad-cu, David Benjamin, oherwydd absenoldeb ei dad yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a bu colli ei dad-cu yn 1943 yn ergyd drom iawn ir bachgen ifanc. Ond diolch iw ddylanwad, gosodwyd Ben ar lwybr crefydd ac yn ei arddegau fe ymdeimlodd galwedigaeth ir weinidogiaeth ordeiniedig: Er mai llencyn ysgol oeddwn ... roeddwn wedi fy argyhoeddi im rhoi fy hun i waith Duw am byth fel gwas yr Arglwydd Iesu.
Cawn ddisgrifiad lliwgar o staff a disgyblion Ysgol Sir Tregaron (er mawr warth ir ysgol, ni dderbyniodd yr un gwahoddiad i ddychwelyd yno ers iddo adael yn 1955) ac mae yna ddigon o sn am ei hoffter o bl-droed (gan gynnwys sawl gm yn erbyn fy nhad ar Gae Sgwr enwog Aberaeron) ai brysurdeb diddiwedd ym mhob agwedd o fywyd cefn gwlad Sir Aberteifi. Un or elfennau mwyaf cyfareddol i mi (fel newyddiadurwr a dreuliodd flynyddoedd yn San Steffan) yw datblygiad credo Sosialaidd y gwr ifanc o Landdewibrefi. Bu Ben yn Llafurwr selog a phybyr ar hyd ei oes. Datblygodd ei ddiddordeb yn y brifysgol yn Aberystwyth lle bun un o sylfaenwyr y Clwb Llafur yno, ac yn ddiweddarach bun ymgeisydd seneddol Llafur yng Nghonwy (fei trechwyd ddwywaith gan y Ceidwadwr Wyn Roberts) ac yn un o hoelion wyth mudiadau heddwch a CND ar hyd y blynyddoedd. Fe bwysleisia bob amser fel y bun gallu cydweithio ag aelodau Plaid Cymru ar faterion o bwys ond ac nid beirniadaeth yw hon o gwbl fe garwn glywed mwy am benderfyniad Ben i fwrw gwreiddiau ar dir Llafur yn hytrach na thir y Blaid. Hwyrach fod ei sylw am amgylchiadau cyfyng a chyni oes ei dad-yng-nghyfraith, y Parchedig Arthur Llewellyn o Abercwmboi, yn taflu goleuni pellach: Sut y medrai unrhyw weinidog fod yn ddim byd ond Sosialydd oedd yn ddirgelwch i mi yr adeg honno.
Cawn ddisgrifiadau ingol o drychineb Aber-fan yn 1966 yn ystod cyfnod Ben fel gweinidog ifanc yn y cylch. Bur blynyddoedd yn ardal Abercynon yn rhai cynhyrfus, digwyddlawn. Priododd yn 1963 Meinwen, athrawes ac un o ferched y cwm, ac fel y gŵyr eu holl gydnabod yn Lerpwl a Chymru, bu hithau yn gefn anhepgor iddo dros y degawdau. Cyflawnodd hithau waith pwysig iawn ym myd addysg Gymraeg ac ym mywyd Cymraeg dinas Lerpwl. Ganed iddynt ddau fab, Dafydd a Hefin, ac y mae llwyddiant eglur y ddau yn eu meysydd priodol yn destun balchder mawr iw rheini.
Denwyd Ben i Lerpwl yng Ngorffennaf 1968, i eglwys Bethel, Heathfield Road, ac yno y bun gwasanaethu yn eithriadol o ddiwyd ac ymroddedig hyd y dydd heddiw. Sut ar y ddaear y llwyddodd i gyflawnir amhosibl? Bun gyhoeddwr prysur (mae stori Cyhoeddiadau Modern Cymreig yn werth ei darllen yn y gyfrol a gyhoeddodd: Dyddiau o Lawen Chwedl), yn ddarlithydd, yn academydd, yn ymgyrchydd gwleidyddol a chymdeithasol, ac yn fugail diflino ar ei braidd dinesig.
Lluniodd sawl pennod ar ei gyfnod maith yn Lerpwl, gan gynnwys esboniad prydferth a theimladwy ar ei waith bugeilio, a thestun pleser i mi oedd gweld adroddiad ar y diwrnod ysgubol hwnnw ym Mai 2015 pan ddaeth tyrfa enfawr ir ddinas (gan gynnwys cyfeillion o Batagonia) ar wahoddiad Ben adeg dadorchuddio cofeb ir cwmni a hwyliodd ar y Mimosa yn 1865.
Mae yna drysor o wybodaeth yn y penodau ar Lerpwl. Gellir dweud yn ogystal i Ben ddangos y ffordd ymlaen i gynulleidfaoedd dinesig eraill: ad-drefnwyd capeli Lerpwl (a dymchwelwyd ei Fethel hoff yn 2007) ond maen dal ati i wasanaethu ei bobl yn ddidwyll a ffyddlon.
Rhaid llongyfarch Ben yn wresog iawn ar lunio cyfrol gyfoethog a gwerthfawr. A gyda llaw, dyma anrheg ddelfrydol ar ddiwedd blwyddyn! Fe gewch fwynhad di-ben-draw, mae hynnyn sicr.
"
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Pobol
Dafydd Iwan
£9.99
 
Prynwch
Shadow of Nanteos, The
Jane Blank
£8.99
 
Prynwch
Cyfres Strach: Gwalia
Llŷr Titus
£4.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Perl
Bet Jones
£8.99
 
Prynwch
Saesneg
Miriam, Daniel and Me
Euron Griffith
£9.99
 
Prynwch
Plant
Mali a'r Goleudy
Malachy Doyle
£12.99
 
Prynwch