Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Dyn yr EiliadOwen Martell View more titles by 'Owen Martell'
ISBN: 9781843233053 (1843233053)Publication Date December 2003
Publisher: Gwasg Gomer, Llandysul
Format: Hardback, 127x183 mm, 318 pages Language: Welsh Available Our Price: £7.99 
Dyn yr Eiliad
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
Welsh Novel of the Month: December 2003
An unusual and powerful novel exploring the complex relationship between three young persons as two of them try to analyse their tri-angular relationship following the death of one of the three.

Nofel anarferol a grymus yn archwilio perthynas gymhleth rhwng tri pherson ifanc wrth i ddau ohonynt geisio dadansoddi eu perthynas dair-onglog yn dilyn marwolaeth un o'r tri.
Nid nofel ysgafn mo hon. Nid nofel i’n diddanu am orig fechan yn unig mohoni, ac un y gallwn wibio hwb a naid drwyddi ar un gwynt. Na, mae Dyn yr Eiliad, er gwaethaf y teitl, yn nofel i’w throedio’n araf a hamddenol, gan olygu oriau braf o loetran, o ogordroi wrth bob paragraff, ac o gnoi cil ar y geiriau.

Dyma wir awdur sydd â rhywbeth i’w ddweud, ac nid oes brys yn y byd arno i’w ddweud ychwaith. Mae pob gweithred a phob golygfa'n drwm ag ystyron, ac fel y dywedir yn y nofel ei hun: ‘Teimlai fod yna rywbeth profound iawn am yr holl brofiad’. Fel adolygydd, mae’r demtasiwn i ddyfynnu lliaws o’r gwirioneddau dyfynadwy hyn yn un anodd iawn i’w gwrthod (‘Be sy ’na i gymryd lle ffydd a chrefydd?’ ‘Ar ôl cariad a brawdgarwch, a chyfeillgarwch a charedigrwydd, y fi sydd, a dim arall.’), ond fe’n rhybuddiwyd i beidio gan yr awdur! ‘Gwae ni ein beirniadu ar sail ein gosodiadau absoliwt,’ meddai!

Peidiwch â gadael i arafwch y dechrau eich gwangalonni – yn ara deg mae dal iâr, medden nhw, ac yn ara deg mae codi’r seiliau ar gyfer nofel dda fel hon. Ond yn bwysicach na dim, yn ara deg mae mowldio cymeriadau tri-dimensiwn, cymeriadau sydd â haen ar ben haen o orffennol llawn hanesion bychain, o bresennol ingol llawn cwestiynau, a dyfodol y mae’r darllenydd er gwaetha’i hun erbyn canol y llyfr eisiau gwybod amdano, ond sydd erbyn darllen i’r diwedd yn gwybod mai dim ond un dyfodol sydd.

Nofel am Davies yw hon, nofel am gymeriad nad ydym yn ei gyfarfod oherwydd ei fod eisoes yn farw, ond cymeriad sy’n dominyddu’r llyfr, sy’n rhan hollol annatod o weddill y cymeriadau ond sydd ar yr un pryd yn un na theimlwn iddo’i ‘adnabod’ ychwaith.

Mae’r dyfyniad ar ddechrau’r llyfr yn gosod y sail i’r thema hunanymwybodol, bogail-syllu hon o ‘adnabod’, gan ofyn ‘pwy ydyn ni’ a holi a oes modd inni ‘adnabod’ ein ffrind gorau hyd yn oed, heb sôn amdanom ein hunain, ‘Ond fel pob adnabyddiaeth, dim ond yr ennyd ddatgysylltiedig sydd.’ A beth yw rôl y gair ysgrifenedig wrth ddiffinio’r hunan? ‘Rwy’n rhoi geiriau ar bapur, wedi’r cyfan – y geiriau sy’n ffurfio’r brawddegau sy’n ysgrifennu’u hunain, ac sy’n fy ysgrifennu i.’ Oes y fath beth â ffawd? Mewn rhyw ffordd, dilyniant Cadw dy ffydd, brawd yw hon, yr un awgrym o gyflwyno’r nofel a’r bywydau drwy gyfryngau modern y ffilm a ffotograffau, o wylio o’r tu allan a cheisio diffinio’r hunan. Yn y nofel ddiweddaraf hon ceir rhyw wrthrychedd academaidd i’r profiad hwn drwy adrodd yn y trydydd person am yn ail â’r cyntaf – techneg sy’n gweithio’n hynod o naturiol a llwyddiannus.

Yn sicr, mae meistr ar adrodd stori ar waith yma, a’r hyder wrth greu a chyflwyno’i stori yn amlwg. Dyna i chi’r oedi cyn cyflwyno Anna, rhyw ffigwr dirgel yn y pellter ar y dechrau na wnaed dim ond cyffwrdd ar ei bodolaeth ac ar ei phwysigrwydd, heb sôn am y crwydro i adrodd cynifer o fân storïau heb golli gafael o gwbwl ar y brif stori. Yr unig sarnu ar fy mwynhad i o’r llyfr oedd yr iaith a ddefnyddiwyd – yr eirfa a’r gystrawen Seisnig heb ymddiheuriad nac italig o fath yn y byd: ‘oherwydd actual cynnwys y sgwrs’, ‘roedd e wastad yn piso rownd’, ‘cael diwrnod off’); i mi roedd hyn yn crafu’n anghyfforddus yn aml iawn ac yn tynnu oddi ar rin y darllen.

Efallai gall y nofel fod yn rhy athronyddol bendronol i fod at ddant pawb ond, yn fy marn i, rhowch fwy o arian i’r awdur gael cyfle i ysgrifennu’r nofel nesaf!

Gwenllïan Dafydd

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Untitled Item
Islwyn Ffowc Elis
£19.99
 
Buy Now
Un Nos Ola Leuad (CD) ...
Caradog Prichard
£9.49
 
Buy Now
Meddwl a'r Dychymyg ...
Angharad Price
£9.99
 
Buy Now
Book of the Month
English
Not Quite White
Simon Thirsk
£9.99
 
Buy Now
Welsh
Argraff Gyntaf, Yr
Ifan Morgan Jones
£7.95
 
Buy Now