Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Straeon o'r StradeAlun Wyn Bevan View more titles by 'Alun Wyn Bevan'
ISBN: 9781843234142 (1843234149)Publication Date November 2004
Publisher: Gwasg Gomer, Llandysul
Format: Paperback, 245x165 mm, 200 pages Language: Welsh Available Our Price: £9.99 
Straeon o'r Strade
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
A very entertaining celebration of the rich tradition of Llanelli RFC from 1888 to 2004, comprising accounts of memorable games played on Strade Park such as games against international teams and cup and league fixtures together, with stories about notable club players. 40 colour and 66 black-and-white photographs. An English version is available: 1843235706.

Dathliad difyr iawn o draddodiad cyfoethog Clwb Rygbi Llanelli o 1888 hyd 2004, yn cynnwys straeon am gêmau cofiadwy a chwaraewyd ar Barc y Strade, yn gêmau yn erbyn timau rhyngwladol a gêmau cystadlaethau cwpan a chynghrair ynghyd â hanesion am gymeriadau nodedig y clwb. 40 llun lliw a 66 llun du-a-gwyn. Mae fersiwn Saesneg ar gael: 1843235706.
Dim ond tri grŵp o bobol sy’n dueddol o gau un llygad, medden nhw, sef ffotograffwyr, saethwyr a chefnogwyr Llanelli. I ffotograffwyr a saethwyr mae’n rhan o ofynion eu diddordebau. Mae cefnogwyr Llanelli yn cau un llygad am mai dim ond un tîm maen nhw am ei weld.

Fel bachan o ardal Castell-nedd, mae Alun Wyn Bevan wedi cadw’i ddau lygad yn llydan agored wrth fwrw golwg yn ôl ar faes rygbi enwoca’r byd. Iawn y disgrifiodd Ceri Wyn Jones y fangre fel cartref ysbrydol y Cymry Cymraeg sy’n dilyn rygbi. Ond mae dyddiau’r Strade wedi eu rhifo ac ni fedrwn ond dychmygu sut y gwnaiff y cefnogwyr gymryd at gartref newydd.

O fod wedi cydweithio ag Alun Wyn am chwe blynedd, un peth y medraf ddweud o’i blaid yw ei drylwyredd. Dydi cyffwrdd â phwnc ddim yn ddigon iddo. Mae’n rhaid cwmpasu pob agwedd. A dyna a wnaeth yn y gyfrol swmpus hon o ymron 200 tudalen. Mae rygbi hefyd yn nwyd iddo. Yn wir, yn fwyd iddo. Mae’n byw’r gêm, yn anadlu’r gêm, yn caru’r gêm. Ef, mae’n siŵ gen i, yw’r unig fod dynol sydd â chalon siâp hirgrwn.

Mae modd mwynhau’r gyfrol hon ar ddwy lefel. Fel cyfanwaith mae hi’n orchestol gan i’r awdur lwyddo i gynnwys pob agwedd bosib – gêmau a chwaraewyr unigol, tactegau, digwyddiadau, personoliaethau, athroniaethau. Ac fel y dywed y broliant, nid yw’n ofni pilo wye. Ar lefel arall mae modd cydio yn y gyfrol, ei hagor yn fympwyol a chanfod perl o wybodaeth o dan eich trwyn.

Dyna i chi dudalen 108: ‘Dim ond un gêm welodd Mam-gu erio’d.’ Ac wedyn ar dudalen 33, credwch neu beidio, yma fe gewch fanylion am ffurflen dreuliau H. C. Catchside am chwarae yn Twickenham, cyfanswm o dair punt. Ar dudalen 21: ‘Cyhuddwyd Albert Jenkins gan rai o fod yn gawr ar y Strade ond o fod yn Samson eilliedig pan groesai bont afon Llwchwr.’ Tudalen 136, disgrifiad o anghenion chwaraewr rheng ôl: ‘Mae angen amynedd Job, doethusrwydd Solomon a phenderfyniad Dafydd.’ A chofiwch, dim ond ar hap y sylwais ar y rhain i gyd.

Ond euthum yn fwriadol at y bennod ar Phil Bennett gan mai hwn, yn ôl fy marn fach bitw i, yw’r chwaraewr mwyaf dawnus i anwesu pêl rygbi erioed. Ynddi mae Alun yn defnyddio gair Sbaeneg i’w ddisgrifio sef Duende. ‘Mae’n anodd ei gyfieithu – rhyw elfen o’r annisgrifiadwy; cyfeirir at ddoniau sy’n ymestyn y tu hwnt i ardderchowgrwydd, y tu hwnt i ddisgleirdeb, ac yn cynnwys rhyw ddimensiwn arallfydol.’

Mae Alun Wyn yn trin geiriau gyda’r un deheurwydd ag y bu Phil yn trin pêl rygbi. Fedra i ddim cynnig teyrnged uwch.

Lyn Ebenezer

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Last Updated on 08 March 2011
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Cyfres y Cewri: 28. Dyn ...
Hywel Gwynfryn
£6.95
 
Buy Now
Cofio Eirug
 
£6.95
 
Buy Now
Daw Eto Haul
Geraint Lewis
£5.95
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now