| Bibliographical Information |
| Cyfres ar Wib: Ffion a'r Tim RygbiElin Meek
View more titles by 'Elin Meek' |
ISBN: 9781843234654 (1843234653)Publication Date March 2007
Publisher: Gwasg Gomer, LlandysulIllustrated by Chris GlynnSuitable for age 7-9 or Key Stage 2
Format: Paperback, 198x129 mm, 64 pages
Language: Welsh
Available Our Price:
£3.99
| |
| There are no Customer Reviews for this title.
|
|
|
A story about a girl who is chosen to play in a rugby team, and how she succeeds to the astonishment of the boys in the team. Suitable for readers aged 7-9 years. First published in 2005.
Merch mewn tîm rygbi! Ni allai'r bechgyn goelio'r peth pan ddywedodd y Prifathro wrthynt y byddai Ffion Huws yn chwarae yn eu tîm nhw. Doedd hi erioed wedi cydio mewn pêl rygbi o'r blaen, heb sôn am chwarae gêm! Pa obaith fyddai ganddynt i guro bechgyn ysgol y Waun nawr? Ond ar y cae, mae'n stori wahanol! Addas i blant 7-9 oed. Cyhoedwyd gyntaf yn 2005.
|
|
Pan ddewiswyd Ffion i chwarae i dîm yr ysgol, prin y medrai gredu ei chlustiau. Roedd yn hollol argyhoeddedig nad oedd yn gallu chwarae’r gêm. Doedd aelodau eraill y tîm ddim yn hapus o’i chael yn aelod o’u tîm ac nid oedd pethau’n edrych yn addawol o gwbl ar ôl yr ymarfer cyntaf.
Ond roedd Mr Bowen y prifathro yn hollol hyderus y byddai ei thad-cu yn gallu helpu Ffion. Darllenwn beth oedd cyfrinach tad-cu a sut y llwyddodd Ffion i ennill parch aelodau eraill y tîm.
Bydd rhai o’r darllenwyr yn gallu uniaethu â Ffion ac yn cydymdeimlo â hi. Ond cydymdeimlo â’r bechgyn y bydd eraill.
Mae’r lluniau gan Chris Glynn sydd ar y mwyafrif o’r tudalennau yn berthnasol i’r stori ac yn cyfrannu tuag at apêl y llyfr. Ceir yn y llyfr ambell i gymhariaeth dda. Hoffais yr un am y prifathro: ‘edrychai fel eliffant heb drwnc yn ei dracwisg lwyd’ ond ni fyddai hon hanner mor effeithiol heb y llun o’r prifathro ar ddechrau’r llyfr!
Rwy’n siŵr y bydd y llyfr hwn yn apelio at fechgyn a merched fel ei gilydd.
Delyth Davies
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
|
|
There are no Customer Reviews so far for this title.
|
|
|