|
Dyma gyfrol newydd eto yn y gyfres Cerddi Fan Hyn, sef un o weledigaethau adran olygyddol Gwasg Gomer. Uwch olygydd y gyfres yw R. Arwel Jones (Rocet i'w gyfeillion), mae Bethan Mair yn olygydd yng Ngwasg Gomer, a hwy sy'n gyfrifol am gynnwys y gyfrol hon.
Dyma, o bosib, y gyfrol fwyaf diddorol a chyffrous yn y gyfres gan bod gweledigaethau o wahanol begynau'r byd wedi esgor ar wreiddioldeb a delweddau newydd wrth i'r beirdd grwydro priffyrdd anghynefin gan adael y llwybrau plwyfol a fu'n gartref i awen Gymreig ar hyd yr oesau.
Bu rhai o'r beirdd yn crwydro'r byd ers tro bellach, ac eisoes gwelwyd eu hymateb mewn cyfrolau eraill megis cerddi gan Gareth Alban Davies, T. H. Parry-Williams, R. Gerallt Jones, Cynan – i enwi ond ychydig. Ond yma cawn gwmni beirdd cymharol newydd fel R. Arwel Jones, Dafydd John Pritchard, Iwan Llwyd, Grahame Davies, Gwyneth Lewis ac eraill. Estynnodd rhain eu cynfas yn eang, a chyffrous yw eu hymateb i sefyllfaoedd ym mhen draw'r byd. Croesewir gwaith beirdd fel R. Arwel Jones a Dafydd John Pritchard gan na chafwyd hyd yn hyn gyfrolau o'u gwaith barddonol.
Un peth sy'n gwneud y gyfrol mor ddeniadol yw cael darllen cerddi newydd yng nghanol hen ffrindiau o gerddi cyfarwydd a chael bod eu hymateb i leoliad yn hynod o ffres a chofiadwy.
Ond 'ni allwn ddianc rhag hon' meddai T. H. Parry-Williams. Wel, ni allwn ddianc rhag y rhai a gynhwysir yma, sef ei 'rigymau' enwog, rhai a gyfansoddwyd pan oedd ar daith i awelon y Pasiffig, gyda'i 'Niagra', 'O Pica', a 'Chicago' ymysg y rhai a gynhwysir.
Dwn i ddim a osodwyd y gerdd 'O Pica' yn bwrpasol ar y dudalen gyferbyn â 'Soned Hiraeth' gan Bobi Jones. Efallai bod yna gyfandir o wahaniaeth rhwng y ddau fardd – cymhlethdod mynegiant Bobi Jones a'i rythmau astrus o gymharu â mynegiant clir dyfnder meddwl y bardd o Ryd-ddu. Mae Darllen 'O Pica' (mynydd ar un o ynysoedd yr Azores) fel chwa o awel iach ar ôl palfalu drwy 'Soned Hiraeth' ar y dudalen gyferbyn.
Mae hon yn gyfrol a all ddal yn ei blas am flynyddoedd eto gyda nifer o gerddi addawol ac eto aeddfed, sydd yn ein syfrdanu.
Rhown y gair olaf i Dafydd John Pritchard sy'n mynegi profiad llawer un:
‘A dyna ni’n ôl
i ganol yr hyn ydym.
Arian mân anhrosglwyddadwy
yn eithafion ein pocedi gweigion;
a gofalus osgoi gorgyffwrdd â neb
rhag dileu ein lliw haul benthyg.’
Vernon Jones
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|