| Bibliographical Information |
| Cyfres Swigod: Dwyn Cân y BydHefin Jones
View more titles by 'Hefin Jones' |
ISBN: 9781843235286 (1843235285)Publication Date July 2005
Publisher: Gwasg Gomer, LlandysulSuitable for age 9-11 or Key Stage 2
Format: Paperback, 197x129 mm, 64 pages
Language: Welsh
Temporarily out of stock Our Price:
£4.99
| |
| There are no Customer Reviews for this title.
|
|
|
A science-fiction novel set in the year 2056; the evil emperor has banned music by poisoning every musical note. Dafydd and his new friends must find all the lost notes. Suitable for children aged 9-11.
Nofel wyddonias, wedi ei lleoli yn y flwyddyn 2056; mae'r ymerawdwr creulon wedi gwahardd cerddoriaeth drwy wenwyno pob nodyn cerddorol. Yn wyneb hynny mae Dafydd a chymeriadau eraill yn mynd ati i chwilio am y nodau coll. Addas i blant 9-11 oed.
|
|
Dafydd yw disgybl rhif 81816 yn Ysgol Gymraeg 123 Fyd Eang ac mae’n byw yn nhref 171 yng Nghymru. Y flwyddyn yw 2056. O fore hyd nos, mae gajets cyfrifiadurol yn rheoli ei fywyd o’r ystafell gawod electronig sy’n ei olchi a’i sychu i olau coch sy’n rhybuddio ei fam os nad yw wedi glanhau ei ddannedd. Wrth wasgu botwm oren, daw ei orsaf waith i lawr o’r to a bydd ei ddiwrnod ysgol yn dechrau dros y gwifrau. Mr 022 yw’r athro mathemateg a 432576 yw rhif ei ffrind Steffan. Nid oes fiw iddo hel meddyliau na chrwydro oddi wrth ei waith oherwydd mae athrawon yn y flwyddyn 2056 yn gallu darllen meddyliau!
Ond wrth gael gwers hanes am ysgolion y gorffennol yn y flwyddyn 2006, mae ei fywyd yn newid. Daeth i wybod bod disgyblion 2006 yn canu ac yn gwrando ar gerddoriaeth a nodau yn eu clustiau. Felly, pwy sydd wedi dwyn nodau a chaneuon y blaned, tybed? Pwy yw’r Arlywydd Iallor? Sut mae disgybl 81816 yn herio’r blaned?
Mae’r stori ffug-wyddonias yma yn mynnu atebion! Felly, mynnwch gopi!
Gwawr Maelor
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
|
|
There are no Customer Reviews so far for this title.
|
|
|