|
A second volume tracing with warmth and admiration the commitment and development of six Welsh singers who have succeeded on the international stage, namely Stuart Burrows, Rebecca Evans, Katherine Jenkins, Gwyn Hughes Jones, Rhys Meirion and Bryn Terfel. 32 colour and 9 black-and-white photographs.
Ail gyfrol yn olrhain gyda chynhesrwydd ac edmygedd ymroddiad a datblygiad chwech o gantorion Cymreig a lwyddodd ar y llwyfan byd- eang, sef Stuart Burrows, Rebecca Evans, Katherine Jenkins, Gwyn Hughes Jones, Rhys Meirion a Bryn Terfel. 32 llun lliw a 9 llun du-a-gwyn.
|
|
Gan mai digon prin yw unrhyw lenyddiaeth am gantorion a cherddorion Cymru, croesewir unrhyw gyfrol ar gantorion amatur a phroffesiynol. Cyhoeddodd Alun Guy gyfrol flaenorol yn ymdrin â chwe chantor poblogaidd ar lwyfannau Cymru, ond gwasgara’r rhwyd yn fwy eang y tro hwn wrth ysgrifennu am y Cymry ar lwyfannau’r byd. Yn y gyfrol hon, Ar Lwyfan y Byd, ymdrinnir â phump o gantorion operatig, ac un gantores hynod boblogaidd sydd wedi gwneud enw mawr iddi ei hun, a hithau'n dal ond yn ei hugeiniau.
Y gwrthrych cyntaf yw Bryn Terfel, eilun y byd operatig a llysgennad gwych i Gymru. Cawn gefndir Bryn Terfel; ei fagwraeth ym Mhantglas a’i yrfa eisteddfodol gynnar, a nifer o ffeithiau diddorol amdano. Cawn hefyd ambell i gyffyrddiad personol gan yr awdur, Alun Guy, wrth iddo sôn amdano'n beirniadu Bryn Terfel mewn eisteddfodau pan oedd o’n fachgen ifanc, a’r adeg pan gafodd gyfle i fod yn bresennol yn y Met yn Efrog Newydd yng nghwmni’r Terfeliaid.
Yr ail gantor yw Rebecca Evans, sydd yn gwneud enw rhyngwladol iddi hi ei hun fel soprano arbennig. Un a ddechreuodd ei gyrfa fel nyrs, ac un a oedd yn fodlon yn canu fel amatur safonol mewn oratorio a chyngherddau, nes i Bryn Terfel lwyddo i’w darbwyllo i droi at y byd proffesiynol. Mae Alun Guy yn adrodd hanes y cyfnod pan y bu iddo ef a Rebecca Evans gydweithio mewn oratorio.
Bariton cymeradwy oedd Gwyn Hughes-Jones cyn iddo gymryd y cam mentrus a newid i fod yn denor. Bellach mae yntau wedi perfformio yn nhai opera mwya’r byd. Cawn ei gefndir yntau yn cystadlu ar lwyfannau lleol, fel pob un o’r cantorion ac eithrio un – ni fu Rebecca Evans erioed yn cystadlu mewn eisteddfod leol na chenedlaethol. Mae gan Rhys Meirion a Stuart Burrows ddau beth yn gyffredin – y ddau ohonynt wedi bod yn athrawon ac wedi ennill y Rhuban Glas, Stuart Burrows yn 1959 a Rhys Meirion yn 1997. Wynebodd y ddau y fenter o adael swyddi diogel a chamu i’r byd canu proffesiynol. Ni chafodd Stuart Burrows wersi canu ffurfiol erioed, ac nid oedd yn rhaid iddo gynhesu ei lais yn y bore, dim ond bwyta clamp o frecwast mawr! Caiff Stuart Burrows ei gyfrif fel un o gantorion Mozart gorau’r byd, ac mae Rhys Meirion yntau yn prysur gwneud enw iddo'i hun ar draws y byd.
Mae Katherine Jenkins ychydig yn wahanol i’r cantorion eraill oherwydd ei bod hi wedi gwneud enw iddi hi ei hun trwy gwmni cryno-ddisgiau, yn canu cerddoriaeth glasurol a phoblogaidd.
Dywed y broliant ar gefn y gyfrol: ‘Ydyn, maen nhw’n enwau cyfarwydd, ond yn y gyfrol hon cawn gyfle i ddod i’w hadnabod yn well’. Nid yw hi’n gyfrol ddadansoddol nac academaidd – nid dyna oedd y bwriad – ond ceir arddull ysgafn a darllenadwy, a digon o ebychiadau!! Dyma gyfrol ddifyr a hawdd ei darllen tros baned neu awr ginio – prynwch hi!
Trystan Lewis
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|