Your basket
Your Basket is Empty
Go to...
Best-selling Books
Links
|
| Bibliographical Information |
| Sach Winwns, YGary Slaymaker
View more titles by 'Gary Slaymaker' |
ISBN: 9781843235729 (1843235722)Publication Date September 2005
Publisher: Gwasg Gomer, LlandysulFormat: Paperback, 184x125 mm, 168 pages
Language: Welsh
Available Our Price:
£6.99
| |
Customers' average rating:   
|
|
|
A lively and humorous debut novel by the writer from the Cwm-ann area. The story is about the goings-on in a soccer team in south west Wales, which is useless, and faces regular thrashings on their playing field. The curious and bizarre solution to the team's problems comes in the form of an African enchantment to improve their fate!
Nofel gyntaf, fywiog, llawn hiwmor gan y dyn o ardal Cwm-ann. Stori yw am helyntion difyr tîm pêl-droed yn ne-orllewin Cymru sy'n hollol anobeithiol ac yn wynebu crasfa ar Gae Coedmor. Y mae'r ateb yn annisgwyl a braidd yn rhyfedd, sy'n arwain at ddewiniaeth Affrica yn tanio yn y fro.
|
|
Mae’r digrifwr a’r darlledwr Gary Slaymaker wedi troi at ysgrifennu ei nofel gyntaf, ac fel y byddai unrhyw un sydd wedi gweld ei raglen deledu yn ei ddisgwyl, mae hi’n nofel ddoniol, fachog a thros-ben-llestri!
Lleolir y nofel ym milltir sgwâr yr awdur, sef ardal Llanbedr Pont Steffan, neu bentref Cwmann i fod yn fanwl gywir. Mae rheolwr y tîm pêl-droed, Dynamo Cwmann, yn cael ei ysbrydoli gan erthygl yn y Sunday Sport i fynd i Nigeria i ofyn am gymorth witch doctor. Dynamo yw tîm gwaethaf y gynghrair, ac mae Keith Pugh yn gobeithio y gall y dewin hwn newid y sefyllfa. Wedi taith ddifyr, ond ofer, i Lagos, mae’r rheolwr yn dod ar draws rhywun arall a allai fod o gymorth. Yn ystod y tymor mae Mathew Yakubu yn helpu Dynamo Cwmann i un fuddugoliaeth ar ôl y llall.
Ond dyw bywyd ddim yn hawdd yng ngorllewin Cymru. Mae’n rhaid i aelodau’r tîm a’r ‘dewin’ ymrafael â’u gelynion pennaf tîm Ffarmers yn ogystal â dau gasglwr dyledion o Gaerdydd. A'r canlyniad? Stori llawn hwyl nad yw'n cadw at gonfensiynau cywirdeb gwleidyddol am eiliad. Mae yma ddigonedd o dynnu coes a one-liners, a chefais fy hun yn chwerthin yn uchel fel dyn gwyllt sawl tro.
Mae campau hudol Mathew Yakubu ar adegau’n fwy o rwystr nag o help, yn enwedig pan gaiff drafferth i beidio â llosgi’r gôl yn ulw. Ond ar gyfer gêm ola’r tymor, mae’n wynebu sialens fwy nag arfer. Mae tîm y Ffarmers wedi cyflogi eu harbenigwr hudol eu hunain a bydd yn rhaid i Dynamo Cwmann ddod o hyd i ysbrydoliaeth o rywle os ydyn nhw am ennill y gynghrair.
Un o uchafbwyntiau’r llyfr yw’r olygfa lle caiff y ddau ddihiryn o Gaerdydd lond pen o ofn ar ôl cael eu clymu’n noeth mewn beudy a chael dau lo yn ymosod arnynt. Mae’n siŵr na fydd synnwyr digrifwch Gary Slaymaker yn apelio at bawb, ac mae'n annhebygol y bydd yr iaith ‘liwgar’ yn apelio at ddarllenwyr Barddas! Wedi dweud hyn, alla i ddim dychmygu y bydd unrhyw un yn llwyddo i ddarllen y llyfr yma heb ildio i lond bol o chwerthin.
Seiriol Dafydd
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
|
|
"Detholiad o Adolygiad a ymddangosodd yn CLONC - Papur Bro Llanbedr Pont Steffan a'r fro Tachwedd 2005.
Prif nod yr awdur mewn cyfweliad ar y teledu oedd ceisio cael rhai o’i ffrindiau i ddarllen nofel Gymraeg. Os na fydd Gary Slaymaker yn llwyddo i wneud hyn gyda’r nofel unigryw hon, rwy’n ofni na wnaiff neb hynny.
Dyma nofel fywiog yn llawn hiwmor gydag apêl eang iddi. Hyrwyddwyd y nofel ar yr un raglen deledu fel nofel bêl-droed. Dylai apelio at fechgyn yn arbennig. Fel un heb owns o ddiddordeb mewn pêl-droed, roeddwn yn ofni na fyddwn yn ei mwynhau. Ond gallaf ddweud heb flewyn ar dafod, nad oes angen bod yn hwligan pêl-droed hyd yn oed i ddeall a chwerthin am anturiaethau tîm Dynamo Cwmann.
A dyna ddod â ni at yr apêl leol a oedd wedi ysgogi’r chwilfrydedd ynof. Roeddwn eisiau darganfod pwy oedd y bobl leol tu ôl i gymeriadau’r nofel a faint o debygrwydd oedd rhwng Cwmann y nofel a Chwmann y pentref go iawn yr ydym ni yn byw ynddo.
Defnyddir enwau lleoedd sy’n adnabyddus i ni fel: Tafarn y Ram (sy’n ganolbwynt i nifer fawr o gyfarfodydd a gwrthdaro), Cae Coedmor, afon Hathren, siop fwyd Sineaidd Llambed a thîm pêl-droed Ffarmers, Cribyn a Llanwenog. Maen nhw’n llefydd y gallwn ni eu gweld yn glir yn ein meddyliau wrth ddarllen y nofel. Ond eto ceir tipyn o ddychymyg hefyd wrth sôn am Siop Drydan y pentref (a roddodd enw’r Dynamo i’r tîm) a nifer o ffermydd gwreiddiol. Efallai mai dim ond awdur sydd wedi byw mor bell o’r ardal ers cynifer o flynyddoedd sy’n gallu gwneud hyn yn llwyddiannus defnyddio lle go iawn ac ychwanegu mwy iddo er mwyn cael lleoliadau delfrydol i’r digwyddiadau.
Gallaf adnabod ambell un o drigolion yr ardal hon yn y cymeriadau, ond dim ond ambell un. Dywed Gary ei fod wedi selio’r cymeriadau ar bobl y mae’n eu hadnabod ond, i fi, mae llawer o Gary Slaymaker ei hun yn y rhan fwyaf o’r cymeriadau. Gallaf ei glywed e yn yngan y perlau a ddaw allan o enau nifer fawr o gymeriadau’r nofel y geiriau bachog, y tynnu coes ac wrth gwrs y rhegi. Mae gwybodaeth y cymeriadau o ffilmiau hefyd yn ein hatgoffa mai arbenigwr ffilmiau yw awdur y nofel.
Mae’n siwr y bydd nifer yn feirniadol o’r nofel hon oherwydd yr iaith liwgar sydd ynddi. Ond mae awduron eraill, sydd wedi hen ennill eu plwyf, wedi sefydlu rhegfeydd yn y nofel Gymraeg erbyn hyn. Enillodd Caryl Lewis wobr Nofel y Flwyddyn am ei nofel Martha, Jac a Sianco. I’r rhai ohonoch sydd wedi darllen y nofel honno, ni allwch ddarllen heibio’r frawddeg gyntaf heb ddod ar draws rheg. Mae’r elfen o sioc wrth gynnwys rhegi mewn llenyddiaeth yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol erbyn hyn, ac yn hytrach na cheisio bod yn cŵl, mae Gary Slaymaker a Caryl Lewis ond yn llwyddo i adlewyrchu’r ffordd o siarad yn ein cymunedau. Pwy ddaeth ar draws tîm pêl-droed sydd ddim yn rhegi beth bynnag? Byddai’r nofel hon yn dlotach o lawer heb hyn.
Ond yn fwy na’r rhegi, ysgrifenna Gary yn nhafodiaith hyfryd yr ardal. Mae’r cyfan a ddywedir gan y cymeriadau mor fyw ac mor real i mi. Chewch chi ddim nofel mwy addas i ni, bobl Cwmann a Llambed, na Y Sach Winwns. Os na ddarllenwch chi hon, fyddwch chi byth yn darllen nofel Gymraeg.
Mae’r stori yn cydio ynoch. Byddwch yn cydymdeimlo a chymeriadau’r nofel yn gwmws fel pe byddech yn cydymdeimlo â thrigolion eich pentref chi. Bydd un bennod yn arwain at y llall. Does dim themâu trwm ynddi na gormod i wneud i chi feddwl, dim ond adloniant pur a llond tŷ bach (yn dibynnu ar ble fyddwch yn darllen fel arfer) o chwerthin.
Efallai ei fod wedi ymestyn y stori braidd mewn mannau. A fyddai rhywun mewn pentref gwledig fel Cwmann wedi mynd mor bell i gyflogi Witch Doctor? A tybed a oedd Gary Slaymaker wedi yfed un peint bach yn ormod cyn ysgrifennu am yr hyn ddigwyddodd ar y cae yn ystod y gêm derfynol?
Ta beth, yn ystod y darlleniad, bûm i’n chwerthin ar dop fy llais gan feddwl fy mod ar Gae Coedmor a Thafarn y Ram gyda nhw. Daeth deigryn i fy llygaid, yn ogystal â gwên i fy wyneb, wrth ddarllen am yr angladd yng Nghapel ‘Bethania ar dopiau Cwmann’ hefyd.
Rydym yn ffodus fod Cwmann, y pentref go iawn, yn bentref yn llawn gweithgarwch, ond siom a ddaeth i mi ar ôl gorffen darllen y nofel. Sylweddolais nad oes tîm pêl-droed yn y Cwmann go iawn a bod Tafarn y Ram yn dal ar gau.
Prysured y dydd pan fydd Gary Slaymaker yn cyhoeddi ail nofel am anturiaethau’r Dynamo. Rwy’n siwr fod digon o ddeunydd yn y cymeriadau eto i lanw nofel arall. Rwy’n edrych ymlaen at ailymuno â nhw yn Ram y nofel a’r Ram go iawn, yn y pentref sy’n adnabyddus i Gymru gyfan erbyn hyn, diolch i Gary Slaymaker.
Dylan Lewis
"
|
|
|
|
More Titles
|
People who bought this title also bought the following:
|
Book of the Month
|