Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
O Drelew i Dre-fachMarged Lloyd Jones View more titles by 'Marged Lloyd Jones'
ISBN: 9781843237044 (1843237040)Publication Date March 2007
Publisher: Gwasg Gomer, Llandysul
Format: Paperback, 215x139 mm, 235 pages Language: Welsh Available Our Price: £9.99 
O Drelew i Dre-fach
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
An edition of 'Nel Fach y Bwcs' and the sequel 'Ffarwél Archentina' by Marged Lloyd Jones, containing photographs of Patagonia. It recounts the story of a young girl who sailed to Patagonia in 1870 and spent her early years there; this updated version offers a chance to relive the remarkable story.

Argraffiad o 'Nel Fach y Bwcs' a'r dilyniant 'Ffarwél Archentina' gan Marged Lloyd Jones, yn cynnwys lluniau o Batagonia. Ceir hanes y ferch a hwyliodd i'r Wladfa ym 1870 ac a dreuliodd ei blynyddoedd cynnar yno, ac yn y diweddariad hwn ceir cyfle o'r newydd i olrhain yr hanes rhyfeddol hwn.
Gan fy mod yn byw yn Nhrelew roeddwn yn awyddus iawn i ddarllen y gyfrol newydd hon sydd yn gyfuniad o ddau lyfr a gyhoeddwyd ychydig flynyddoedd yn ôl.

Cyfres o storïau yw'r gyfrol a glywodd yr awdur gan ei mam-yng-nghyfraith, Nel, brodor o Llain-las ym Mhatagonia, lle roedd ei thad yn gwerthu llyfrau. Mae’r llyfr cyntaf, Nel Fach y Bwcs, yn olrhain hanes cynnar Ellen, neu Nel. Atgofion plentyndod yw llawer ohonynt – y fferm, y paith, yr anifeiliaid, a’i bywyd beunyddiol yno a Nel ei hun yn dweud yr hanes. Mae’r ysgrifennu’n gynnil iawn ac er nad oes disgrifiadau meithion rydym yn cael yr argraff yn glir fod bywyd ar y paith yn galed iawn, iawn iddi hi a’r Gwladfawyr cynnar.

Cawn argraff o ddiniweidrwydd ei phlentyndod a ddaw i ben gyda marwolaeth ei mam a hithau yna’n gorfod rhoi’r gorau i’r ysgol er mwyn gofalu am y tŷ, ei brodyr a’i thad. Cawn hanes yr Indiaid brodorol yn ymweld â’i chartref un diwrnod yn holi am fara ac, wedi clywed am farwolaeth ei mam, hithau’n derbyn rhodd o boncho y pennaeth – trysor a gadwyd ganddi hi a’i theulu ar ei hôl.

Yn Nel Fach y Bwcs cawn hanes ei bywyd hyd at yr adeg pan wnaeth ei thad benderfynu dychwelyd i Gymru ar ôl llifogydd 1899, a Nel yn gorfod mynd gydag ef.

Dyma ydy testun yr ail lyfr mewn gwirionedd Ffarwél Archentina – yr ymfudo o gymdeithas glòs ei chynefin ym Mryn Crwn ger y Gaiman i Gymru, a’r anhawster a gafodd yn setlo yno. Lle mae’r llyfr cyntaf yn gynnil ac yn cyfleu llawer mewn ychydig eiriau nid yw’r ail lyfr yn taro’r un nodyn – yma ceir mynegiant tipyn mwy manwl ac ychydig yn ailadroddus, efallai. Er hyn, mae’n cyfleu pa mor anodd oedd hi i Ellen adael y Wladfa ac ymgartrefu yng Nghymru, ond ro’n i’n hiraethu am gynildeb y llyfr cyntaf.

Mae’n amlwg fod y gyfrol wedi bod yn llafur cariad o gasglu ac ysgrifennu atgofion a lluniau i deulu Nel neu Ellen. Credaf mai dyma’r unig enghraifft o hanes cynnar y Wladfa sy’n cyfleu caledi’r bywyd drwy lygaid mor bersonol, drwy lygaid merch, ac am hynny mae’n werthfawr iawn i bawb sy’n ymddiddori yn y pwnc.

Edrychaf ymlaen at weld y ddrama ddogfen sy’n seiliedig ar yr hanes, yn enwedig gan mai teulu Nel sydd wedi ei chynhyrchu.

Catrin y Milton

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Haul ac Awyr Las - ...
Cathrin Williams
£5.50
These Poor Hands - The ...
B. L. Coombes
£10.99
 
Buy Now
Ffydd, Gobaith, Cariad
Llwyd Owen
£7.95
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now