Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Gwe o GelwyddauDelyth George View more titles by 'Delyth George'
ISBN: 9781843237174 (1843237172)Publication Date May 2006
Publisher: Gwasg Gomer, Llandysul
Format: Paperback, 194x128 mm, 192 pages Language: Welsh Available Our Price: £7.99 
Gwe o Gelwyddau
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
An exciting, contemporary novel, which is full of conspiracy, spin and satire. Under the surface there is one constant theme - the tortured struggle of one young woman as she tries to come to terms with the dark past which threatens to destroy her future and those around her.

Nofel gyfoes, gyffrous sy'n llawn cynllwyn, sbin a dychan. Ond o dan yr wyneb mae 'na un thema gyson - brwydr ingol merch ifanc i ddod i delerau â gorffennol tywyll sy'n bygwth chwalu'i dyfodol hi ac eraill o'i chwmpas.
Roedd dyfodiad y Cynulliad Cenedlaethol ym 1999 yn cael ei weld fel cychwyn newydd, yn gyfle i ni fel Cymry ddatblygu ein hunaniaeth fel cenedl. Gyda chyhoeddi Gwe o Gelwyddau, mae elfen arall o’r hunaniaeth honno wedi’i sefydlu bellach, sef nofel wedi’i gosod yng nghoridorau grym y Cynulliad ei hun.

Cymraes yn gweithio fel gohebydd ar bapur newydd y Daily News yn Llundain yw Emma, prif gymeriad y nofel. Mae ei golygydd yn awyddus iddi fynd ar drywydd straeon yn y Cynulliad newydd yng Nghaerdydd, ac ar ymweliad â’r Bae mae’n dod ar draws cyfreithiwr uchelgeisiol o’r Gorllewin, Arwel Evans, sydd â’i fryd ar fod yn Aelod Cynulliad. Ond nid dyma’r tro cyntaf iddyn nhw gwrdd. Bu’r ddau yn y coleg gyda’i gilydd, ac er nad ydyn nhw wedi gweld ei gilydd ers pymtheng mlynedd, mae’r hyn ddigwyddodd flynyddoedd yn ôl yn dal i losgi’n chwerw ym mynwes Emma.

Yn ystod y blynyddoedd ers gadael y coleg, mae Arwel wedi tyfu i fod yn gyfreithiwr llwyddiannus, ac mae’r darlun ohono yn y nofel yn ddisgrifiad rhagorol o’r brîd newydd o wleidydd sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil Llafur Newydd, a bellach y Torïaid newydd hefyd. I bob golwg, mae’n gyfeillgar, yn agored ac yn onest ac mae’n llwyr gredu bod ganddo hawl i yrfa wleidyddol lwyddiannus. Nid tân argyhoeddiad sy’n ei symbylu ond awydd am rym. Gwleidydd arall yw Dai Davies, prif chwip y llywodraeth, hen gadno sydd â’i fysedd ym mhob briwes ac sy’n dyheu am fod yn brif weinidog; dyma gymeriad fyddai’n hollol gartrefol yn House of Cards gan Michael Dobbs, nofel oedd yn dychanu llywodraethau’r wythdegau.

I ganol hyn, daw Emma â’i hagenda bersonol, yn barod i aberthu popeth er mwyn dod i delerau â’i gorffennol poenus. Er bod ganddi yrfa lewyrchus a chariad yn Llundain, fe wyddom fod hyn yn bwysicach, a dyna sy’n gyrru’r stori yn ei blaen. Mae’r nofel yn symud yn dda, ac er i mi ddechrau teimlo ar un adeg na fyddwn i fyth yn cael gwybod beth yw cyfrinach Emma, ar y cyfan mae’n llifo yn hollol naturiol ac yn cyrraedd penllanw digon dramatig. Roeddwn i’n llwyr gredu yng nghymeriadau Emma ac Arwel, ac er ei bod yn well gen i beidio â chredu bod y fath bobl yn llywodraethu’r wlad, roedd tinc o ddilysrwydd yn y disgrifiadau o weithrediad y system wleidyddol hefyd, gyda’r holl ystrywiau dichellgar a chynllwynio cyfrinachol.

Mae hon yn nofel gyntaf ragorol, a gobeithio y gwnaiff Delyth George ysgrifennu rhagor; ac er nad oeddwn yn hollol siŵr a oedd y tro annisgwyl ar y diwedd yn gweithio, mae’n rhaid i mi gael gwybod beth sy’n digwydd nesa’!

Catrin Beard

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Ddraig Goch, Y
Emlyn Roberts
£6.95
 
Buy Now
Esgyrn Bach
Tony Bianchi
£7.95
 
Buy Now
Atyniad - Enillydd Medal ...
Fflur Dafydd
£6.95
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now