Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Aaaaaaaaaa! Corryn!Lydia Monks View more titles by 'Lydia Monks'
ISBN: 9781843237204 (1843237202)Publication Date June 2006
Publisher: Gwasg Gomer, Llandysul
Illustrated by Lydia MonksAdapted/Translated by Sioned Lleinau.Suitable for age 0-7 or Key Stage 1 Format: Paperback, 269x216 mm, 32 pages Language: Welsh Out of print Our Price: £4.99   
Aaaaaaaaaa! Corryn!
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
Corryn's life is very lonely; why can't he be a family pet? He can dance, and wash & feed himself, unlike other pets. The story is revealed aided by colorful illustrations, together with short text. Suitable for readers aged under 7 years.

Mae bywyd Corryn yn unig iawn, pam na all fod yn anifail anwes a pherthyn i deulu, un teulu arbennig iawn? Mae'n gallu dawnsio, golchi a bwydo ei hun, yn wahanol i lawer o anifeiliaid anwes eraill. Gyda llawer o'r stori yn datgelu ei hun drwy'r lluniau lliwgar, sgleiniog mae'r testun byr yn creu llyfr stori hwyliog. Addas i ddarllenwyr dan 7 oed.
Mae pob plentyn yn ysu am gael anifail anwes, boed yn gi, yn gath, yn gwningen neu’n gorryn. Corryn?! Ie, dyma stori fach hyfryd am gorryn sy’n ysu am fod yn anifail anwes i’r teulu yn ei ystafell fyw. Tro bach hyfryd, ac ateb cyfleus i bob rhiant sydd wedi cael llond bol ar y plant yn swnian eisiau anifail anwes!

Mae’r stori hon yn wych hefyd ar gyfer unrhyw blentyn (neu oedolyn) sydd yn sgrechian bob tro maen nhw’n gweld pry copyn. Cawn weld y byd yn llythrennol ar ei ben i lawr o safbwynt y pry copyn, ac allwch chi ddim ond cynhesu tuag at y creadur druan! Anodd iawn yw byw yn yr un tŷ ag anifeiliaid eraill sy’n cael y sylw i gyd a’r ymateb mae’n ei gael bob cyfle yw ‘Allan â ti!’. Yn ddi-os dyma stori fach berffaith i gyflwyno’r pry copyn a’i fywyd i blentyn bach.

Mae’n stori fywiog a chwareus, a’r addasiad wedi dal yr awyrgylch i’r dim. Pleser hefyd yw’r lluniau mawr lliwgar, yn enwedig yr olwg ar wynebau’r bobl wrth iddynt ddod wyneb yn wyneb â’r pry copyn. Mae’r ffordd y dyluniwyd gwe’r corryn wir yn hyfryd, gan y gallwn hefyd gyffwrdd a theimlo’r disgleirdeb. Dyma stori sydd yn wir yn ein cymell i barchu’r pry copyn a’i grefft.

Yr unig drueni am y llyfr yw’r ffont a ddefnyddiwyd, a’r ‘a’ dieithr i blant bach yn golygu na allant ymuno wrth ddarllen y sgrech ‘Aaaaaaaa!’ (ond efallai mai da o beth yw hynny!).

Gwenllïan Dafydd

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.



Further Information:
A funny story about a spider who wants to belong to a family. An adaptation of Aaaarrgghh, Spider!(Egmont).
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
A-Bi-Clec! Hwyl Gyda'r ...
Haf Llewelyn
£6.99
 
Buy Now
Wini'r Wrach
Valerie Thomas
£2.00
 
Buy Now
Ffrindiau Gorau
Josie Firmin
£4.50
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now