Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Hogan HorniMenna Medi View more titles by 'Menna Medi'
ISBN: 9781843237297 (1843237296)Publication Date July 2007
Publisher: Gwasg Gomer, Llandysul
Format: Paperback, 192 pages Language: Welsh Available Our Price: £7.99 
Hogan Horni
Customers' average rating:
 
Write a Customer Review
 
Read Reviews...
Welsh Novel of the Month: August 2007
A humorous novel about Tina Thomas, a newspaper reporter with the Borth Journal.

Nofel llawn hiwmor yn dilyn hwyl a hanes Tina Thomas, gohebydd papur newydd y Borth Journal.
Dyma nofel feiddgar sy’n ddigon lliwgar ar adegau! Am fod y nofel yn llawn o ddisgrifiadau graffig a nodweddion arddull awgrymog, mi fydd hi’n siŵr o wneud i bob darllenydd gochi! Mae'r nofel yn dilyn hanes Tina Thomas, newyddiadurwraig ifanc a brwd i’r Borth Journal. Heb ddatgelu’r plot yn ormodol, rydym yn dod i adnabod cymeriadau pentref y Borth a ffrindiau Tina. Wrth i gyfrinachau pawb gael eu datgelu’n araf, buan y sylweddolwn fod digon o gyfrinachau a digwyddiadau yn y pentref bach i synnu pawb. O Gwennan, yr eneth barchus a diniwed sy’n gorfod wynebu cyfrinach fawr yn angladd ei ‘mam-gu’, i’r doctor parchus, Richard Jones, sy’n gi nwydwyllt tu ôl i ddrysau caeedig! Cawn ddod i adnabod Bryn y Boncyn, y ffermwr cyfrwys sy’n ysu am ddynes i lenwi'i fywyd, ond feddyliodd neb y byddai’n cael ei fachau ar yr un a gafodd yn y pen draw!

Dyma nofel hawdd i’w darllen, er i mi deimlo ar adegau ei bod yn aros yn ei hunfan yn rhy hir. Gall rhai o’r cymeriadau fod yn rhy ystrydebol weithiau, ac efallai bod tuedd i geisio bod yn rhy liwgar ac amrwd, sydd ddim yn llwyddo bob tro. Yn sicr dyma nofel i’w darllen ar bnawn dydd Sul diog ac a fydd yn bendant yn ennyn chwerthiniad a gwên fydd yn codi calon rhywun.

Mae'r mynegiant yn flêr mewn mannau sydd yn llesteirio'r darlleniad o bryd i'w gilydd. Mae yma ddigon o regfeydd i ddal diddordeb llond tafarn o ddynion meddw, a digon o ryw i ddychryn y ci mwyaf. Yn ddi-os, mae yma ddiddanwch mewn nofel hawdd i’w darllen nad yw’n gofyn gormod gan y darllenydd.

Lowri Mair Jones

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Further Information:
Sex and the single Welsh girl...


It’s a fact that more and more young people are staying single for longer these days – whether by choice or just because that’s just the way things have turned out. And whilst Bridget Jones has gone all Hollywood on us and shrunk to a size zero, back in Wales a fun, feisty lady is ready to step into her stilletos in the form of Tina Thomas, the protagonist in Hogan Horni (Horny Girl), a new novel by Gomer which is published this month.
Tina is a confident, sexy journal trying her best to enjoy life – with or without the perfect man. She shares a flat with her friends Ann and Gwenan and is trying to juggle four men at the same time – Bryn y Boncyn, a harmless farmer who’s mad about her, Antonio the hunk who likes to ‘rendez-vous’ once in a while, Jeff Parry her boss at the Borth Journal, and Dr Richard Jones ‘her perfect Adonis’, who just happens to be married. In between all the loving, lager and laughter Tina gets hold of a major scoop which may well change her life forever.
This is Menna Medi’s debut novel. Originally from Llanuwchllyn near Bala, she now lives in Y Groeslon near Caernarfon. And although the novel came about as a result of Menna winning a competition at the National Eisteddfod in 2001, she hopes it will be a novel that everyone can enjoy.
Menna said, “I haven’t written it to please any critics or academics. I’ve written it for the people who pass me on the street in Caernarfon and ask me when my sexy lady’s going to be hitting the bookshops, and where the bookshop is so they can get a copy! Yes, there’s a bit of sex and a bit of swearing in the book – that’s everyday life for most people, but I’ve also tried to bring up more serious subjects such as the difficult life farmers have, religion, illness and death. If the book means that more people give reading in Welsh a go, then I really don’t care about offending the posh people!”

Last Updated on 08 March 2011
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
Undeg Lewis from Efailwen rated this title and wrote:
"Wedi edrych ymlaen at ddarllen y llyfr hwn ac wedi cael fy mhlesio'n fawr iawn. Llyfr yw hwn na allen i ei roi i lawr unwaith imi ddechrau ei ddarllen. Mae'n rhoi'r argraff i mi fod yr awdures yn dipyn o haden i fedru ysgrifennu fel hyn. Edrychaf ymlaen at y llyfr nesaf a fydd, gobeithio, yn debyg i hwn. Arbennig, Menna Medi! "
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Brychan Dir
Nansi Selwood
£6.50
 
Buy Now
Gwyddoniadur Cymru yr ...
 
£55.00
 
Buy Now
Welsh in Iowa, The
Cherilyn A. Walley
£45.00
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now