| Bibliographical Information |
| Ar Bwys...Mererid Hopwood
View more titles by 'Mererid Hopwood' |
ISBN: 9781843237488 (1843237482)Publication Date March 2007
Publisher: Gwasg Gomer, LlandysulIllustrated by Susie GrindeySuitable for age 7-9+ or Key Stage 2
Format: Paperback, 244x164 mm, 32 pages
Language: Welsh
Available Our Price:
£4.99
| |
| There are no Customer Reviews for this title.
|
|
|
A collection of poems on a variety of topics by one of Wales's Childrens' Poets, Mererid Hopwood. Colourfully illustrated by Susie Grindey.
Casgliad o gerddi bywiog ar amrywiaeth o themâu gan un o feirdd plant Cymru, Mererid Hopwood. Ceir darluniau lliwgar gan Susie Grindey.
|
|
Dyma gyfrol o gerddi llawn swyn a sain gan y Prifardd Mererid Hopwood. Cawn ein denu’n syth at y clawr a’r lluniau lliwgar gan Susie Grindey, ond yn fwy na hynny mae’r teitl rhywsut yn hoelio ein sylw ac yn ein hudo i agor y llyfr a busnesu rhwng y cloriau. Yno, yng nghanol y tudalennau, cawn ein tywys i mewn i fyd o liw a rhyfeddodau plentyn gan ddianc am sbel ar daith drwy deimladau a digwyddiadau o gerdd go swnllyd am fabi bach i gerdd llawn swyn i’r storïwr mawr, T. Llew Jones.
Mae’r cyn-fardd plant yma’n adnabod plant i’r dim. Mae yma ryw empathi rhyfeddol o fewn yr 19 cerdd sy’n llwyddo i dreiddio i fyd plentyn gan gydio’n gelfydd yn y pethau bach annisgwyl a’u troi’n rhyfeddodau. Mae symlrwydd i’r dweud ond eto, mae’r cerddi’n dweud cyfrolau. Gellir eu darllen drosodd a throsodd a’u mwynhau dro ar ôl tro ar goedd neu’n breifat.
Yn wir, ni ellir rhoi oedran addas ar gyfer y gyfrol hon oherwydd mae modd darllen y cerddi ar sawl lefel. Ond waeth beth fo’ch oedran, ni ellir llai na chael eich hudo gan gerddi’r saer geiriau yma.
Elen Rhys
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
|
|
There are no Customer Reviews so far for this title.
|
|
|