|
A combination of poetry and striking photographs of the Welsh coast. This volume gives a new and fresh light on our familiar coast. The photographer's notes offer an insight to his work, and the volume also includes a colour map of the locations featured.
Cyfrol hardd yn cyfuno geiriau a delweddau am arfordir unigryw Cymru. Dengys y gyfrol hon ddarlun newydd, cyfoes o holl amrywiaeth yr arfordir. Gyda nodiadau gan y ffotograffydd yn esbonio cyd-destun rhai lluniau a hefyd fap lliw o'r lleoliadau yn y gyfrol.
|
|
Dyma gydweithio effeithiol rhwng ffotograffydd a bardd. Mae’r syniad sylfaenol yn gynhyrfus, sef dirwyn trumwedd ein gwlad o gwmpas ei harfordir. Byddwn yn canu fod y ‘môr yn fur’ i ni. Ac eto y mynyddoedd a’r dyffrynnoedd yw calon a chadarnle ein diwylliant, tra’r erydwyd iaith a diwylliant rhimynnau cyfain o’n harfordiroedd. Ond rhan o lwyddiant y gyfrol hon yw’r modd y cawn ein hargyhoeddi ganddi fod ‘y môr yn ein gwaed ni erioed’, chwedl Iwan Llwyd.
Ceir yma ddyfyniadau o’r hen glasuron, o Tacitus i lenorion yr ugeinfed ganrif. Ond y mae Iwan wedi anrhydeddu’r gyfrol â champ ei gerddi gwreiddiol. Gellid dyfynnu’n helaeth, megis y syniad gogleisiol am ryw fwyalchen yng Nghilgwri yn dal i guro ar eingion y gof, y cywydd rhagorol, ‘Gweld Iwerddon’, a’r delyneg i Aber Henfelen sy’n llawn cyfoesedd ac adleisiau hen hanes. Mae’r delweddu drwy’r cerddi yn gyson gelfydd, a hynny ynddo’i hun yn rhoi gwerth llenyddol arhosol i’r gyfrol.
Y mae dawn Aled Rhys Hughes yntau yn hysbys i’r genedl ers blynyddoedd. Mae dilyniant y lluniau yn dangos llygad a chrebwyll y tu hwnt i’r cyffredin. Mae ongl y gweld yn annisgwyl o drawiadol weithiau. Bryd arall fe fydd crymanu rhyw draeth yn datgelu’r modd y gall natur gynnig ei phersbectif ei hun ar ryw wrthrych. Anodd fuasai wedi rhagweld y byddai darluniau du a gwyn yr ewyn brochus o dan Bont Menai, neu aruthredd creigiau, fod mor effeithiol. Mae gan Aled draethau gweigion a llongau unig sy’n llawn cyfaredd. Cefais rai o’r lluniau yn foddhad llwyr i’r llygad, fel llun Abereiddi. Cefais rai eraill yn cyffroi rhyw chwilfrydedd, a barodd imi droi at y teitlau hylaw yn niwedd y gyfrol. Rhyfeddaf mor newydd i mi yw arfordir fy ngwlad fel y’i gwelaf drwy lygad camera Aled. Y mae, o bwrpas am wn i, wedi osgoi’r cyfarwydd ystrydebol. A thrwy amrywio cyfansoddiad, a hyd yn oed amseru un llun, y mae dro ar ôl tro yn llwyddo i greu ym mhob portread ei awyrgylch ei hun.
Y mae hwn yn llyfr gwirioneddol gyfoethog. Fe allai Iwan fod wedi cyhoeddi’r cerddi hyn yn gyfrol safonol a safai ar ei thraed ei hun. Felly hefyd y gallai lluniau Aled fod yn gasgliad a gyfoethogai gelfyddyd weledol ein cenedl. Ond os bu erioed ddau am bris un, y mae hwn yn haeddu ei le yng nghartrefi Cymru.
John Gwilym Jones
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|