Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers   Cymraeg  
Bibliographical Information
Cyfres Whap!: Blas Cas
Author: Ion Thomas
View more titles by 'Ion Thomas'
ISBN: 9781843237808 (1843237806)
Publication Date October 2007
Publisher: Gwasg Gomer, Llandysul
Suitable for age 12+ or Key Stage 3
Format: Hardback, 196x127 mm, 112 pages
Available 
There are no Customer Responses for this title.
 
 
Cyfres Whap!: Blas Cas
Our Price: £4.99 
A novel for teenage readers about Dafydd, a bright 15 year old pupil at a Welsh school who's also talented on the rugby field. This book portrays life at Newport city, including drugs and what incites today's youth. This is Ion Thomas's first novel. Play Audio

Nofel i ddarllenwyr yn eu harddegau am Dafydd, disgybl 15 oed galluog mewn ysgol Gymraeg yn seren ar y cae rygbi. Blas ar fywyd yn ninas Casnewydd, cyffuriau a'r hyn sy'n cyffroi pobl ifanc heddiw yw cefndir y llyfr hwn, nofel gyntaf Ion Thomas, athro Cymraeg yn Ysgol Gyfun Gwyllyw, Pontypwl. Clip Sain
Llongyfarchiadau i’r awdur am symlrwydd a chlyfrwch y teitl! Dyma stori antur am fachgen ifanc o Gasnewydd a’i ffrindiau sydd yng nghanol trybini oherwydd gwaith arbrofi gan ei dad. Mae tad Dafydd yn wyddonydd sy’n treialu cyffur newydd sbon sy’n gallu trwsio neu adnewyddu a chryfhau cymalau – gwaith arloesol. Dafydd yw un o’r rhai sy’n cymryd rhan yn yr arbrawf. Dwi’n amau’n fawr, cofiwch, a fuasai gwyddonydd yn cael gwneud hyn – mae’n siŵr fod ganddyn nhw god ymarfer tyn iawn.

Mae bywyd Dafydd yn llawn cyffro ac antur ac mae’r awdur yn cyfleu hyn yn effeithiol tu hwnt. Braf hefyd yw dysgu am rai o lefydd enwog Casnewydd fel y bont gludo enfawr sydd yno. Roedd y llyfr yn dal y dychymyg drwyddo draw – doeddwn i ddim eisiau ei adael ar ei hanner a dweud y gwir.

Ond roedd yna ddau beth a wnaeth i mi deimlo’n eithaf anghysurus wrth ddarllen y nofel. Un ohonynt oedd agwedd nawddoglyd a sarhaus y prifathro wrth sôn am ‘rieni rabsgaliwns diegwyddor a garw’r ysgol’ a oedd yn bobl ‘y dafarn a darllenwyr y Sun, heb fawr o drefn yn eu cartrefi na rheolaeth ar eu plant’. Roedd plant y rhieni hyn yn ‘mynnu sylw ac egni’r holl athrawon, yn lladd ysbryd ei staff ac yn gostwng y safonau’. (Mae’n siŵr y gallai rhywun ddadlau bod hwn yn bwnc i athrawon ei drin a’i drafod gyda’r disgyblion.) A’r peth arall yw mai plant bach neis, neis gydag enwau Cymraeg yw ffrindiau Dafydd sef Ffion, Angharad a Llinos – a beth yw enwau’r dihirod? Wel – Craig, Jason, Jake, Pete a Dexter! Elfen gref o ‘stereoteipio’ fan hyn, falle?

Ond credaf fod yma stori gref sy'n llawn haeddu canmoliaeth am greu naws ‘James Bondaidd’ yn hollol grediniol yn Gymraeg. Dwi wedi gwirioni ar y clawr hefyd.

Pam mae’r teitl mor glyfar? Wel, meddyliwch am leoliad y llyfr ac yna meddyliwch am brif thema’r stori – darllenwch y llyfr ac mi fydd popeth yn glir fel grisial!

Afryl Davies

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Further Information:
Peryglon ‘Hwdlyms’ Casnewydd

Blas ar fywyd yn ninas Casnewydd, cyffuriau a’r hyn sy’n cyffroi pobl ifanc heddiw yw cefndir Blas Cas, nofel gyntaf Ion Thomas, athro Cymraeg yn Ysgol Gyfun Gwyllyw, Pontypŵl. Blas y de-ddwyrain welir yn y llyfr hwn yng nghyfres Whap! a gyhoeddir gan Wasg Gomer, ond mae’r awdur ei hun yn hanu o Gaerfyrddin yn y de-orllewin. Gyda thwf aruthrol ysgolion Cymraeg y de-ddwyrain, gall eu disgyblion yn arbennig uniaethu â chynnwys a thafodiaith y stori hon a lleoedd fel Rodney Parade a Chanolfan Glanyrafon.

Mae’r awdur Ion Thomas hefyd yn gyfarwydd iawn â Rodney Parade oherwydd clywir ei lais yn aml ar Radio Cymru fel sylwebydd rygbi. Mae’r gêm hefyd yn chwarae rhan yn Blas Cas wrth i’r prif gymeriad, Dafydd, gael ei ddanfon o’r cae rygbi wythnos cyn iddo chwarae dros y sir! Roedd mor gryf ac egnïol ond ai bai y cyffur roedd e’n ei dreialu oedd hynny? Mab i wyddonydd oedd Dafydd ac fel sawl un arall roedd wedi cytuno i gymryd rhan mewn arbrawf i dreialu cyffur newydd sbon. Dyma sydd wrth wraidd yr helynt a’r cyffro yn y ‘thriller’ hwn i ieuenctid.

Beicwyr mewn hwdis ar y strydoedd yn herio cyfraith a threfn “ ‘Odd e’n mega ffyni,’ dechreuodd Pete adrodd yr hanes wrth ei gynulleidfa. ‘Weles i fe’n smaco mewn i’r cyrb ac yn smasho drwy’r ffenest. Cyfle gwych i smash and grab! We hei! Bingo! Gawson ni loads o stwff.” Dyma hwdlyms Casnewydd a’u hiaith fratiog ond pobl hŷn, cyfrwys â’u chwant barus i gael eu dwylo ar y cyffur newydd er eu lles ariannol eu hunain, yw’r perygl mwyaf yn Blas Cas.

Gwrthdaro â rhieni, cael eich diarddel o’r ysgol ac ymgyrchu dros yr iaith yw rhai o’r themâu eraill sy’n dod i’r brig yn Blas Cas.