| Bibliographical Information |
| Cyfres Whap!: O Ongl ArallMartyn Geraint
View more titles by 'Martyn Geraint' |
ISBN: 9781843238027 (1843238020)Publication Date October 2007
Publisher: Gwasg Gomer, LlandysulSuitable for age 12+ or Key Stage 3
Format: Paperback, 195x127 mm, 80 pages
Language: Welsh
Available Our Price:
£4.99
| |
| There are no Customer Reviews for this title.
|
|
A novel following the trials of a football referee. Play AudioNofel hwyliog yn llawn antur yn dilyn hynt a helynt reffari tim pêl-droed. Clip Sain
|
|
Dyma deitl arall yn y gyfres ‘Whap!’, cyfrol sy’n denu’r darllenydd a’i gadw ar flaen ei draed.
Fe fydd edrych ar glawr O Ongl Arall yn sicr o apelio at fechgyn yn eu harddegau gan fod pêl-droed i’w gweld yn amlwg iawn yma. Wedi disgwyl darllen nofel am chwaraeon – pêl-droed yn arbennig, cafwyd syrpreis! Mae’r awdur wedi llwyddo i ysgrifennu nofel llawn dirgelwch a chyffro, a digwyddiadau rhyfedd sy’n digwydd mewn gêm arbennig o bêl droed yn ganolog i’r plot. Efallai, ar adegau, fod gormod o ddigwyddiadau rhyfedd yn digwydd yr un pryd ac y gallai hyn gymhlethu rhai darllenwyr.
Ond rhaid dweud ei bod yn amhosib rhoi’r gorau i ddarllen hon wedi gafael ynddi.
Siân Eirug
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Further Information: Y cyflwynydd teledu o ongl arall
Rhaglenni plant bach, cyflwyno ‘Dechrau Canu, Dechrau Canmol’, canu a diddanu – dyna i chi’r amryddawn Martyn Geraint. Ond erbyn hyn fe all ef ychwanegu awdur at y rhestr wrth i’w nofel gyntaf i blant, O Ongl Arall, gael ei chyhoeddi gan Wasg Gomer. Wedi cyflwyno Planed Plant am bedair blynedd ar ddeg a chynnal sesiynau difyr a bywiog gyda phlant ifanc ar hyd a lled Cymru, mae’n dipyn o syndod taw nid ar gyfer y gynulleidfa ifanc iawn y lluniodd y stori hon. Llyfr yng nghyfres Whap! ar gyfer darllenwyr 11+ oed yw O Ongl Arall ac mae’n siwr bod hoffter meibion yr awdur o bêl-droed wedi bwydo’i ddychymyg wrth fynd ati i greu’r nofel.
‘ Y cyfan dw i’n ei wybod yw fod rhywbeth rhyfedd yn digwydd i mi weithiau pan wy’n barod i saethu o flaen y gôl yma. Mae fel tase rhywbeth yn gafael yn ‘y nhroed i!’ ‘ Ie, ie! ‘Na’r esgus gorau ‘to!’
Mae gan bêl-droedwyr resymau ac esboniadau dros eu diffygion o hyd a’r reffarî yn aml yn cael bai ar gam. Ond glywodd Tom, y reffarî pymtheg oed, erioed y fath esgus â hwn ac mae’n awyddus i ganfod yr atebion. Wrth ddychwelyd i’r parc yn hwyr un noson, mae’n dechrau ar antur fwyaf cyffrous ei fywyd!
Dyma stori’n llawn cyffro a’r ffin rhwng y presennol a’r dychymygol yn hoelio sylw’r darllenydd. Fel y cymeriad Tom yn O Ongl Arall, bu un o feibion Martyn Geraint yn hyfforddi i fod yn reffarî pêl-droed, ac rwy’n siwr iddo adrodd sawl stori i’w dad hefyd! |
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
|
|
There are no Customer Reviews so far for this title.
|
|
|