Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
TyllauLouis Sachar View more titles by 'Louis Sachar'
ISBN: 9781843238409 (1843238403)Publication Date November 2007
Publisher: Gwasg Gomer, Llandysul
Adapted/Translated by Ioan Kidd.Format: Paperback, 195x127 mm, 288 pages Language: Welsh Available Our Price: £6.99 
Tyllau
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
A Welsh translation of Holes by Louis Sachar, originally voted one of the best in the BBC Big Read Top 100. A novel sure to appeal to all readers, young and old.

Addasiad Cymraeg o Holes gan Louis Sachar, a oedd yn un o'r goreuon yn y BBC Big Read Top 100. Clasur o nofel a fydd yn cynnig cyfoeth i'r darllenydd hen ac ifanc.
Mae Stanley Yelnats wedi'i gyhuddo ar gam o ddwyn pâr o sgidiau. Oherwydd hyn, mae e’n cael ei anfon i Wersyll Glaslyn. Nid Stanley sydd ar fai, mae e a’i deulu wedi bod yn anlwcus ers blynyddoedd lawer. Ond, mae ymweliad â’r gwersyll rhyfedd hwn yn atgyfnerthu cymeriad Stanley ac yn newid ei fywyd am byth.

Mae addasiad Ioan Kidd o nofel Louis Sachar yn dal sylw’r darllenydd o’r dechrau un. Mae’r dirgelwch a berthyn i Wersyll Glaslyn yn eich gyrru i wibio drwy’r penodau. Caiff y darllenydd gyfle i ddeall teithi meddwl y prif gymeriad ac ymdreiddio’n llwyr i’w fyd. Mae cyfosod realiti bob dydd a straeon swreal yn cynnig cydbwysedd braf i’r nofel.

Yr hyn sydd fwyaf trawiadol am y nofel yw ei symlrwydd hi. Mae yma weledigaeth lân a thwt gydag uniongyrchedd y dweud yn taro dyn dro ar ôl tro. Mae’r stori'n dynn, yn debyg i hen alegorïau, ac eto’n gwbl fodern.

Yn ddi-os, dyma nofel sy’n dangos datblygiad cymeriad, yn dangos mewn modd cynnil sut mae cyfeillgarwch yn cael ei ffurfio a sut mae modd gwneud y gorau o sefyllfa wael. Nofel sy’n tanlinellu anghyfiawnderau yn ogystal â dangos sut mae dycnwch a dyfalbarhad yn gallu sicrhau canlyniadau. Yn fwy na dim, er mai nofel gryno a phwrpasol yw hon, heb unrhyw emosiwn, bron; dyma lyfr fydd yn gadael ei ôl ar bob un darllenydd am ei fod yn cyffwrdd â’r gwirionedd.

Catrin Dafydd

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Further Information:
Twll o le!

Mae yna ambell i nofel sy’n serio ar y cof gan ddylanwadu ar y darllenydd. Un o’r rheiny yw Holes gan yr Americanwr Louis Sachar, teitl a bleidleisiwyd rai blynyddoedd yn ôl ymysg llyfrau dethol y BBC Big Read Top 100. Wedi ei throsi i ffilm Disney a’i chyfieithu i nifer o ieithoedd, mae Gwasg Gomer newydd gyhoeddi Tyllau, y fersiwn Cymraeg gan Ioan Kidd.

Texas chwilboeth ganol haf sbardunodd yr awdur i greu’r nofel hon nid sefyllfa, plot a chymeriadau arbennig. Yng ngeiriau Louis Sachar, mae’r lle fel uffern ar y ddaear ym mis Gorffennaf, felly dychmygwch balu twll yn yr haul tanbaid! Er y cefndir estron, syniad Gwersyll Glaslyn oedd y byddai bachgen drwg yn troi yn fachgen da wrth ei orfodi i wneud twll yn y ddaear bob dydd.

Y bachgen dan sylw yn y nofel hon yw Stanley Yelnats ac mae ei deulu ef wedi bod yn anlwcus ers cenedlaethau. Dyw hi ddim yn syndod felly ei fod yn cael ei gyhuddo ar gam o ddwyn a’i ddanfon i Wersyll Glaslyn. Rhaid i’r bechgyn sydd yno balu twll bob dydd yn y pridd sych a chaled sydd ar wely llyn Glaslyn. Rhaid i’r twll fesur pum troedfedd o led a phum troedfedd o ddyfnder. ‘Adeiladu cymeriad’ yw’r nod yn ôl y Warden. Ond cyn hir, sylweddola Stanley fod llawer mwy i’w ddarganfod o dan yr wyneb.

Goroesi yw’r prif thema ac fe blethir hanesion am gyn-deidiau’r prif gymeriad i’r nofel. Daw’r melltith a roddwyd ar y teulu hwn i’w uchafbwynt ganrif yn ddiweddarach yn hanes Stanley a Zero.
Gall darllenwyr o bob oed gael eu llyncu i mewn i’r stori hon sy’n llawn cynnwrf, difrifoldeb a digrifwch wedi ei hadrodd mewn brawddegau byrion, bachog.

Tan yn ddiweddar, roedd Ioan Kidd o Gaerdydd yn olygydd Ffeil, y rhaglen newyddion i blant ar S4C ac mae ef bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun. Tipyn o dasg felly oedd addasu’r nofel enwog hon i’r Gymraeg, sydd yn ôl un cylchgrawn yn “un o lyfrau gorau’r ddeng mlynedd diwethaf”.

Byd lle mae cyfeillgarwch a chariad yn trechu popeth yw byd Tyllau, ond a fydd darllenwyr yn darganfod eu hunain a chanfod gwell byd wedi ei ddarllen? Pwy a ŵyr? Dyna ddirgelwch a grym nofel dda!
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
TGAU Mathemateg Haen Uwch ...
Wyn Brice
£6.99
 
Buy Now
Llywelyn ein Llyw Olaf
Tecwyn Jones
£4.99
Lol neu Lwc?
Emily Huws
£4.95
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now