Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Pwll, Pêl a PhulpudElwyn Jenkins View more titles by 'Elwyn Jenkins'
ISBN: 9781843239499 (1843239493)Publication Date March 2008
Publisher: Gwasg Gomer, Llandysul
Format: Paperback, 216x140 mm, 112 pages Language: Welsh Available Our Price: £7.99 
Pwll, Pêl a Phulpud
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
The autobiography of the Rev. Elwyn Jenkins, a minister of religion in the Lampeter area. He recounts his story from his early childhood growing up in Cross Hands, his work as a coal-miner, his achievement on the rugby field when he played for Wales against the British Lions, and his period as a minister in the Amman Valley, Aberystwyth, and latterly in the Lampeter area.

Hunangofiant y Parch. Elwyn Jenkins, gweinidog yn ardal Llanbedr Pont Steffan. Ynddo mae'n adrodd ei hanes, o gyfnod cynnar pan oedd yn blentyn yn ardal Cross Hands, ei gyfnod yn gweithio dan ddaear mewn pwll glo, ei gampau ar y cae rygbi pan chwaraeodd dros Gymru yn erbyn y Llewod Prydeinig, a'i gyfnod fel gweinidog yn Nyffryn Aman, Aberystwyth, a maes o law yn ardal Llanbed.
Er mai yn anaml bellach y cyhoeddir cofiant neu hunangofiant gweinidog, mae'n dda bod Ray Gravell wedi perswadio Elwyn Jenkins i gofnodi stori'i fywyd diddorol yn y gyfrol hon. Fel yr awgryma'r teitl, glo, rygbi ac Anghydffurfiaeth sy'n cael sylw yn y gyfrol, heb anghofio dylanwad bro mebyd Elwyn ym Mhen-twyn ger Cross Hands. Wrth ddiolch am ddylanwad cartref a chapel, mae'n cyflwyno hanes ei filltir sgwâr a'i chymeriadau, ac yn sôn am un o feibion disglair y fro, y Parchedig William Jones (hen dad-cu Huw Llewelyn Davies), y daeth 3,000 o bobl i'w angladd.

Fel ei deulu a'i gyfoedion, aeth Elwyn i weithio yng nglofa'r Mynydd Mawr, ac er iddo wybod am dalcen caled y lofa, mae'n hael ei glod i gwmni digymar ei gyd-weithwyr a chymdogaeth dda Cwm Gwendraeth: 'Os mai prin oedd anadl y gweithwyr, nid oeddent brin o ddeallusrwydd, o gyfeillgarwch nac o hawddgarwch.'

Ar ôl chwarae rygbi i dîm Cross Hands a chael ei hyfforddi gan Carwyn James, dewiswyd Elwyn i chwarae dros Lanelli yn 18 oed cyn symud wedyn i Abertawe. Wrth gymharu ddoe a heddiw dyfynnir sylw gan un cyfaill 'mai chwarae o'r galon roeddem ni yn ei wneud yn y cyfnod hwnnw, ond chwarae o'r waled y maent heddiw'. Wedi sôn am wrthwynebiad yr eglwysi i weinidog ac offeiriad oedd yn chwarae rygbi – W. T. Havard, Esgob Llanelwy, a chwaraeodd dros Lanelli, yn un – mae Elwyn yn llawdrwm ar Undeb Rygbi Cymru 'yn danfon hyfforddwyr i drefi a phentrefi'n gwlad ar fore Sul adeg cynnal Ysgolion Sul ac oedfaon'.

Am mai fel pregethwr a bugail da y meddyliwn am Elwyn, mae'n dda cael darllen am ei lafur ym Mrynaman, Aberystwyth a Llanbed. 'O ran ei ddiléit yn y natur ddynol', meddai Hywel Teifi Edwards yn y Cyflwyniad, ei synnwyr digrifwch ffein a'i werthfawrogiad hael o'r bobol yn y gwahanol ofalaethau, daw Elwyn Jenkins i'r amlwg yn yr hunangofiant fel gŵr o Gristion hawddgar. Ar ôl i Bresbyteriaid ac Annibynwyr Llanbed ddod ynghyd i ffurfio Gweinidogaeth Bro, gofid i Elwyn yw 'bod llawer o bentrefi a threfi wedi bod yn araf i fabwysiadu'r cynllun'.

Sonnir hefyd am dristwch cau capeli’r Tabernacl, Aberystwyth, lle gweinidogaethodd am wyth mlynedd ar hugain, a chapel ei gynefin ym Mhen-twyn: 'bellach nid yw'r capel yn adeilad ar fryn na ellir ei guddio, ac ni wêl pobl Cross Hands oleuni yn ei ffenestri yn nhywyllwch gaeaf yn eu hatgoffa am y realiti dwyfol.'

Cyflwynodd Elwyn Jenkins stori'i fywyd mewn modd naturiol ac agos atoch, ac mae'r hanes yn gofnod diddorol am ffordd o fyw sy'n mynd yn fwyfwy dieithr.

W. J. Edwards

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.




Author Biography:
Cafodd y Parch. Elwyn Jenkins ei eni yn ym Mhentwyn, ger Cross Hands yng Nghwm Gwendraeth yn un o wyth o blant. Bu'n gweithio ym Mhwll Glo'r Mynydd Mawr o 1948 tan 1959. Yn 1957 priododd ag Elizabeth o Gynwyl Elfed, ac mae ganddynt 3 o blant.

Bu'n chwarae rygbi dros y Tymbl, Llanelli ac Abertawe. Chwaraeodd rygbi dros Gymru yn erbyn y Llewod Prydeinig yn 1955.

Yn ddiweddarach yn ei yrfa trodd at y weinidogaeth. Aeth i Goleg Trefeca yn 1959 ac yna i'r Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth. Rhwng 1964-1970 bu'n weinidog ar Gapel Moriah, Brynaman a chapel Brynllynfell yng Nghwmllynfell. Yn 1970 aeth yn weinidog i’r Tabernacl yn Aberystwyth. Ers 1998 bu'n bugeilio Eglwysi Shiloh, Llanbed, Salem, New Inn a Maesffynnon, Llangybi.
Further Information:
Dull yr hen bregethwyr o ddal sylw eu cynulleidfaoedd fyddai codi tri phen ond, yn y gyfrol ddifyr ac anarferol hon, deil y Parchedig Elwyn Jenkins ein sylw wrth godi tri phen ei fywyd cyfan!

Dyna'r pwll: glofa'r Mynydd Mawr, lle treuliodd y bachgen ifanc o ardal Pen-twyn, y Tymbl, ddyddiau gwaith cynnar yng nghwmni digymar y glowyr a chymdeithas glòs Cwm Gwendraeth. Pêl wedyn – y bêl hirgron, wrth gwrs; yn ei oriau hamdden, disgleiriodd Elwyn ar y cae rygbi i rai o dimau mwyaf Cymru: yng nghrys Sgarlad Llanelli; gyda chlwb rygbi Abertawe, a hyd yn oed yn y prawf terfynol dros Gymru ar Barc yr Arfau. Ac yna'r pulpud; ers blynyddoedd lawer bellach, bu Elwyn Jenkins yn weinidog yr efengyl, gan fugeilio pobl Dduw mewn sawl rhan o Gymru; diolcha bod ‘ei linynnau wedi disgyn mewn lleoedd hyfryd’ – Brynaman a Chwmllynfell, Aberystwyth ac ardal Llanbed.

Glo, rygbi ac Anghydffurfiaeth: mae'r nodweddion hynny a ddaeth mor symbolaidd o dde Cymru i'w cael yn naturiol a gwirioneddol ym mywyd Elwyn Jenkins. Ac er mai hunangofiant un dyn sydd yma, mae'n cwmpasu ffordd o fyw cymdeithas gyfan.

Bydd holl elw’r llyfr yn mynd tuag at waith Cymorth Cristnogol.
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Gair, Sain a Llun
Lyn Ebenezer
£6.95
 
Buy Now
Rhaglen Swyddogol ...
 
£6.00
Rhestr Testunau ...
 
£5.00
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now