Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Cyfres Blodyn Haf: 2 Carreg AtebEmily Huws View more titles by 'Emily Huws'
ISBN: 9781845120337 (1845120337)Publication Date June 2005
Publisher: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, Aberystwyth
Illustrated by Dafydd MorrisSuitable for age 9-11 or Key Stage 2 Format: Paperback, 204x133 mm, 90 pages Language: Welsh Available Our Price: £4.99 
Cyfres Blodyn Haf: 2 Carreg Ateb
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
A novel echoing the tale of Little Red Riding Hood about Blodyn Haf, a 10 year-old girl who enjoys preparing a school project and being part of the school netball team, but who also suffers bullying and sees her father wrongfully imprisoned; for readers aged 8-11 years. A sequel to Eco. 35 black-and-white illustrations. Winner of the 2006 Tir na n-Og Award.

Nofel yn adleisio chwedl Hugan Fach Goch yn adrodd hanes Blodyn Haf, merch 10 oed yn mwynhau paratoi cywaith ysgol a bod yn aelod o dîm pêl-rwyd yr ysgol, ond sydd hefyd yn dioddef cael ei bwlio ac yn gweld ei thad yn cael ei garcharu ar gam; i ddarllenwyr 8-11 oed. Dilyniant i Eco. 35 llun du-a-gwyn. Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2006.
Bwlio, gwarchod yr amgylchedd a chwedl yr Hugan Fach Goch, dyna’r cynnwys amrywiol a geir yn y llyfr Carreg Ateb. Mae’r cyfuniad yn un effeithiol a diddorol.

Cawn hanes teulu sy’n byw mewn tŷ a gynlluniwyd yn arbennig i warchod yr amgylchedd a’r problemau y mae’r ferch hynaf yn eu hwynebu am ei bod ychydig yn 'wahanol'. Ysgrifennwyd y stori o safbwynt y prif gymeriad, sy’n gweithio'n llwyddiannus oherwydd gall y darllenydd uniaethu â hi. Y mae’r teulu o ran enwau a sefyllfa yn atgoffa rhywun o rai o gymeriadau Jaqueline Wilson, rhywbeth allai ddenu nifer o ddarllenwyr.

Byddai Carreg Ateb yn llyfr da i’w drafod yn y dosbarth gyda phlant blynyddoedd 5 a 6 oherwydd y pynciau a’r amrywiol ffurfiau o ysgrifennu a ddefnyddir. Gallai’r ffaith fod y stori yn newid o fersiwn prif gymeriad chwedl yr Hugan Fach Goch i’w sefyllfa bresennol ddrysu rhai darllenwyr llai hyderus. Er hyn, mae’n llyfr sy’n rhoi llawer o bethau i’r darllenydd feddwl amdanynt a'u trafod.

Gail Roper

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Solva Blues - An ...
Meic Stevens
£9.95
 
Buy Now
Cyfres Blodyn Haf: 1 Eco
Emily Huws
£4.99
 
Buy Now
Hoff Gerddi Cymru
 
£5.99
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now