Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Cyfres Ar Bigau: Teulu TwyllKevin Brooks View more titles by 'Kevin Brooks'
ISBN: 9781845212445 (1845212444)Publication Date November 2007
Publisher: Canolfan Astudiaethau Addysg, Aberystwyth
Edited by Delyth Ifan Illustrated by Robin LawrieAdapted/Translated by Helen Emanuel Davies.Suitable for age 12+ or Key Stage 3/4 Format: Paperback, 198x130 mm, 120 pages Language: Welsh Available Our Price: £4.99 
Cyfres Ar Bigau: Teulu Twyll
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
One of the titles in the Ar Bigau series for teenagers and reluctant readers. Welcome to the Tomos family: four generations of lazy, lying and greedy men. A Welsh adaptation of Bloodline. Play Audio

Un o lyfrau'r gyfres Ar Bigau ar gyfer arddegwyr a darllenwyr anfoddog. Croeso i gartref y teulu Tomos: pedair cenhedlaeth o ddynion diog, celwyddog a barus. Addasiad o Bloodline. Clip Sain
Nofel yn y gyfres ‘Ar Bigau’ yw Teulu Twyll, ac yn sicr mae’r teitl awgrymog yn rhoi syniad pa fath o gymeriadau slei sydd i’w cael yn y stori. Ceir sefyllfa gyffrous wrth i ferch walltgoch mewn lledr du ruthro i dŷ’r Tomosiaid a’u cadw’n wystlon yn eu cartref wedi iddi ddwyn arian o siop leol. Mae’r nofel i gyd wedi’i lleoli yn y tŷ a chawn wybod sut mae’r cymeriadau gwahanol yn dod i delerau â’r sefyllfa.

Yn anffodus i’r ferch, nid pobl gyffredin mo trigolion y tŷ. Pedair cenhedlaeth o ddynion blin a hunanol sydd yma. Wrth ddarllen eu hanes, allwn ni ddim cydymdeimlo lawer â nhw yng nghanol eu helynt gan nad oes dim byd agos-atoch-chi amdanyn nhw. Cymeriadau digon annymunol yw’r dynion, ond dyna sy’n ychwanegu cyffro i’r stori – eu hymddygiad barus a’r ffordd maen nhw’n delio gyda’u hymwelydd annisgwyl. Pe bai’n rhaid teimlo trueni dros un ohonyn nhw, Arthur, bachgen 15 oed, fyddai hwnnw gan ei fod yn cael ei orfodi i wneud amryw o bethau yn groes i’w ewyllys. Gwelwn nad oes ganddo’r awydd lleiaf i fod yng nghwmni ei dad, ei dad-cu na’i hen dad-cu – sefyllfa drist iawn.

Hoffais y ffordd yr adeiladwyd y nofel hon. Roedd digon o ddigwyddiadau annisgwyl yn y plot hyd at y tudalennau olaf. Tybiaf y bydd hi’n nofel fydd yn apelio at griw o bobl ifanc sydd wrth eu bodd yn darllen am arian, trais a thwyll. Un cwestiwn sy’n codi wrth i chi ddarllen y llyfr – ‘beth fyddech chi’n ei wneud yn yr un sefyllfa?’

Huw Vaughan Hughes

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Cyfres Whap!: O Ongl Arall
Martyn Geraint
£4.99
 
Buy Now
Cyfres Ar Bigau: Deri ...
Pete Johnson
£4.99
 
Buy Now
Cyfres Ar Bigau: Sbectol ...
James Lovegrove
£4.99
 
Buy Now
Book of the Month
English
No Room to Live - A ...
Wynford Ellis Owen
£11.95
 
Buy Now
Welsh
Mynd dan Groen
Sonia Edwards
£7.99
 
Buy Now