| Bibliographical Information |
| Dewi, Dwpsi a'r DreigiauDewi (Pws) Morris, Rhiannon Roberts
View more titles by 'Dewi (Pws) Morris, Rhiannon Roberts' |
ISBN: 9781845271169 (1845271165)Publication Date July 2007
Publisher: Gwasg Carreg Gwalch, LlanrwstIllustrated by Eric HeymanSuitable for age 7-9 or Key Stage 2
Format: Paperback, 200x260 mm, 32 pages
Language: Welsh
Available Our Price:
£4.95
| |
Customers' average rating:   
|
|
|
A humorous and lively story on the theme of rugby. All the red dragons have disappeared from the banners of the Millennium Stadium, and they must all be found before the big match against England. Suitable for readers aged 7-9 years.
Stori ddoniol a byrlymus ar thema rygbi. Mae'r holl ddreigiau coch wedi diflannu oddi ar faneri Cymru yn Stadiwm y Mileniwm. Rhaid eu darganfod cyn y gêm fawr yn erbyn Lloegr. Addas i ddarllenwyr 7-9 oed.
|
|
Mae’n argyfwng! Mae’r dreigiau coch wedi diflannu oddi ar faneri Cymru a hynny ar ddiwrnod gêm rygbi Cymru yn erbyn Lloegr! Dyw Dewi a’i dad (sy’n edrych yn hynod debyg i Dewi Pws ei hun!) ddim yn gallu credu’r peth. Felly i ffwrdd â Dewi i alw am gymorth Dwpsi Draig i ddod o hyd i’r dreigiau, cyn iddi fod yn rhy hwyr.
Mae yna ryw wawr chwedlonol i’r antur wrth i Dewi, Dwpsi ac Eryl yr Eryr holi anifeiliaid ym mhedwar ban byd ynghylch y dreigiau colledig. Ond mae’r cyfan yn cael ei gyflwyno mewn ffordd ffraeth a bron nad ydi rhywun yn gallu clywed llais yr awdur drygionus ei hun yn adrodd y stori. Mae’n symud yn slic ac yn llawn cyffro a’r lluniau lliwgar gan Eric Heyman yn dod â’r cyfan yn fyw. Na, wnaeth Wrco Ddrwg ddim ennill y dydd a difa’r holl ddreigiau. ‘Chwifiwch y dreigiau ’na bois!’ ydi neges Dad ar ddiwedd stori sydd yn dathlu cenedlaetholdeb. Addas ar gyfer plant oedran cynradd sy’n hoff o antur!
Elena Gruffudd
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
|
|
"Mae bachgen yn achub dreigiau ac mae'n dweud wrth ei dad. Mae ei dad yn synnu achos bod y dreigiau wedi mynd. Mae Dewi, y bachgen, yn rhedeg lawr i'r sied ac yn chwibanu. Mae'r stori'n ddoniol ac mae'r dreigiau'n dod 'nôl."
"Roedd y llyfr Dewi, Dwpsi a'r Dreigiau ychydig yn ddoniol. Roeddwn i'n hoffi'r rhan pan wnaeth y lliw coch ar y ddraig ddiflannu, ac yna pan wnaeth y lliw coch ar y ddraig ymddangos unwaith eto ar faner Cymru. Roeddwn i hefyd yn hoffi'r rhan pan wnaeth Dewi roi un chwibaniad hir, uchel fel sŵn trên bach yr Wyddfa. Rydw i wedi rhoi 3 seren i Dewi, Dwpsi a'r Dreigiau achos dydy'r llyfr ddim yn ddigon doniol i fi. "
|
|
|