|
A volume in the Barddoniaeth Boced-din series. A compilation of humorous poems by Edgar Parry Williams.
Cyfrol yn y gyfres Barddoniaeth Boced-din. Y tro hwn, ceir limrigau, penillion a rhigymau gan Edgar Parry Williams, aelod o dîm talwrn 'Y Manion o'r Mynydd'.
|
|
Dyma gyfrol arall yn y gyfres boblogaidd Barddoniaeth Boced-din, ac ynddi fe gawn amrywiaeth o limrigau, penillion ymson, beddargraffiadau, caneuon, penillion mawl a dychan, telynegion a pharodïau.
Clywir enw Edgar Parry Williams yn aml yn y Babell Lên yn y Brifwyl adeg beirniadaeth limrig y dydd oherwydd mae Edgar yn un o'n limrigwyr mwyaf llwyddiannus.
Dyma ychydig enghreifftiau o'r adran limrigau:
Roedd Wil Foty Ganol yn gwybod
Na lwyddodd ei fam i ddarganfod
Ai gan Wil Foty Ucha
Ynteu Wil Foty Isa'
Y cafodd o glustia mor hynod.
Mae Edgar wedi bod yn ddigon beiddgar i gyhoeddi'r limrig hwn; gobeithio na fydd yr heddlu yn llym wrtho:
Mi glywais am ddynes fach addfwyn
A syrthiodd mewn cariad â mochyn,
Mi'i bwydodd o'n fras
Nes aeth yn ddulas:
Mae'n heddwas yn awr ym Mae Colwyn.
Mesur poblogaidd iawn yw'r limrig, ac mae gan y limrigwr hwn gyfoeth o syniadau:
Wrth groesi'r ffordd fawr yn y Bala
Fe gollodd hen wreigan ei 'sgidia,
‘Meri Jones ydach chi?’
Meddai plismon yn hy',
‘Na, na,’ meddai hi, ‘Cinderella’.
Ym 1993 mi ymwelodd y Brifwyl â safle'r Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd, a dyma limrig a luniwyd ar yr achlysur:
Mae pethau'n wahanol eleni
Ar safle sioe fawr y stalwyni
Lle bu brefu a rhoch
Y gwartheg a'r moch
Mae beirdd digon coch yn cystadlu.
O blith y Penillion Ymson dyma un digon difyr, sef ‘Wrth Wylio Comed’:
Ar wib ar draws y gofod
Yr ei fel hediad brân,
A mynd fuaswn inna
Pe tasa nhin ar dân.
Yn gymysg â'r ysgafnder a'r digrifwch, mae yma delynegion sy'n taro'r darllenydd yn ei dalcen. Dyma enghraifft:
Yn Angladd Bedwyr
Mor ddifyr y traethai
Am Arthur a'i lu,
Caledfwlch, Afallon
A'r llong hwyliau du.
Mor ddu â phenllanw
Y dyrfa syn
Fu'n talu gwrogaeth
Yng Nghapel Tŵr Gwyn.
Diolch, Edgar, am gyfrol y bu yn werth aros amdani.
Dai Rees Davies
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Further Information: Dyma’r gyfrol ddiweddaraf yn y gyfres boblogaidd, barddoniaeth boced-din.
Mae Edgar Parry Williams o Groesor, yn aelod o dîm talwrn ‘Y Manion o’r Mynydd’, a does ryfedd fod rhai o’i gyd-aelodau (Cynan, Nia a Phyllis) yn gocynnau hitio yn ei benillion o bryd i’w gilydd.
Mae’n taflu sawl ergyd at dimau beirdd eraill hefyd, heb sôn am y Meuryn ei hun.
Y limrig, cwpledi a phenillion yw ei fesurau, gan eu llenwi i’r ymylon gyda ‘i hiwmor a’i ffraethineb; ac yn y pethau mân y mae’r gwirioneddau mawr yn aml. |