Play Audio...">
Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Mewnwr a Maswr: 7. Ysbryd y MaswrGareth William Jones View more titles by 'Gareth William Jones'
ISBN: 9781845271589 (1845271580)Publication Date May 2008
Publisher: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Suitable for age 9-11 or Key Stage 2 Format: Paperback, 195x130 mm, 68 pages Language: Welsh Available Our Price: £4.95 
Mewnwr a Maswr: 7. Ysbryd y Maswr
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
A novel about twins who like playing rugby. Suitable for readers aged 9-11 years. Play Audio

Nofel am efeilliaid a'u hanturiaethau wrth chwarae rygbi. Addas i ddarllenwyr 9-11 oed. Clip Sain
Ysbryd y Maswr gan Gareth William Jones yw’r seithfed stori yn y gyfres ‘Mewnwr a Maswr’, ac yma cawn stori llawn cyffro a dirgelwch sydd yn cylchdroi o gwmpas anturiaethau'r efeilliaid Llion a Llŷr.

Dim ond un peth sydd yn bwysig ym mywydau’r ddau, sef eu clwb rygbi lleol – Cenawon Nant Cadno. Ond wrth i’r tymor newydd ailgychwyn, mae pethau’n edrych yn ddu iawn arnynt. Mae’r chwaraewyr i gyd wedi ffraeo, ac nid yw pethau yn llawer gwell ar y cae! Wedi colli i’r tîm gwaethaf yn y gynghrair yn gêm agoriadol y tymor newydd, nid yw hi’n edrych yn debyg bod pethau am wella yn fuan iawn. Mae yna hefyd sôn fod rhywun yn creu trafferth yn y clwb rygbi yn ystod y nos, ac nid oes gan unrhyw un syniad pwy neu beth sy’n gyfrifol. Awgryma Tom Williams, un o hen aelodau’r clwb, mai ysbryd cyn faswr y clwb, sef Cliff James, sydd yn achosi’r holl drwbl. Yn awyddus i ddod o hyd i'r gwirionedd, mae Llŷr yn trefnu bod y tîm yn treulio’r noson yn y clwb rygbi er mwyn cael gweld yr ysbryd a datrys y dirgelwch mawr!

Er mwyn cael gweld os yw Llŷr a’i ffrindiau yn llwyddo i weld yr ysbryd ac achub y clwb, dim ond un peth sydd i’w wneud – heidiwch i’ch siop lyfrau leol a’i ddarllen! Mae’r llyfr yn berffaith ar gyfer plant ysgol gynradd (tua 9–11 oed), felly os ydych chi wrth eich bod gyda rygbi, dirgelwch ac antur, dyma’r llyfr i chi!

Llŷr Evans

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Further Information:
Ar ddechrau tymor newydd yn hanes y Cenawon nid yw pethau'n mynd yn rhy dda. Mae yna ddrwgdeimlad ymysg y bechgyn ac mae hynny'n cael effaith drwg ar ysbryd a pherfformiad y tim.
Ar ben hynny, mae rhywbeth rhyfedd yn digwydd yn ystod y nos yn y clwb rygbi a does neb yn gwybod pwy neu beth sy'n achosi'r afonyddwch.
A fydd y bechgyn yn llwyddo i ddatrys y dirgelwch a beth fydd effaith hen bâr o esgidiau ar chwarae Llyr.
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Nofelau Nawr: Bywyd ...
Bethan Gwanas
£3.99
 
Buy Now
Cyfres Disney: Cathod Crach, Y
 
£2.99
 
Buy Now
Cyfres Cefn y Rhwyd: yn y ...
Elgan Philip Davies
£3.99
 
Buy Now
Book of the Month
English
No Room to Live - A ...
Wynford Ellis Owen
£11.95
 
Buy Now
Welsh
Mynd dan Groen
Sonia Edwards
£7.99
 
Buy Now