Your basket
Your Basket is Empty
Go to...
Best-selling Books
Links
|
| Bibliographical Information |
| Ergyd Olaf, YrLlwyd Owen
View more titles by 'Llwyd Owen' |
ISBN: 9781847710116 (1847710115)Publication Date November 2007
Publisher: Y Lolfa, Tal-y-bontFormat: Paperback, 194x130 mm, 192 pages
Language: Welsh
Available Our Price:
£7.95
| |
| There are no Customer Reviews for this title.
|
|
|
A gripping novel by Llwyd Owen about an under-world of gang warfare in south Wales, where murder is becoming a way of life.
Nofel arloesol gan Llwyd Owen am is-fyd gangiau treisgar yn ne Cymru, lle mae llofruddio'n dod yn ffordd o fyw.
|
|
Dyma’r drydedd nofel i’r awdur ifanc o Gaerdydd, Llwyd Owen, ei chyhoeddi mewn cwta ddwy flynedd, ac mae’r bedwaredd eisoes yn cael ei pharatoi yn ogystal â sgript deledu wedi’i seilio ar ei nofel gyntaf. Ond nid awdur toreithiog yn unig mohono; mae hefyd yn medru creu storïau a golygfeydd na welir mo'u tebyg mewn nofelau eraill yn y Gymraeg. Fe gafodd dipyn o sylw am yr iaith mae’n ei defnyddio, ond dylid cofio, uwchlaw popeth arall, mai awdur a storïwr dawnus ydi Llwyd, pa bynnag iaith neu arddull y dewisa ysgrifennu ynddi.
Ar glawr y nofel ceir broliant gan awdur arall, Dewi Prysor, sydd yn gofyn, neu’n datgan, mai dyma’r Tarantino Cymraeg. Dwi’n anghytuno. Nid yw Llwyd Owen yn awdur tebyg i’r cyfarwyddwr a’r sgriptiwr o America, ond dwi’n credu’n gryf ei fod yr agosaf sydd gennym yn y Gymraeg i’r Albanwr, Irvine Welsh. Mae nifer o olygfeydd yn y gyfrol yma, yn enwedig, yn fy atgoffa yn gryf o arddull a dychymyg yr Albanwr poblogaidd. Yn wir, roedd un olygfa arbennig yn un o’r rhai mwyaf dychrynllyd imi ei darllen erioed, mewn unrhyw iaith.
Roedd nofel gyntaf Llwyd wedi gwneud imi chwerthin tipyn, tra oedd yr ail wedi gwneud imi feddwl a chymryd pwyll wrth ei darllen, ac ystyried yn ddwys beth fuaswn i wedi'i wneud mewn sefyllfa debyg. Nofel wahanol iawn ydi hon. Yn gyntaf, mae hi dipyn yn llai; mae hi hefyd yn fwy cymhleth, er bod y plotio mor gyfrwys a gofalus ag erioed. Ond mae arddull Llwyd wedi newid hefyd, gan ddangos ochr dipyn yn fwy disgybledig, gyda mwy o ôl tocio a golygu ar y testun. Ac yn sgil y cynildeb hwn, mae’r nofel yn gryfach na’i rhagflaenwyr, ie, hyd yn oed y gyfrol a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn iddo yn 2007.
Paentia Llwyd olygfeydd o’r isfyd tywyll sydd yn bodoli o’n hamgylch bob dydd, ond ein bod yn dewis peidio â’i weld na’i glywed. Ond mae Llwyd wedi sylwi ac yn creu cymeriadau byw o’r byd yma.
Hanes ergydiwr, hitman, assassin sydd yma, yn troi mewn isfyd diflas a pheryglus. Hiraetha am ei fam a’i fwriad yw dial ar yr un a’i llofruddiodd a chanfod hapusrwydd. Haws dweud na gwneud, ac ar ei daith i geisio gwireddu'i freuddwyd rhaid canfod y gwir, wynebu a threchu’r llofrudd – ond heb gondemnio ei hun chwaith. Caiff ei fradychu a rhaid dewis a yw am gynnig cymorth i blentyn amddifad arall sydd ar goll yng Nghaerdydd. Cawn ein 'sgubo 'mlaen gan rym y naratif, o Gaerdydd i fferm unigryw yng nghefn gwlad, ac roedd yn rhaid imi ddarllen hon o glawr i glawr heb stop. Mae’n dangos fod un o awduron disgleiriaf Cymru yn gweithio’n galed ar ei grefft, a’r darllenydd yn y pen draw sydd yn elwa o’r gwaith caled yma.
Llion Iwan
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Further Information: Ergydiwr Cyndyn. Puteiniaid. Pimpiaid. Angylion Uffern. Dynion Drwg. Cerddor Enwoca'r Eidal. Heddlu Llwgr. Garddwyr. Perlysiau. Tomatos. Tatoos. Brad. Dial. Stori Serch. Croeso i'r Ergyd Olaf, trydedd nofel Llwyd Owen, awdur Llyfr y Flwyddyn 2007! Taith bywyd Al Bach (a.k.a. Tubbs) yw asgwrn cefn Yr Ergyd Olaf - o'I blentyndod truenus yn Abertawe o dan adain glipiedig Foxy, ei butain o fam, a Calvin, ei deyrn o dad. Fe'i dilynwn drwy ei lencyndod yng nghwmni T-Bone, pennaeth cangen Angylion Uffern Caerdydd. O dan reolaeth dwyllodrus hwnnw, daw i gael gyrfa hwyrfrydig fel ergydiwr, nes gorfod wynebu un frwydr dyngedfenol sy'n newid ei fywyd yn llwyr.
Awdur Llyfr y Flwyddyn yn Troi at fyd ‘Angylion Uffern’ Mae awdur Llyfr y Flwyddyn 2007 wedi cyhoeddi ei drydedd nofel, flwyddyn a hanner yn unig ar ôl cyhoeddi ei nofel gyntaf – a’r tro hwn mae wedi troi i fyd ‘Angylion Uffern’ De Cymru. Ar ôl cyhoeddi dwy nofel am fydoedd amrywiol Caerdydd, mae’r nofel hon gan Llwyd Owen yn mynd ar drywydd byd eithafol gangsters, cyffuriau a ‘hit men’. Yn ôl Llwyd, cafodd y nofel ei dylanwadu gan gymeriad eithriadol y daeth ar ei draws pan oedd ar grwydr yn Awstralia: “Pan o’n i yno des i nabod boi o’r enw Tybs oedd yn datãs drosto, yn byw ar werthu cyffuriau ac yn ran o’r Hell’s Angels – a dyna un o’r cymeriadau mwya diddorol a hoffus dwi erioed wedi gwrdd. Mae prif gymeriad Yr Ergyd Olaf felly wedi ei seilio ar yr hen Tybs, ond mae’r stori a’r digwyddiadau i gyd wedi eu lleoli yn Ne Cymru.” Disgrifiodd Dewi Prysor Yr Ergyd Olaf fel “treiffl gogoneddus o waed a hylifau corfforol eraill” a disgrifiodd Llwyd Owen fel “Tarantino Llenyddiaeth Gymraeg”. Ac yn dilyn ei lwyddiant yn ennill Llyfr y Flwyddyn yn 2007, bydd cryn edrych ymlaen at y nofel hon gan y “plot-feistr” – yr awdur mwya cynhyrchiol yng Nghymru heddiw. Prizes: Enillodd yr awdur wobr Llyfr y Flwyddyn 2007 am ei nofel Ffydd Gobaith Cariad. |
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
|
|
There are no Customer Reviews so far for this title.
|
|
|
|
More Titles
|
People who bought this title also bought the following:
|
Book of the Month
|