Your basket
Your Basket is Empty
Go to...
Best-selling Books
Links
|
| Bibliographical Information |
| Stephen Jones - O Clermont i NantesStephen Jones, Lynn Davies
View more titles by 'Stephen Jones, Lynn Davies' |
ISBN: 9781847710161 (1847710166)Publication Date November 2007
Publisher: Y Lolfa, Tal-y-bontFormat: Paperback, 214x140 mm, 160 pages
Language: Welsh
Out of print Our Price:
£8.95
| |
| There are no Customer Reviews for this title.
|
|
|
The memoirs of Welsh captain and outside half Stephen Jones - from his time with Clermont Avergne in France, his return to Stradey and then leading Wales for the World Cup. Includes a chapter of the Welsh team's campaign for the World Cup.
Atgofion a bywyd maswr a chapten Cymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf - o chwarae i Clermont Avergne yn Ffrainc, i ddychwelyd i'r Strade ac yna arwain Cymru i'r Cwpan Byd. Cynhwysir pennod ar ymgyrch Cymru yn ystod Cwpan y Byd.
|
|
Deuddeg mis o orfoledd a diflastod, a dyma’r hanes. Does yna'r un anrhydedd yn fwy i chwaraewr rygbi na chapteinio ei wlad. Daeth y fraint honno i ran Stephen Jones yn fuan ar ôl iddo ddychwelyd i’w gartref ysbrydol ar y Strade. Ond, ar y cyfan, digon llwm oedd hi ar y cae yn sicr i Gymru ac, yn y pen draw, i Sgarlets Llanelli hefyd.
I gefnogwyr pybyr, fe fydd hyn i gyd yn dal yn fyw yn y cof. Nid pawb fydd â’r stumog i aildreulio 2007 colli pedair o’r pum gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, a’r torcalon yn Nantes wedyn wrth i Fiji yrru Cymru adref o Gwpan y Byd. Ond methiant yn aml sy’n arwain at yr ysgrifennu mwyaf diflewyn-ar-dafod. Er yn fwy cynnil nag ambell i chwaraewr arall sydd wedi mynd ati i draethu eleni, does dim dwywaith ar ba ochr i’r ffens mae Stephen Jones. Mae’r wasg yn ei chael hi y sawl a gafodd ei hela yn troi’n heliwr. Ond braf yw’r parodrwydd hefyd i gyfaddef bai, a dweud bod yna wersi i’w dysgu.
Cryfder mwyaf y llyfr yw’r straeon bach difyr dibwys yn aml am y pethau sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni. Pa chwaraewr sydd fwyaf ofergoelus? Pwy sy’n cael ystafell iddo’i hun oherwydd ei fod yn chwyrnu cymaint? Pwy sydd â’i nerfau’n rhacs cyn hedfan? Dyma’r math o wybodaeth sy’n arf bwysig i gefnogwr all dreulio oriau yn dwys-drafod rygbi! Yn hynny o beth, mae O Clermont i Nantes yn ffynhonnell werthfawr, gyda Sugar Ray Leonard ac Alastair Campbell, o bawb, yn ddau annisgwyl sydd i’w cael rhwng y cloriau.
I’r rhai sy’n dal yn ddigon ifanc i chwarae’r gêm, yn hytrach na siarad amdani, mae Stephen Jones yn sôn cryn dipyn am y ffordd y mae’n ymarfer a pharatoi defnyddiol iawn i faswyr y dyfodol, mewn camp lle mae’r technegau hyfforddi yn newid drwy’r amser. Diddorol hefyd yw cymaint y dysgodd o’i gyfnod yn lliwiau Clermont Auvergne, a sut mae’r Ffrancod yn gwneud pethau'n wahanol.
Go brin fod hwn yn un o’r llyfrau chwaraeon hynny fydd o ddiddordeb i ddarllenwyr sy’n malio dim am fyd y bêl. Yn y bôn, mae’n llyfr am rygbi i ddilynwyr rygbi yn enwedig y rheiny sydd â’u gwaed yn Sgarlad.
Dafydd Gwynn
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Further Information: Ar ôl cael ei ddewis yn faswr y flwyddyn yn Ffrainc a dod yn arwr i gefnogwyr Clermont Auvergne, roedd dod nol i'r Strade a chael ei benodi'n gapten Cymru yn dipyn o newid byd i Stephen Jones. Gyda phwysau'r wasg a Chymru gyfan ar ei ysgwyddau, cafodd flwyddyn gythryblus, gan gyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan Heineken gyda'r Sgarlets a thymor rhwystredig ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda Chymru. Yma cawn gipolwg ar ei fywyd personol, hynt a helynt carfan Cymru a'r Sgarlets, a darlun diddorol tu hwnt ar fywyd a rygbi yn Ffrainc. I gloi, ceir ei farn onest ar ymdrechion Cymru wrth iddo ddychwelyd i'r wlad honno ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd.
STEPHEN JONES YN DATGELU’R CYFAN Wedi’r chwiban olaf gael ei chwythu ac wythdeg munud o chwarae caled ddod i ben, mae Stephen Jones yn gorfod wynebu beirniadaeth gan newyddiadurwyr, sylwebwyr a chefnogwyr am safon ei chwarae. Ond eleni mae wedi gwynebu’r beirniad anoddaf a chaletaf un, sef ef ei hun wrth iddo gynnig golwg ar fywyd chwaraewr rygbi proffesiynol yn ei lyfr newydd a gyhoeddir gan wasg Y Lolfa, Stephen Jones: o Clermont i Nantes Yn y llyfr hwn mae Stephen Jones yn cofnodi blwyddyn o chwarae wedi iddo ddychwelyd yn ôl i dre’r sosban o Clermont yn Ffrainc gan ailymuno a thîm y Sgarlets. Ar ffurf dyddiadur, mae’n bwrw golwg dros gemau Cynghrair Magners, Cwpan Heineken, gemau Rhyngwladol yr Hydref, pencampwriaeth y Chwe Gwlad a Chwpan y Byd wrth iddo roi sylwebaeth lawn ar ei berfformiad, ei anafiadau ac ofnau wrth iddo wynebu blwyddyn anoddaf ei yrfa. Mae’n trafod ei lawenhad o gael dychwelyd i dîm y Sgarlets a’r boddhad o wneud yn dda yn y Cwpan Heineken, y modd iddo gael ei feirniadu yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, siom fawr Cwpan y Byd, y ‘frwydr’ rhyngddo ef a James Hook am y crys rhif 10, ac ymadawiad Gareth Jenkins. Ond yma hefyd mae’n bwrw ei fol ar bryderon ei anafiadau, pwysau’r dasg o fod yn Gapten ar ei wlad, a’i ofnau wrth gamu ar y maes chware yn ogystal â’r gwir tu ôl i ddigwyddiadau'r ‘noson o yfed’ yna yn yr Alban yn ystod Cwpan y Byd. Ceir hefyd gipolwg tu ôl i’r llen, y gwir tu ôl i benawdau praff y papurau newydd, y tynnu coes o fewn y garfan a’i hoffter am fwyd, caffis a boules wedi ei gyfnod yn Ffrainc. Mae’n trafod ei fywyd y tu hwnt i’r cae rygbi wrth iddo baratoi i agor tŷ bwyta ar y cyd a’i gyd-chwarewr Dwayne Peel a’i obeithion am y dyfodol. Ceir straeon sy’n egluro sut y daeth i gyfarfod a’r paffiwr Sugar Ray Leonard mewn maes awyr, a sut y daeth cyfeillgarwch ag Alistair Campbell yn ddefnyddiol iddo wedi siom pencampwriaeth y Chwe Gwlad. “Ers i fi ddod 'nôl i Lanelli ar ôl ‘y nghyfnod gyda Clermont fe fu’n flwyddyn ‘lan a lawr’ ar sawl cyfri. A dweud y gwir ro’n i wedi anghofio faint o sialens oedd bod yn wharaewr dosbarth cyntaf yma yng Nghymru, a chyment y mae rhywun o dan y chwyddwydr gan y wasg a’r cyfryngau,” meddai Stephen. Yn ail yn unig i Neil Jenkins fel prif sgoriwr Cymru, mae Stephen Jones yn arwr i gannoedd o ddilynwyr rygbi ar hyd a lled y wlad. A hithau wedi bod yn flwyddyn a hanner iddo wrth ddychwelyd yn ôl i’w hen glwb, dioddef sawl anaf cas a chyrraedd pen llanw pedair blynedd o baratoi ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd, mae’r llyfr difyr hwn yn cynnig golwg ar y dyn tu ôl i gyrs rhif 10 y Sgarlets a Chymru.
|
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
|
|
There are no Customer Reviews so far for this title.
|
|
|
|
More Titles
|
People who bought this title also bought the following:
|
Book of the Month
|