Your basket
Your Basket is Empty
Go to...
Best-selling Books
Links
|
| Bibliographical Information |
| Beti BwtBet Jones
View more titles by 'Bet Jones' |
ISBN: 9781847710413 (1847710417)Publication Date March 2008
Publisher: Y Lolfa, Tal-y-bontFormat: Paperback, 194x130 mm, 144 pages
Language: Welsh
Out of print Our Price:
£6.95
| |
| There are no Customer Reviews for this title.
|
|
|
A novel based on the memories of a child in Trefor on the Llŷn Peninsula. It depicts a vivid portrayal of life in a Welsh village in the 1950s and was second in the Prose Medal Competition at the National Eisteddfod of 2007.
Nofel wedi'i seilio ar atgofion plentyn yn Nhrefor, Pen Llŷn. Ceir yma ddarlun byw o fywyd pentrefol chwarelyddol Cymreig yn y 1950au. Daeth y gyfrol yn ail yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2007.
|
|
Fel y nodir ar y clawr, nofel am blentyndod yn y pumdegau ym mhentref Trefor ger Pwllheli yw hon. Fodd bynnag, mae Beti Bwt yn berson o gig a gwaed a ‘Gwen Ddu’, y gwelir ei llun ar y clawr, yn ddoli go iawn fel y tystia’r nofel!
Ceir ynddi atgofion y gall sawl darllenydd uniaethu â hwy. Dyfodiad y ‘telifision’ yn y pumdegau a brynwyd gan rai’n arbennig ar gyfer y ‘coroneshion’ ym 1953, cyn geni Beti Bwt, ond cyfeirir at raglenni cyfarwydd i rai ohonom fel Watch with Mother ac Andy Pandy nad oedd yn plesio, mae’n amlwg, gan mai ‘tipyn o bansan ydi hwnnw’! Coffa da am y ffilmiau cowbois ac Indiaid di-rif yn y Palladium, Pwllheli, a’r dylanwad a gâi’r byd seliwloid ar y chwarae. Fel yn hanes Beti Bwt, roedd y chwarae’n aml yn troi’n chwerw ar ôl i un ohonynt (yr Indiad, fel arfer!) ‘gau marw ar ôl iddo gael ei saethu’!
Roedd y capel yn amlwg yn ganolbwynt i fywyd y pentref ac i selogion ysgolion Sul gogledd-orllewin Cymru; mae’r disgrifiad o’r bererindod seciwlar flynyddol, trip yr Ysgol Sul, i’r Rhyl, a’r anfawrol Farine Lake yn dwyn llawer o atgofion i’r cof. Y ‘Moto Coch’ oedd y cludwyr am mai dyma bencadlys bysiau Clynnog and Trefor a oedd yn ddolen gyswllt â’r byd ehangach, ac i blentyn yn y pumdegau, roedd Aberystwyth a’r coleg ‘filoedd o filltiroedd i ffwrdd’. Dyma ddarlun o gymdeithas glòs ac fel y gŵyr y cyfarwydd, byddai gyrwyr y Moto Coch yn galw ym mhob tŷ mewn rhes yn aml, gyda nwyddau o’r dre’n amrywio o fara i foddion.
Nid oedd bywyd yn fêl i gyd yn y baradwys hon ychwaith. Ceir ymdriniaeth hynod o sensitif a chynnil ynglŷn â bwlio, er enghraifft, gyda gwaredigaeth yn dod o gyfeiriad annisgwyl fel yn hanes y Samariad Trugarog gynt. Sonnir am alcoholiaeth sy’n ganlyniad i ddigwyddiad trychinebus ac am ddiweithdra a’i effeithiau pellgyrhaeddol. Cyfyd yr hen broblem o ‘enwadaeth’ ei phen ar y trip ysgol Sul a’r cyfan wedi ei wau’n gelfydd i’r nofel.
Nid portread o blentyndod yn unig a geir yma ond gwaith sy’n ein hargyhoeddi fel darn o lenyddiaeth yn ogystal, am fod yma awdures â dawn ‘ysgrifennu digamsyniol’ fel y noda Angharad Price, a hynny am agweddau parhaol ar y natur ddynol yn ogystal â’r nodweddion sy’n newid gyda threigl amser.
Ann Jenkins
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Author Biography: Ganwyd Bet Jones ym mhentref Trefor. Mae'n athrawes yn Ysgol y Graig, Llangefni a bellach yn byw yn Rhiwlas ger Bangor. Further Information: Hanes Beti Bwt – a chodi’r llen ar hanes Trefor
Wedi ei pherswadio i gystadlu gan ei merched, fe ddaeth y gyfrol hon yn ail yng nghystadleuaeth Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint, 2007 gyda chanmoliaeth uchel iawn. Disgrifiodd un o’r beirniad y gyfrol fel un “hynod ddarllenadwy”, ac yr awdures fel un “a chanddi ddawn ysgrifennu digamsyniol.”
Meddai Bet: “Doeddwn i erioed wedi cystadlu yn yr Eisteddfod o’r blaen, a ro’n i wedi meddwl gwneud hynny ers talwm.” . “Pan welais i mai ‘Plentyndod’ oedd y testun, roedd yn apelio’n fawr, ac fe roddodd y genod, Meinir a Gwen, hwb i mi.”
Hanes Beti, merch fach 6 mlwydd oed sy’n byw ym mhentref Trefor yn Llŷn ar ddiwedd y pumdegau yw Beti Bwt, gyda phob pennod yn bwrw golwg ar agwedd o fywyd y ferch a’r gwahanol gymeriadau a sefyllfaoedd o fewn y gymdeithas chwarelyddol glòs. O bêl-droed i ‘delefision’ cyntaf y pentref, ac o ffrindiau gorau i golli ffrind a bwlio i fabis newydd, mae’r cyfan yn llywio bywyd y ferch fach cyn dod i ddiweddglo sy’n newid ei bywyd unwaith ac am byth.
Yn ôl Bet, mae’r nofel yn hanner hunangofiant, hanner ffuglen. Daw rhai o’r cymeriadau a’r golygfeydd o’i dychymyg, ac mae rhai eraill yn atgofion o’i phlentyndod. Wedi ei hysgrifennu mewn llais plentyn, mae’r stori yn tywys y darllenydd drwy flwyddyn ym myd diniwed y ferch fach hoffus, gan ddechrau gydag Eisteddfod Gŵyl Ddewi'r Capel, cyn mynd ar drip ysgol Sul, mwynhau noson tân gwyllt a’r disgwyl eiddgar am y Nadolig.
“Mi ddaeth y llais plentyn yn naturiol wrth ysgrifennu, achos mod i’n cofio’r atgofion mewn llais plentyn,” meddai’r awdures. “Dwi’n dysgu plant yr un oedran a Beti yn Ysgol Gynradd Y Graig Llangefni, felly roedd hynny yn help garw i mi.
“Wrth gwrs mae’r iaith wedi newid erbyn heddiw, tydi plant ddim yn siarad fel yr oeddan ni yn y pumdegau, ond dwi’n meddwl fod plant yn dal i feddwl yr un peth. Plant ydy plant ym mhob oes.”
Mae’r nofel yn llawn o gymeriadau unigryw'r gymdeithas sydd yn eu tro yn creu argraff fawr ar Beti. Mae rhai cymeriadau yn agos iawn at rai o’r trigolion oedd yn byw yn Nhrefor tra oedd Bet ei hun yn ferch fach yno, ac mae’n sicr y bydd rhai o bobl yr ardal yn eu cofio.
Meddai Lefi Gruffudd o’r Lolfa, “Mae Beti Bwt yn bortread hyfryd o bentre’ gwledig Cymraeg, ond mae hefyd yn bortread o newid dramatig o fewn y gymdeithas honno yn y pumdegau.” |
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
|
|
There are no Customer Reviews so far for this title.
|
|
|
|
More Titles
|
People who bought this title also bought the following:
|
Book of the Month
|