Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Atgofion Hen Wanc - Hunangofiant Dave DatblyguDavid R. Edwards View more titles by 'David R. Edwards'
ISBN: 9781847711892 (1847711898)Publication Date October 2009
Publisher: Y Lolfa, Tal-y-bont
Format: Paperback, 195x130 mm, 112 pages Language: Welsh Available Our Price: £6.95 
Atgofion Hen Wanc - Hunangofiant Dave Datblygu
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
This is the autobiography of one of the heroes of the Welsh rock scene, written simply and in his own words. From his first taste of beer at the age of four to his problems with alcoholism and mental illness during the last decades, there is nothing ordinary or comfortable about the life of David R. Edwards. Like his songs, the writing is raw, honest and full of dark humour.

Hunangofiant un o dalentau mwyaf y byd roc Cymraeg, Dave Datblygu. David R. Edwards oedd cyfansoddwr a chanwr y band Datblygu a ddaeth i amlygrwydd ar Radio One ac a ddaeth yn un o hoff fandiau John Peel. Ers i'r band chwalu bu Dave mewn ac allan o ysbyty meddwl a bu'n dioddef o alcoholiaeth a sgitsoffrenia. Mae ei stori yn un o iselder, yfed, roc a rôl, cariad a phroblemau.
‘No flim flam, dim ailadrodd, dim darnau boring sydd yn neud i chi ddisgyn i gysgu’ – dyna addawodd Dave Datblygu i'w ffrind Emyr Glyn Williams pan soniodd ei fod wedi derbyn cais i ysgrifennu ei hunangofiant. Ac mae David R Edwards wedi cadw at ei air. Mae e’n llwyddo i grynhoi ei fywyd mewn cwta ddeugain tudalen, heb falu awyr, yn gwbwl onest a di-hid. A fyddwn i ddim wedi disgwyl unrhyw beth arall.

Mae ’na gyfeiriadau cyson at ei broblemau alcohol, ei brofiadau gyda merched, yr heddlu, ei gyfnod yn perfformio, ei gyfeillgarwch â John Peel, a’i salwch meddwl. Mae hunangofiannau'n cael eu barnu yn aml ar sail eu gonestrwydd – does dim yn waeth na darllen ffeithiau moel am yrfa pêl-droediwr. Ac wedi’r cyfan, prin yw’r bobl yng Nghymru fyddai’n fodlon rhoi darlun cwbwl onest o'u bywyd. Person anghonfensiynol fuodd Dave Datblygu erioed. Ac mae’n anodd mynegi barn, a dweud y gwir, am y gyfrol wrth ystyried cyflwr ei iechyd meddwl yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r blynyddoedd o fyw gyda’r salwch hwnnw, a brwydro yn erbyn y botel, yn amlwg drwy’r gwaith.

Y tristwch mwyaf ydy nad oes ganddo fawr iawn o atgofion gwirioneddol hapus, ac eithrio'i sesiynau ar Radio 1 gyda John Peel a’r adeg pan lwyddodd y Super Furry Animals i gyrraedd y siartiau gyda ‘Y Teimlad’ – sef fersiwn o un o'i ganeuon. Pan fyddai pethau’n mynd yn ormod iddo, fe fyddai’n dychwelyd at ei rieni yn Aberteifi bob tro. Ac mae’r golled yn sgil marwolaeth ei fam yn amlwg. Er nad yw’n mynegi hynny yn llawn emosiwn, mae modd synhwyro hynny. Mae ’na chwithdod hefyd na chafodd bleidlais yn y refferendwm ar ddatganoli, gan ei fod yn cael gofal mewn ysbyty meddwl.

Dyw’r gyfrol ddim yn hunangofiant swmpus a chelfydd – nid dyna'i bwriad, ond mae’n adrodd hanes cyfnod yn y sîn roc Gymraeg sydd mewn perygl o fynd yn angof. A finnau’n bresennol, cof digon niwlog sydd gen i bellach o nosweithiau fel Noson Claddu Reu yn Eisteddfod Aberystwyth, a’r Cnapan yn Ffostrasol. Prin yw’r sylw sydd wedi'i roi i frwdfrydedd a phoblogrwydd gigs y cyfnod hwnnw yn ein llyfrau hanes diweddar ni fel cenedl, ac mae hynny’n drueni. Mae angen cofnodi’r cyfnod hwnnw cyn i fy nghenhedlaeth i fynd yn rhy hen i'w gofio!

Dwi’n ymwybodol fod nifer fawr o bobl wedi derbyn yr hunangofiant yn anrheg Nadolig, eraill wedi'i brynu eu hunain. Bydd nifer ohonyn nhw, fe fentra i ddweud, wedi darllen y llyfr Cymraeg cyntaf ers degawdau – sawl un, mae’n siŵr, a oedd naill ai’n rhannu’r un llwyfan â Datblygu neu yn y dorf. All neb gwyno am hynny.

Iola Wyn

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Further Information:
This is the autobiography of one of the heroes of the Welsh rock scene, written simply and in his own words. From his first taste of beer at the age of four to his problems with alcoholism and mental illness during the last decades, there is nothing ordinary or comfortable about the life of David R. Edwards.

The books tells of the growth in popularity of Datblygu, the author's friendship with John Peel (who arranged five sessions for him on Radio One), but we mainly have here a story of the author's battles with life, bad jobs, women and alcohol. Like his songs, the writing is raw, honest and full of dark humour.

According to his friend Emyr Glyn Williams, "the autobiography will take its place next to the rest of Dave's work and will highlight one of the most important artistic treasures of our heritage."
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Cyfres y Beirdd ...
David R. Edwards
£3.95
 
Buy Now
Lloffion Llŷn
W. Arvon Roberts
£8.50
 
Buy Now
Yogi - Mewn Deg Eiliad, ...
Bryan Davies
£9.95
 
Buy Now
Book of the Month
English
No Room to Live - A ...
Wynford Ellis Owen
£11.95
 
Buy Now
Welsh
Mynd dan Groen
Sonia Edwards
£7.99
 
Buy Now