Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Argraff Gyntaf, Yr
Ifan Morgan Jones
ISBN: 9781847712677 (1847712673)Publication Date August 2010
Publisher: Y Lolfa, Tal-y-bont
Format: Paperback, 195x129 mm, 240 pages Language: Welsh Available Our Price: £7.95 
Customers' average rating:
 
Write a Customer Review
 
Read Reviews...
Welsh Novel of the Month: September 2010
This detective novel is set in Cardiff in 1927. It portrays the depression through the eyes of the staff of the Chronicle newspaper. The King arrives in Cardiff to open the National Museum and Cardiff win the FA Cup!

Nofel dditectif sydd yma, wedi'i lleoli yng Nghaerdydd yn 1927. Mae'n rhoi darlun o'r Dirwasgiad o safbwynt gweithwyr yn swyddfa papur newydd y Cronicl. Mae'r Brenin yn dod i Gaerdydd i agor yr Amgueddfa Genedlaethol a dyma'r flwyddyn yr enillodd Caerdydd gwpan yr FA!
Yr Argraff Gyntaf yw ail nofel Ifan Morgan Jones ac, ar ryw olwg, allai hi ddim bod yn fwy gwahanol i Igam Ogam, a gipiodd Wobr Goffa Daniel Owen iddo yn 2008. Nofel ffantasi oedd y gyntaf, a’r rhan fwyaf ohoni wedi’i lleoli yn y Fabinogwlad ddychmygol. Mae hon wedi ei gosod mewn lle ac amser go iawn; y lle yw Caerdydd, a’r cyfnod yw wythnos benodol ym mis Ebrill 1927 pan oedd pethau hyd yn oed yn fwy byrlymus nag arfer, gyda’r Amgueddfa Genedlaethol ar fin agor yn swyddogol a’r tîm pêl-droed yn chwarae yng ngêm derfynol Cwpan yr FA. Dyna’r fframwaith hanesyddol. Ac eto, creadigaethau’r awdur yw’r ddinas a’r wythnos fel ei gilydd wrth iddynt ddod yn fyw yn y nofel.

Nofel hanes yw hi felly i ryw raddau, ond gyda dychymyg Ifan Morgan Jones ar waith, mae’n gymaint mwy na hynny; bron nad yw’n ffinio ar fod yn nofel hanes amgen ar yr un pryd. Petai hi’n nofel hanes ‘bur’, neu draddodiadol, rwy’n credu y byddai’n rhaid ei beirniadu am ambell lithriad anachronistaidd, ond rywsut neu’i gilydd, dydi’r rheini ddim fel petaen nhw’n effeithio rhyw lawer ar y stori fel y mae hi. Byddai eu chwynnu, ar y gorau, wedi caniatáu i fanylion llai pwysig lifo’n esmwyth, ac wedi gwneud ambell gymeriad yn fwy credadwy yng nghyd-destun ei gyfnod, ond wedyn, mae’n ddigon posib na fyddent yn haeddu lle yn y stori. Ac yn Yr Argraff Gyntaf, y stori sydd bwysicaf.

Mae hynny’n amlwg o’r cychwyn wrth i’r nofel agor yn ddramatig gyda chorff yn cael ei ganfod ym mheiriant argraffu’r wasg. Caiff ei adnabod ar unwaith fel corff Tynoro Davies, golygydd Cronicl Caerdydd, a chyn galw’r un heddwas na meddyg, mae’r is-olygydd wedi penderfynu mai wedi’i lofruddio y mae Davies, am fod hynny’n gwneud gwell pennawd i’r papur. A dyna ein taflu i ganol byd a meddylfryd cymeriadau’r nofel.

Mae’r tempo’n newid wedyn wrth i ni ddod i adnabod rhai o’r cymeriadau'n well; bron nad anghofir am Tynoro druan yn y marwdy ac inc y Cronicl yn staen ar ei groen. Ond dyma batrwm cydnabyddedig newyddiaduraeth, patrwm y mae’r awdur yn ei efelychu yn gwbl ymwybodol. Fel y dywed Cynog Price, y golygydd nos, “Mae awdur yn taflu popeth atat ti ar ddechrau llyfr, i drio dal dy sylw. Dyna’r darn mwya dadlennol ... Dyna pam wy’n hoffi papure newydd. Mae’r sylwedd i gyd yn y frawddeg gynta, ac mae holl ymdrech y newyddiadurwr profiadol yn mynd i’r ychydig eiriau hynny.”

Ond yna fe sylweddolwn nad oes llawer o amser wedi mynd heibio ers canfod y corff, a digwyddiadau dramatig y noson honno sy’n llenwi’r chwe phennod nesaf. Am weddill y nofel mae’r stori’n carlamu o le i le mewn penodau cymharol fyr nes cyrraedd uchafbwynt yn seremoni agor yr Amgueddfa.

Does yna’r un prif gymeriad amlwg yn Yr Argraff Gyntaf; mae sawl edefyn yn gwau drwy’i gilydd a sawl cwestiwn yn codi ar hyd y ffordd. Mae’r awdur yn ymatal yn gelfydd rhag datgelu gormod ac yn gadael i’r darllenwyr benderfynu drostynt eu hunain ar sail y cliwiau sydd wedi’u gwasgaru hwnt ac yma. Erbyn hynny, byddwn ninnau’n gyfarwydd â dehongli’r math o awgrymiadau a gawn ni gan Ifan Morgan Jones wedi i gyfrinach arall ddod i’r amlwg.

Er bod y pwyslais mwyaf ar y digwyddiadau, mae yma ddisgrifiadau godidog o Gaerdydd, y Cymoedd, a phaith Patagonia. Mae dull yr awdur o ddisgrifio’r cymeriadau dipyn yn fwy arwynebol ac yn tueddu i ganolbwyntio ar un elfen. Dewisa eiriau chwithig ar brydiau sy’n difetha’r darlun, ond mae ar ei orau wrth ddisgrifio’r ddinas. Gallwn gredu ei fod wedi gweld Caerdydd fel ag yr oedd hi’n y dauddegau, “wedi ymledu fel ffwng i bob cyfeiriad.”

Felly, tra bo’r llyfr hwn yn gweithio ar un lefel fel nofel ddirgelwch sy’n hoelio sylw ac yn cynnal chwilfrydedd hyd y diwedd, y peth mwyaf cofiadwy yw’r portread o isfyd ‘hacs’ newyddiadurol Caerdydd sydd bellach yn perthyn i’r gorffennol ond sy’n dal i fod yn dirlun go ddieithr i’r rhan fwyaf o ddarllenwyr Cymraeg. Camp Ifan Morgan Jones yw ein hargyhoeddi nad yw’n ddieithr o gwbl iddo ef.

Gwen Jones

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Author Biography:
Newyddiadurwr o’r Waunfawr yw Ifan Morgan Jones. Graddiodd o Brifysgol Caerdydd, cyn cwblhau cwrs ôl-radd mewn ysgrifennu creadigol ym Mangor. Mae bellach yn byw ym Mhenrhiwllan ger Llandysul.
Further Information:
Dirwasgiad a Ffeinal 1927 – Awdur yn Datgelu Stori’r Brifddinas

Ddwy flynedd wedi cipio gwobr goffa Daniel Owen a chlod uchel am ei nofel gyntaf Igam Ogam mae Ifan Morgan Jones yn mentro i fyd hollol wahanol gyda’i ail nofel. Mae Yr Argraff Gyntaf wedi ei leoli yng Nghaerdydd yn ystod yr wythnos bwysicaf yn hanes y ddinas – Ebrill 1927 pan enillodd Caerdydd Cwpan yr FA a phan gafodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru ei agor. Roedd hefyd yn gyfnod diddorol yn hanes y ddinas gyda’r dirwasgiad yn dechrau taro’r dociau a’r awdurdodau yn colli gafael ar gyfraith a threfn. Mae Ifan yn esbonio pam iddo ddewis y cyfnod ar gyfer ei nofel, “Wrth ymchwilio i’r cyfnod ges i fy synnu pa mor ddiddorol oedd hanes Caerdydd. Roedd ardal y bae, sydd wedi ei newid yn gyfan gwbl erbyn hyn, yn amlwg yn lle lliwgar a pheryglus ac yn berffaith ar gyfer nofel ditectif.”

Mae Ifan yn cyfaddef fod y nofel yma, sydd mewn amser a lleoliad penodol, yn hollol wahanol i Igam Ogam, oedd yn nofel ffantasiol, “Nofel antur a dirgelwch yw Yr Argraff Gyntaf bennaf a’r gobaith ydi dal sylw’r darllenydd o’r dechrau i’r diwedd, ond mae nofel hanesyddol yn gofyn am lot mwy o waith ymchwil na nofel wedi’i leoli yn fy myd dychmygol fy hun.”

Mae’r nofel yn cychwyn gyda darganfod corff golygydd papur newydd lleol yng nghrombil gwasg argraffu ac ymweliad siryf o’r Ariannin, Enoch Jones, â’r brifddinas. Mae’r awdur wedi llwyddo i weu'r elfennau dychmygol yma gyda’r digwyddiadau go iawn gan greu nofel ddarllenadwy iawn fydd yn sicr o aros yn y cof.
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
Beth from O Feirion rated this title and wrote:
"Ardderchog. Mae ôl gwaith a saernïo ar y plot. Cymeriadau difyr. Darllen yn hawdd - arwydd o ysgrifennu da. Disgwyl yn eiddgar am y nofel nesaf."
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Resistance
Owen Sheers
£7.99
 
Buy Now
Dawn Dweud: Lewis Edwards
D. Densil Morgan
£18.99
 
Buy Now
Cân dros Gymru
Dafydd Iwan
£7.95
 
Buy Now
Book of the Month
English
Eden's Garden
Juliet Greenwood
£8.99
 
Buy Now
Welsh
Blasu
Manon Steffan Ros
£8.95
 
Buy Now