Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Find a Bookshop
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Cofnodion - Hunangofiant Meic Stephens
Meic Stephens
ISBN: 9781847714305 (1847714307)Publication Date July 2012
Publisher: Y Lolfa, Tal-y-bont
Format: Paperback, 215x140 mm, 248 pages Language: Welsh Available Our Price: £9.95 
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
Meic Stephens' autobiography - the experienced author, professor, journalist, translator, poet and editor gives an account of how the young boy from an English-speaking household grew up to be a Welshman, and played a prominant part in welsh culture.

Dyma hunangofiant Meic Stephens, yr awdur, athro, newyddiadurwr, cyfieithydd, bardd a golygydd profiadol, a sut y tyfodd y crwt di-Gymraeg yn Gymro Cymraeg, a chwarae rhan mor flaenllaw ym mywyd diwylliannol Cymru.
Stori garu yn ei hanfod yw hanes bywyd a gwaith Meic Stephens. Yn y gyfrol hirddisgwyliedig hon cawn ei gariad at fro ac at wlad, at iaith ac at dafodiaith, at deulu ac at ffrindiau, at lenyddiaeth a chelfyddyd gain ac at y gwrthrychau syn deillio or rheiny, llyfrau a lluniau.

Yn achos ei fro, cawn ei falchder o fod yn un o blant y dosbarth gweithiol glofaol. Yn achos ei wlad bun weithgar oi lencyndod, yn rebel gwladgarol. Dysgodd Gymraeg ac aeth ati i atgyfodir dafodiaith Wenhwyseg. Ymhyfryda yn ei dras ac yn nhras ei briod, Ruth. Ysgrifennodd, cyfieithodd neu olygodd tua 170 o gyfrolau. Maen bioden o gasglwr llyfrau a phaentiadau prin a gwerthfawr.

Gall cariad, wrth gwrs, ennyn anhoffter tuag at unrhyw beth syn fygythiad neun sarhad i wrthrychaur cariad hwnnw. Ac yn hynny o beth dydi Meic Stephens, i ddefnyddio priod-ddull or ardal hon, ddim yn aran dod ymln. O unigolion ai tramgwyddodd ef neu ei safonau i sefydliadau a fun gyfrifol am fradychu egwyddorion, mae en llym ei lach. Yn hyn o beth datgelir aml gyfrinach a dirgelwch.

Oes, mae yma gariad ac anhoffter (byth gasineb, cofiwch). Ond yr hyn syn ei achub rhag bod yn rhyw hen sinach anfodlon ar brydiau yw ei hiwmor, a hwnnwn hiwmor cynnil, llawn eironi. Dawr hiwmor hwn ir brig droeon yng nghorff y cofiant. Yr enghraifft orau ywr bennod ar wahanol feirniaid y Goron yn y Brifwyl, ac yntau wedi dod yn ail agos droeon. Yn hytrach na phwdu cawn ganddo fwy nag unwaith, fel ymateb i ambell feirniadaeth negyddol, y ffregod: Eitha reit hefyd.

Maer gyfrol yn adlewyrchu amlochredd Meic ai gysylltiadau byd-eang ag awduron a beirdd. Maer ffaith iddo ddewis cofnodir cyfan yn y Wenhwyseg yn ychwanegun sylweddol at apl y gyfrol. Ond yr hyn wnaeth fy mhlesio i fwyaf ywr cyffyrddiadau bach teuluol, cynnes ai gariad amlwg at ei briod, ei blant ai wyrion. Mae en benteulu hynod a gall ei wyrion fod yn falch ou Bampa.

Maer bennod olaf, Sha Pen y Daith, yn goron ar y cyfan. Yno mae ar bentalar ei fywyd ai waith, yn gwbl fodlon ei fyd. Ac eto, mae yna ryw dinc hynod o drist yn y darlun ohonon eistedd ar brom Aberystwyth wedi iddo werthu rhan oi stoc lyfrau. Yna, meddai, maen edifarhau ar ei ffordd adre am iddo waredu rhai oi hen gyfeillion.

Eitha reit hefyd. A diolch, Meic, am ddiwrnod da o waith.

Lyn Ebenezer

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Author Biography:
Ganed Meic Stephens yn Nhrefforest, ger Pontypridd, ym 1938, ai fagu ar aelwyd uniaith Saesneg. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac ym Mhrifysgol Rennes yn Llydaw. Wedi dysgu yng Nglynebwy o 1962 hyd 1966, a threulio blwyddyn ar staff y Western Mail, cafodd ei benodin Gyfarwyddwr Llenyddiaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Lansiodd y cylchgrawn Poetry Wales ym 1965 ai olygu am wyth mlynedd. Tran byw ym Merthyr Tudful roedd yn weithgar gyda Phlaid Cymru; roedd ymhlith y rhai a eisteddodd ar Bont Trefechan ym mis Chwefror 1963 ym mhrotest cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Dysgodd y Gymraeg yn fuan ar l priodi Cymraes, Ruth Meredith, ym 1965, ac maent wedi magu pedwar o blant trwy gyfrwng yr iaith; mae ganddynt ddeg o wyrion ac wyresau syn medrur iaith hefyd. Ymddiswyddodd oi swydd gyda Chyngor y Celfyddydau ym 1990 i fyw fel newyddiadurwr ar ei liwt ei hunan. Treuliodd dymor fel Athro Saesneg ym Mhrifysgol Brigham Young yn Utah. Toc wedyn fei penodwyd i swydd darlithydd yn Adran y Dyniaethau ym Mhrifysgol Morgannwg, ac yn 2000 cafodd gadair bersonol fel Athro Lln Saesneg Cymru. Dyfarnodd Prifysgol Cymru iddo radd M.A. er anrhydedd yn 2000 a DLitt am ei gyhoeddiadau yn yr un flwyddyn. Mae e wedi ysgrifennu neu gyfieithu neu olygu tua 170 o lyfrau, gan gynnwys y gyfres Writers of Wales, Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, ar Oxford Literary Guide to Great Britain and Ireland. Ymhlith ei lyfrau eraill y mae dwy nofel, dyddiadur A Semester in Zion, cyfieithiadau o nofelau Islwyn Ffowc Elis a Saunders Lewis, storau John Gwilym Jones ac atgofion Gwynfor Evans. Mae e wedi golygu casgliadau o gerddi Harri Webb, Glyn Jones, Rhys Davies a Leslie Norris, a nifer o flodeugerddi. Mae detholiadau o erthyglau coffa o Gymry adnabyddus oi eiddo sydd wedi ymddangos yn yr Independent wedi eu cyhoeddi fel Necrologies a Gone but not Forgotten. Fe yw Golygydd Llenyddol y cylchgrawn Cambria ac Ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Rhys Davies. Fe drodd yn ddiweddar at farddoni yn y Gymraeg, a hynny yn y Wenhwyseg, a daeth o fewn trwch blewyn i ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol sawl tro.
Further Information:
Cofnodion Cawr o Gymro rhwng Dau Glawr: Meic Stephens

Mae gan Meic Stephens nifer o deitlau yn gysylltiedig i enw: athro prifysgol, newyddiadurwr, cyfieithydd, bardd a golygydd profiadol. Mae wedi ysgrifennu, cyfieithu neu olygu oddeutu 170 o lyfrau, gan gynnwys y gyfres Writers of Wales, y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, dwy nofel, cyfieithiadau o nofelau Islwyn Ffowc Elis a Saunders Lewis a nifer o flodeugerddi. Daeth hefyd yn agos sawl tro i ennill y Goron dros y blynyddoedd diwethaf, a hynny drwy farddoni yn y Wenhwyseg.

Ond sut yn union tyfodd y dyn hwn o fod yn blentyn di-Gymraeg y Gymru ddiwydiannol, i fod yn Gymro Cymraeg sydd wedi chwarae rhan mor flaenllaw ym mywyd diwylliannol Cymru? Ceir yr ateb ir cwestiwn hwnnw, a llawer iawn mwy, rhwng cloriau ei gyhoeddiad arbennig diweddaraf ei hunangofiant, Cofnodion.

Magwyd Meic Stephens ar aelwyd uniaith Saesneg yn Nhrefforest, ger Pontypridd, ac maer diolch iw dad-cu, Sais o Lundain, am blannur hedyn ynddo a berodd iddo ddechrau tyfun Gymro. Ymhelaethar awdur am ddylanwad ei addysg prifysgol: Bu i mi adael gartref am Aberystwyth ym 1956 yn ddi-Gymraeg, yn ddi-glem ac yn ddibrofiad o weddill Cymru. Bum mlynedd yn ddiweddarach, erbyn i mi orffen fy ngradd, rodd y brogarwr o Drefforest wedi troin genedlaetholwr. Yn y seremoni raddio yn Neuadd y Brenin, wrth aros yn fy sedd yn ystod yr anthem Seisnig gyda dyrnaid om cyd-fyfyrwyr, penderfynais y byddwn yn mynd ati o ddifrif i ddysgur iaith cyn gynted ag y bo modd.

Gweithredodd Meic Stephens yn gyson o blaid y Gymraeg: roedd ymhlith y rhai a eisteddodd ar Bont Trefechan ym mhrotest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Cafodd ei benodin Gyfarwyddwr Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, a lansiodd y cylchgrawn Poetry Wales ym 1965 ai olygu am wyth mlynedd. Yn yr un flwyddyn, fe briododd Gymraes, Ruth Meredith, a dysgodd y Gymraeg yn fuan wedi hynny. Maent wedi magu pedwar o blant trwy gyfrwng yr iaith, yn eu plith y DJ Huw Stephens; bellach, mae ganddynt ddeg o wyrion ac wyresau syn medrur iaith.

Ymhlith nifer or hanesion a geir yn Cofnodion y mae ymdrechion Meic Stephens fel oedolyn i ddatrys dirgelwch gwreiddiau teulu ei dad yn Sir Faesyfed. Un or pethau a orweddain drwm ar fy meddwl trwy gydol yr 1980au, tra on i gyda Chyngor y Celfyddydau, odd yr hyn a ddysgais ym 1962: roedd fy nhad yn blentyn siawns, eglura Stephens. Treuliodd ddwy flynedd ar hugain yn ceisio dod o hyd i rieni ei dad. Mater o holi a chwilota oedd chwilio am y fam, ond roedd yn rhaid iddo ddefnyddio dull mwy gwyddonol i sefydlu pwy oedd y tad, sef DNA.

Pam es i ir fath drafferth i ddod o hyd i rieni fy nhad? gofynnar awdur. Ron i wedi dechrau gan feddwl y byddai fy nhad yn hoffi clywed amdanynt ryw ddydd, ond ar l ei farwolaeth ron in awchus am yr wybodaeth hon er mwyn fy hunan. Ar ben hynny, cefais fy sbarduno gan yr hanes i ddechrau barddoni yn y Gymraeg, ac am hynny rwyn hynod ddiolchgar. Mae Cofnodion yn hunangofiant ffraeth gan un o brif ffigyrau llenyddiaeth Cymru, cyfrol syn llawn sylwebaeth dreiddgar a digyfaddawd.
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Politics and Society in ...
Rhys Jones
£9.99
 
Buy Now
Pembrokeshire Childhood ...
Phil Carradice
£14.99
 
Buy Now
Elystan - Atgofion Oes
Elystan Morgan
£12.95
 
Buy Now
Book of the Month
English
Red Hearts and Roses? - ...
Rhiannon Ifans
£10.99
 
Buy Now
Welsh
Esgyrn
Heiddwen Tomos
£8.99
 
Buy Now
Children
Natur Ych a Fi
Carol Barratt
£7.99
 
Buy Now