Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Faciwî, Y
Barbara Davies
ISBN: 9781847716743 (1847716741)Dyddiad Cyhoeddi Mai 2013
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 128 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £7.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Dyma stori ryfeddol Barbara Warlow Davies a adawodd Lerpwl am Dalgarreg yng Ngheredigion yng nghanol yr Ail Ryfel Byd fel ifaciwî, 'yn Saesnes uniaith bedair oed'.

The remarkable story of Barbara Warlow Davies who was edacuated at the age of four from Liverpool to Talgareg in Ceredigion, during the Second World War.
Braint o'r mwyaf oedd cael gwrando ar dair menyw go arbennig yn rhannu eu profiadau yng ngŵyl y Fedwen Lyfrau yn Felin-fach eleni, ac un ohonynt oedd Barbara Davies, efaciwî a ymfudodd o Lerpwl i Dalgarreg yng nghefn gwlad Sir Aberteifi yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi'i chlywed yn siarad roedd yn rhaid i mi ddarllen ei llyfr gan mor fyrlymus yr adroddai hi ei hanes.

Yn wahanol i'r mwyafrif o efaciwîs, dod o Lerpwl am benwythnos yn unig i weld ei brawd Bill a oedd yn efaciwî yn Nhalgarreg a wnaeth Barbara. Pan ddaeth yn bryd iddi hi a'i thad ddychwelyd i'r ddinas fe benderfynodd Barbara, a hithau yn ddim o beth, ei bod hi am aros, ac ar fferm Pantglas yn Nhalgarreg y treuliodd ei phlentyndod.

Fe fyddai bywyd wedi bod yn dra gwahanol yn Lerpwl – dinas a ddioddefodd yn enbyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cyn symud oddi yno bu bron iawn i Barbara gael ei lladd, ac mae'r ffordd mae hi'n adrodd hanes y bomiau a'u heffaith yn ddirdynnol. Dysgwn hefyd fod mam Barbara wedi marw’n ifanc, felly roedd plentyndod y ferch fach yn un anodd tu hwnt.

Bu hi'n ffodus iawn o gael cartref yn Nhalgarreg, ac fe ddaeth Wncwl ac Anti, fel y'u galwai, yn rhieni iddi. Magwyd hi gyda'r gofal mwyaf, ac mae'n amlwg fod gan Barbara feddwl mawr iawn ohonynt.

Nid profiadau Barbara yn unig a geir yn y gyfrol hon – rhy i ni hefyd ddarlun manwl o gymuned Talgarreg yn ystod y rhyfel ac wedi hynny. Ceir gwybodaeth hynod ddiddorol am y gymdogaeth ac am arferion yr oes, a defnyddir geirfa werthfawr, er enghraifft, wrth sôn am dymor hau hadau.

Dyma lyfr hyfryd iawn yn llawn atgofion – y lleddf weithiau, yn anochel, ond gan amlaf y llon a geir wrth i efaciwî fach ifanc o Lerpwl gael croeso arbennig yn Nhalgarreg. Daeth yn Gymraes fach dda ymhen dim o dro, a heddiw diolchwn am hynny wrth iddi rannu clytwaith o atgofion mewn iaith goeth a chywrain. Mae'n stori ryfeddol ac yn werth ei darllen.

Sarah Down-Roberts

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Gwybodaeth Bellach:
Yn Lerpwl bu yng nhganol un o’r cyrchoedd awyr mwyaf a welwyd ym Mhrydain erioed, sef Blits mis Mai 1941 pan laddwyd miloedd o drigolion Lerpwl gan ymosodiadau’r Luftwaffe. Ceir hanes Barbara’n cael ei hachub rhag tanchwa a laddodd dros 164 o bobl yn ysgol Ernest Brown, cyn cael ei symud gyda’r don o ifaciwîs a gyrhaeddodd gefn gwlad Cymru yn ystod y rhyfel.

Ond cafodd gymaint o groeso yn Nhalgarreg, Ceredigion, mi benderfynodd aros ac ymgartrefu yng Nghymru, a hynny gyda John a Rachel Davies ar aelwyd Pantglas. Yn y gyfrol hon ceir darlun hyfryd o gefn gwlad Ceredigion ar ôl y rhyfel gyda disgrifiadau byw o hen arferion ar ffermydd yr ardal, o ddiwrnod lladd y mochyn i’r modd yr ymgodymwyd gyda’r rasiwns.

Ceir hefyd bortreadau cynnes a hwyliog o rai o gymeriadau’r fro gan ddynes a fydd yn fythol ddiolchgar i gymuned gymdogol a chroesawgar Talgarreg.
Diweddarwyd ar 10 Ebrill 2013
Bu Barbara yng nghanol un o’r cyrchoedd awyr mwyaf a welwyd ym Mhrydain erioed, sef Blits mis Mai 1941 pan laddwyd miloedd o drigolion Lerpwl gan ymosodiadau’r Luftwaffe. Yn Y Faciwî, cyfrol a gyhoeddir gan wasg Y Lolfa, ceir hanes dramatig ei hachubiaeth rhag tanchwa a laddodd dros 160 o bobl, a’r tro a daeth i’w byd wrth symud i gefn gwlad Cymru.

“Atgof o Lerpwl sy’n fyw yn fy nghof yw’r noson pan chwalwyd Ysgol Ernest Brown yn 1940, pan oeddwn yn bedair oed,” meddai Barbara. “Yn dilyn marwolaeth fy mam, es i fyw at un o’i ffrindiau agosaf am gyfnod. Pan fyddai seiren yn rhybuddio fod awyrennau’r Almaenwyr yn nesáu, arferwn fynd gyda hi i’r ysgol, i lochesu rhag y bomiau. Fel nifer o bobl a phlant eraill, byddwn yn mynd lawr i’r seler, lle’r oedd y boeleri.

“Pan glywodd ’nhad am hyn, doedd o ddim yn hapus. Rhuthrodd draw i’r tŷ a’n rhwystro rhag gadael am yr ysgol. Yr un noson, disgynnodd bom yn syth ar yr ysgol a chafodd dros 164 eu lladd.”

Fe ddanfonwyd ei brawd hŷn i lochesu â theulu yng Nghymru yn ystod Blits mis Mai. Aeth Barbara i ymweld ag ef ychydig fisoedd yn ddiweddarach, ac o dderbyn cystal croeso gan John a Rachel Davies ar aelwyd Pantglas yn Nhalgarreg, Ceredigion, mi benderfynodd aros ac ymgartrefu yno.

“Roedd ’nhad gartref ar wyliau byr o’r fyddin, felly dyma ni’n dau yn dechrau ar y daith hir o Lerpwl i Dalgarreg i ymweld â’m brawd, Bill. Wedi penwythnos hir ar fferm Pantglas, dyma ’nhad yn dweud, ‘Well Barbara, it’s time to go now or we’ll miss the train.’ ‘I’m not going back to Liverpool,’ atebais, ac es i byth ’nôl i Lerpwl i fyw. Fe fu Wncwl John yn fwy o dad i mi na fy nhad fy hunan, ac fe fu gofal Anti Rachel yn well nag unrhyw fam.”

Yn Y Faciwî, ceir darlun hyfryd o gefn gwlad Ceredigion ar ôl y rhyfel, gyda disgrifiadau byw o hen arferion ar ffermydd yr ardal - o ddiwrnod lladd y mochyn i’r modd yr ymgodymwyd gyda’r rasiwns. Ceir hefyd bortreadau cynnes a hwyliog o rai o gymeriadau’r fro gan ddynes a fydd yn fythol ddiolchgar i gymuned gymdogol a chroesawgar Talgarreg.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
History of Wales, A
John Davies
£16.99
 
Prynwch
Twll Bach y Clo
Lleucu Fflur Jones
£8.95
 
Prynwch
Welsh Learner's ...
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mudferwi
Rebecca Roberts
£7.99
 
Prynwch
Saesneg
Longest Farewell, The
Nula Suchet
£12.99
 
Prynwch
Plant
Rygbi
Sarah Larter
£9.99
 
Prynwch