Eich basged
£45.00
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
Gwybodaeth Lyfryddol |
Allan o'r Cysgodion Julian Lewis Jones, Alun Gibbard
|
ISBN: 9781847717269 (1847717268)Dyddiad Cyhoeddi: Gorffennaf 2014
Cyhoeddwr: Y LolfaFformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 150 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£9.95
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
Cofiant Julian Lewis Jones, yr actor a'r cyflwynydd teledu. Mae wedi gwneud enw iddo'i hun fel actor yn Hollywood mewn ffilmiau fel Invictus gyda'r cyfarwyddwr Clint Eastwood, a Zero Dark Thirty, ffilm Kathryn Bigelow.
The autobiography of actor and TV presenter, Julian Lewis Jones. He has made a name for himself acting in Hollywood films such as Invictus with the director Clint Eastwood and in the Kathryn Bigelow film, Zero Dark Thirty.
|
Bywgraffiad Awdur: Actor a chyflwynydd o Ynys Mon yn wreiddiol. Gweler y disgirifad o'r llyfr am fwy o fanylion. Gwybodaeth Bellach: Cofiant onest a hawdd i’w ddarllen gan actor adnabyddus. Mae Julian Lewis Jones yn siarad am y rhwystredigaethau mae wedi eu canfod ar hyd ei fywyd a’i yrfa actio. Mae ei yrfa wedi blodeuo eleni ac mae wedi cael y cyfle i weithio gyda mawrion y byd ffilm yn America. Mae’n gyflwynydd ei raglen ei hun ar S4C ac yn wyneb cyfarwydd i ffans y comedi Stella – prosiect mawr cyntaf Ruth Jones ar ôl Gavin & Stacey.
Awdur y gyfrol yw Alun Gibbard sydd wedi sgrifennu nifer o gofiannau llwyddiannus i’r Lolfa gan gynnwys cofiant Tony ac Aloma. Mae’r gyflwynydd adnabyddus ac yn un o feirniaid Llyfr y Flwyddyn eleni.
Mae’n siarad yn onest am y salwch fel plentyn (bronchital asthma) oedd yn golygu iddo golli llawer o’r ysgol a wynebu unigedd ac anallu i ymuno mewn gemau gyda’i gyfoedion fel bachgen ifanc.
Mae’n gymeriad adnabyddus yn Stella, cyfres gomedi Ruth Jones ar Sky 1 a chyfresi Cymraeg a Phrydeinig fel Caerdydd a Where the Heart Is. Mae’n gyflwynydd y rhaglen ’Sgota ar S4C. |
|
|
Dyma stori ryfeddol Julian Lewis Jones, y bachgen o Frynteg, Sir Fôn dreuliodd gymaint o’i blentyndod yn y cysgodion oherwydd salwch creulon. Dyma’r bachgen swil a oedd wedi ei ynysu mewn gwersi ymarfer corff ac a gollodd gymaint o wersi yn yr ysgol oherwydd problemau anadlu.
Ond y cyfnod rhwystredig hynny a roddodd egni i Julian frwydro ymlaen. Pysgota oedd y ddihangfa, y ffocws newydd i’r Julian ‘gwan a swil’. “Wn i ddim lle fyddwn i petai’r pysgota heb gydio,” datgelai. Roedd y codi pwysau yn ddihangfa arall, cyn iddo gryfhau a chodi pac am ddinasoedd Lloegr ac yna America pan yn 20 oed.
Mae’r daith yn un lliwgar, amrywiol a byrlymus wrth wibio trwy fywyd yr actor a’r cyflwynydd sydd bellach wedi ymgartrefu yn Nantgaredig Sir Gaerfyrddin. Wrth lamu o un swydd i’r llall, o Alwminiwm Môn i sawl gym yn Llundain ac America, o Harrods i bacio rhew yn California, cyn mentro i fyd actio a chael cyfweliad ‘diddorol’ yng ngholeg RADA. Ac yna er gwaethaf y rhai a oedd yn amau a fyddai’n llwyddo, cael ei dderbyn i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd.
Mae’n stori emosiynol am dad yn colli genedigaethau ei blant oherwydd yr ofn o golli bywoliaeth a dod â phlentyn i fyd ansicr. Mae yna ddagrau wrth drafod Theatr Clwyd yn ogystal â’r wefr o weithio yn y theatr honno ac ar ffilm Y Weithred. Ac yna’r boddhad o gael cynnig gwaith ar gyfresi Where The Heart Is, Caerdydd, Belonging ac yn fwyaf diweddar, Stella.
Ac yn binacl i’r cyfan, mae’r atgofion am yr alwad ffôn a dderbyniodd pan yn y car ym Mhont-ar-gothi, galwad a newidiodd bopeth – cael cynnig rhan yn ffilm fawr Clint Eastwood, Invictus am fywyd Nelson Mandela, ac un o ddiddordebau penna’ Julian, rygbi!
Wedi iddo gyfarfod â’r tîm am y tro cyntaf yn San Diego, o bob man, mae perthynas Julian â’r Sgarlets yn amlwg yn y gyfrol hon yn ogystal â’i gyfeillgarwch agos â Grav.
Mae yna straeon difyr am hynt a helynt y byd actio ym mhob cwr o’r byd. A dyma hunangofiant gonest a di-flewyn-ar-dafod ar brydiau, am fyd y ddrama a’r gynulleidfa Gymraeg, a sut effeithiodd hynny ar hyder Julian.
Gyda gwialen bysgota yn gadarn yn ei law, cawn wybod sut y cododd yr hogyn swil o Storws Wen, Brynteg allan o’r cysgodion, i ganol y llwyfan. |
Diweddarwyd ar 15 Gorffennaf 2014
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
|
Llyfr y Mis
| Cymraeg |
Mynd |
Marged Tudur |
£7.00 |
|
| |
|