Your basket
Your Basket is Empty
Go to...
Best-selling Books
Links
|
| Bibliographical Information |
| Dolenni HudOwen Martell
View more titles by 'Owen Martell' |
ISBN: 9781848510326 (1848510322)Publication Date November 2008
Publisher: Gwasg Gomer, LlandysulIllustrated by Simon ProffittFormat: Paperback, 210x210 mm, 160 pages
Language: Welsh
Available Our Price:
£12.99
| |
Customers' average rating:   
|
|
|
A collection of prose based in American towns named after places in Wales, such as Llangollen, Llandaff, Cardiff, Bangor and Neath. Contains photographs of the various locations.
Casgliad o ryddiaith sydd wedi'i lleoli mewn ardaloedd gwahanol yn America a enwyd ar ôl enwau lleoedd yng Nghymru, megis Llangollen, Llandaff, Cardiff, Bangor a Neath. Yn cynnwys ffotograffau o'r gwahanol leoliadau.
|
|
Fel y nododd T. H. Parry-Williams sawl tro, mae ‘na ryw hud arbennig yn perthyn i enwau. Mae iddyn nhw hanes a stori a sŵn unigryw. Fe gafodd y bardd ei swyno gan enwau ffermydd a phentrefi a thai ym mro ei febyd yn Eryri, ond hefyd fe’i swynwyd gan enwau gwledydd pell Pica a Callao a Rio yn ne America, ac yng ngogledd America cyfaddefodd iddo ‘wylo gan enw Santa Fe’.
Mae’r gyfrol hardd hon yn agor gyda dyfyniad o gerdd T. H. Parry-Williams i Chicago, lle bu’n troedio llwybrau rhyw berthynas pell iddo, ac mae yna berthynas rhwng pobol a llefydd, ac mewn sawl man mae’n hawdd teimlo bod y bobol a fu’n byw yno ar draws y canrifoedd wedi gadael eu stamp ar y lle. (Dyna pam mae hi mor drist gweld llawer o’r mewnfudwyr i Gymru yn newid hen enwau cynhenid yn Valley View neu'n Primrose Cottage!)
Rwy’n cofio rhyfeddu y tro cyntaf y bûm i draw yng ngogledd America a gweld yr holl enwau Cymreig ar fap y trên tanddaear yn ninas Philadelphia Bryn Mawr, Gwynedd a Bala-Cynwyd. Does dim llawer o ôl y miloedd o Gymru a fudodd dros yr Iwerydd yng ngogledd America bellach, yn wahanol i’r Gwyddelod a’r Eidalwyr. Ond mae’r enwau yn atgof o’r bwrlwm Cymreig a fu yno unwaith. Chwarae â’r atgofion hynny, a cheisio dyfalu a chreu cysylltiadau rhyngddyn nhw y mae Owen Martell yn ei gyfrol ddiweddaraf. Mae o ei hun wrth gwrs wedi treulio cryn amser yng ngogledd America, ac mae ôl profiadau go iawn, ac ymwybyddiaeth o lefydd a phobol go iawn yn loyw drwy’r straeon.
Weithiau mae’n anodd gwybod ai yng Nghymru neu America ydan ni. Dyma linellau agoriadol ‘Y Rhwyd’, stori â’r is-deitl ‘Llangollen’:
‘Roedd Llangollen yn cyfiawn gysgu. Roedd hi’n berfedd bore Sul a’r
faestref wen wedi ildio unwaith yn rhagor i dywyllwch di-hidio.
Bu’r Sadwrn yn ddiwrnod ffair fach leol. Daethai rhai o drigolion y
stryd i werthu hen bethau anghofiedig eu cypyrddau a’u garejys.’
Yn ei dro mae’r awdur yn creu darluniau o drigolion Llandaff a Bangor, Narberth, Cardiff a Llangollen ac mae’r chwe stori yn creu Cymru arall, ddieithr ond sydd eto'n gyfarwydd. Fel y mae’r enghraifft uchod yn dangos, mae’r rhyddiaith yn y gyfrol yn canu, yn creu darluniau byw o fywyd pentrefi a threfi bychain gogledd-ddwyrain America. Ac yn gyfeiliant i’r geiriau mae lluniau lliwgar ac awgrymog Simon Proffitt yn dal darn o’r America wledig sy’n prysur ddiflannu.
Iwan Llwyd
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Author Biography: Mae Owen Martell yn awdur tair nofel - dwy yn Gymraeg ac un yn Saesneg. Enillodd ei lyfr cyntaf, Cadw dy ffydd, brawd, wobr Llyfr y Flwyddyn 2001. Enwyd ei ail, Dyn yr Eiliad, ar Restr Fer yr un gystadleuaeth yn 2004 ac, yn ôl un adolygydd, y mae'n "rhagorol, ymhob ffordd."
Ar ôl cwblhau cyfieithiad Saesneg o Dyn yr Eiliad, The Other Man, mae Owen erbyn hyn yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau - gan gynnwys nofel newydd.
Mae Owen hefyd yn chwarae gyda'r grŵp Traw ac yn ennill ei damaid fel cyfieithydd a thros-leisydd. |
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
|
|
"Llyfr gwirioneddol dda."
|
|
|
|
More Titles
|
People who bought this title also bought the following:
|
Book of the Month
|