Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
David Lloyd - Llestr Bregus
Hywel Gwynfryn
ISBN: 9781848517998 (1848517998)Dyddiad Cyhoeddi Medi 2016
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 160 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £8.99 
Sgr y Cwsmeriaid ar gyfartaledd:
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
 
Darllen Adolygiadau...
Cofiant arbennig a dadleuol un o gantorion mwyaf disglair ac adnabyddus Cymru yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Tyrrai miloedd o bobl i weld David Lloyd yn perfformio, ac roedd 'melys lais' yr hogyn o Drelogan yn gyfarwydd drwy Gymru, Lloegr ac Ewrop.

A biography of the renowned Flintshire tenor, David Lloyd (1912-1969), who performed across Europe and the United States. This well-researched biography provides and honest portrayal of the man as well as the performer.
Roedd llais y canwr o Drelogan, sir y Fflint, yn gyfarwydd drwy Gymru, Lloegr ac mewn rhannau helaeth o gyfandir Ewrop a Gogledd America. Roedd yn adnabyddus am ei waith ym myd opera ac oratorio, ac am ei berfformiadau o emynau a chaneuon gwerin ei famwlad. Pam, felly, y mae'r disgrifiad o David Lloyd fel llestr bregus mor dreiddgar o addas? Ymgais ywr cofiant hwn i ateb y cwestiwn. Er mwyn cyflwyno cipolwg ar fywyd David Lloyd, mae Hywel Gwynfryn yn mynd ir afael r straeon am fercheta cyson y canwr, ynghyd 'i broblemau yfed, ei iselder ysbryd, ar pwysau trwm a deimlair tenor i ddiddanui edmygwyr.

Ym 1954, cafodd David Lloyd ddamwain, gan dorri ei asgwrn cefn, a bu cryn amheuaeth a ddeuai fyth yn l ir llwyfan cyhoeddus. Nid oedd modd iddo berfformio am chwe blynedd; ni ddychwelodd i'r llwyfan tan Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 1960, a bu farw ym mis Mawrth 1969 yn 56 mlwydd oed.

Glwr ym mhwll y Parlwr Du yng ngogledd sir y Fflint oedd tad David Lloyd, a bur mab ifanc, dawnus yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol. Ond y gwir drobwynt oedd Eisteddfod Licswm, 1933, lle enillodd y wobr gyntaf am berfformiad eithriadol fel tenor. Ym 193334 enillodd ysgoloriaeth i astudio yn ngholeg y Guildhall yn Llundain. Penderfynodd ei derbyn, ond oherwydd tlodi ar yr aelwyd ym Merthen-gam, arferai ganu mewn tafarnau ac mewn nosweithiau diwylliannol yng nghapeli Cymraeg y brifddinas. Ac nid oedd y gwaith academaidd yn hawdd iddo chwaith, er iddo ennill pob gwobr oedd ar gael gan y Guildhall i'w chynnig iddo.

Aeth ati i ddysgu chwarae'r piano a darllen cerddoriaeth, ac aeth ymlaen i berfformio ar lwyfannau cyhoeddus, gan gynnwys nifer o dai opera, ledled Prydain. Yn mis Awst 1937 bun unawdydd yn un o gyngherddau Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth, ac ymhen llai na blwyddyn roedd wedi gadael y Guildhall. Wedi hynny, bu'n perfformio ar nifer o lwyfannau ledled Ewrop ac mewn operu yn Glyndebourne a Sadler's Wells, gan dderbyn sylwadau eithriadol garedig yn y wasg boblogaidd.

Mae pennod 10 yn cyfeirio at gychwyn yr Ail Ryfel Byd, ac am bum mlynedd David Lloyd oedd Musician Lloyd 2737420 ym mand y Gwarchodlu Cymreig. Roedd blynyddoedd y rhyfel yn fwrn arno, ond roedd yn dal i berfformio mewn cyngherddau a digwyddiadau eraill, er yr awgrymir iddo ddioddef o iselder ysbryd ac o bosibl anhwylder meddyliol oherwydd y pwysau gwaith trwm yn y cyfnod hwn. Eto, drwy'r cyfan, roedd yn mwynhau statws eiconaidd yng Nghymru erbyn y 1940au.

Yn dilyn y rhyfel, cynyddu a wnaeth ei boblogrwydd, a bu'n cymryd rhan mewn gwyliau ar y cyfandir. Bu'n ymwelydd cyson 'r stiwdio recordio rhwng 1940 a 1947, a dechreuodd gyfrannu hefyd at raglenni radio o bryd i'w gilydd. Ond, ysywaeth, roedd y problemau seicolegol ar cyfnodau o iselder ysbryd yn amlhau, a chynyddu hefyd wnaeth ei ymrwymiadau cyhoeddus.

Ym 1953 cafodd siom am na dderbyniodd wahoddiad i berfformio ym Mhrifwyl y Rhyl, ac ni fu ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol am chwe blynedd wedi hynny. Ym mis Mai 1954 cafodd ddamwain ddifrifol wrth ymarfer yn stiwdior BBC ym Mharc Cinmel, ac ni fu modd iddo berfformio wedyn tan 1959. Cynyddai ei broblemau ariannol, ac aeth i ddibynnu'n helaeth ar alcohol. Collodd ei drwydded yrru ar fwy nag un achlysur. Daeth ag achos cyfreithiol yn erbyn y BBC am 'loss of earnings', ac yn y gyfrol ceir cofnod manwl or achos llys.

Bu'r BBC yn ddigon eangfrydig i gynnig ychydig o waith radio iddo, a dychwelodd i lwyfan Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ym 1960. Cafodd lawdriniaeth led lwyddiannus ar ei gefn, ond dychwelyd wnaeth yr iselder creulon, a methiant fur llawdriniaeth bellach yn Lerpwl. Ond ymddangosodd ar y teledu, dan adain TWW y tro hwn, gan droi ei gefn ar y BBC bron yn llwyr.

Daeth mwy o waith a gwahoddiadau i'w ran o 1960 ymlaen, ond pur aflwyddiannus oedd taith i America a Chanada. Yn l yng Nghymru, fodd bynnag, derbyniodd nifer fawr o wahoddiadau i berfformio ledled y wlad, ond erbyn hynny roedd ei gyfnod euraid wedi dod i ben, a blynyddoedd hir a digalon at ei gilydd oedd y rhai rhwng 1966 a'i farw ym 1969, yn dilyn damwain yn ei gartref.

Darperir ar ein cyfer wledd o ffotograffau sydd yn darlunio pob cyfnod ym mywyd y canwr hwn.

J. Graham Jones

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Bywgraffiad Awdur:
Daw Hywel Gwynfryn o Ynys Mn yn wreiddiol
Mae ganddo ddiddordeb mawr ym myd adloniant Cymru
Cafodd yrfa hir ym myd darlledu ar y radio a'r teledu ac mae'n wyneb cyfarwydd i ni i gyd
Bu'n darlledu gyda'i raglen Hel Bobol ar Radio Cymru am flynyddoedd lawer ac ar un adeg, ei uchelgais oedd cyfweld phawb oedd yn siarad Cymraeg yng Nghymru
Mae Hywel yn siaradwr heb ei ail ac yn raconteur gyda'r gorau. Y mae clywed Hywel yn sn am fawrion y genedl yn brofiad i'w drysori.
Gwybodaeth Bellach:
Pan gafodd David Lloyd ddamwain gas yn 1954, roedd cryn amheuaeth a ddeuai fyth yn ei l ir llwyfan. Felly beth fu ei hanes? Ydy hin wir fod David Lloyd wedi derbyn cytundeb gan gwmni operar Metropolitan yn Efrog Newydd yn y 1930au?

A aeth i ganu ar lwyfan Glyndebourne heb gael clyweliad, hyd yn oed? A pha fath o ddyn oedd y tu l ir llais?

Ceir yr atebion i gyd, a llawer mwy, yn y cofiant difyr a dadlennol hwn. Mae Hywel Gwynfryn wedi archwilio casgliad llythyron David Lloyd, ynghyd sgwrsion helaeth Don Lloyd, nai David, er mwyn cyflwyno cipolwg unigryw i ni ar y tenor o fri a gipiodd galonnau Cymru i wedd olygus ai lais cyfareddol.

Mae yma hefyd doreth o luniau sydd heb eu gweld yn gyhoeddus or blaen.
Rhoddodd Bethan Gwanas o Dolgellau i'r teitl yma ac ysgrifennodd:
"Cofiant diddorol a threiddgar. Gwerth ei ddarllen, hyd yn oed i rywun fel fi na chlywodd o'n canu'n fyw erioed. Portread o rywun dawn arbennig na lwyddodd erioed i ymdopi bywyd ar bedestal. "
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Byw dan y Bwa
Charles Arch
£6.95
 
Prynwch
Carwyn - yn Erbyn y Gwynt
Alun Gibbard
£14.99
 
Prynwch
Evacuee - From the ...
Barbara Davies
£7.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Awen Drwy'r Storïau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Wild Places Uk - The Top ...
Iolo Williams
£19.99
 
Prynwch
Plant
Pwy sy Wedi Llyncu Llŷr?
Sarah Roberts
£5.99
 
Prynwch