| Bibliographical Information |
| Llyfr Ryseitiau, Y - Gwaed y TylwythNicholas Daniels
View more titles by 'Nicholas Daniels' |
ISBN: 9781855967762 (1855967766)Publication Date July 2007
Publisher: Dref Wen, CaerdyddIllustrated by Pat MoffetSuitable for age 9-11.
Format: Paperback, 198x130 mm, 128 pages
Language: Welsh
Available Our Price:
£5.99
| |
Customers' average rating:   
|
|
Gwiddan's life changes when she inherits a strange book on her thirteenth birthday. But why was this book in her grandmother's possession? Why is there a missing page? Gwiddan must find the answers; her unconventional family's future hangs in the balance. Winner of the Welsh Tir na n-Og Award 2008. Play AudioMae bywyd yn newid i Gwiddan wedi iddi etifeddu llyfr hynod ar ei phen-blwydd yn dair ar ddeg oed. Ond pam fod llyfr fel hwn ym meddiant ei mam-gu? Beth yw pwysigrwydd y dudalen goll? A phwy yw Cynulliad y Cenhadon? Rhaid i Gwiddan ddod o hyd i'r atebion ar frys. Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2008. Clip Sain
|
|
Mae clawr y nofel hon i blant 1014 oed yn apelgar ar yr olwg gyntaf. Gall y darllenydd weld yn syth fod yma stori ag iddi naws hudol, cymeriad anghyffredin a hen lyfr arbennig iawn.
Stori am Gwiddan, merch sy’n cael ei phen blwydd yn 13 oed, sydd yma. Ar ddiwrnod ei phen blwydd mae ei thad yn rhoi pâr o dreinyrs newydd iddi ac anrheg oddi wrth ei mam a fu farw pan oedd hi’n ferch fach sef y Llyfr Ryseitiau.
Mae’r stori’n gymysgfa fyrlymus o hanes merch ysgol gyffredin a byd chwedloniaeth Llyn y Fan Fach a’r hud sy’n gysylltiedig â’r swynion yn y Llyfr Ryseitiau. Mae ’na berthynas sy’n datblygu’n fwy na ffrindiau rhwng Gwiddan, Rhodri ac Olwen, bwli Blwyddyn 8, ac mae’r cyfan yn troi o gwmpas un dudalen goll y Llyfr. Mae gan Mrs Smith, y brifathrawes, rhyw gyfrinach, ac mae’r diweddglo’n frwydr erchyll rhwng y Cenhadon a’r Tri Dewisol.
Mae’n nofel gyffrous a gwahanol. Fel y dywed ‘ . . . y llais tyner, fel awel ysgafn . . . “Hawddamor, fy mhlant! Mae rhan gyntaf y broffwydoliaeth wedi’i chyflawni.”’ Oes yna ddilyniant, tybed? Gobeithio, yn wir!
Meinir Edwards
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council
|
|
|
|
Last Updated on 15 June 2009
|
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
|
|
"Stori ddifyr! Dilyniant, plis!"
|
|
|