|
The autobiography of the popular singer Heather Jones. She shares her experiences as a child, as a young mother when she became pregnant at the age of 20, and of her battle against depression. Through thick and thin, Heather Jones has remained one of Wales's prominent figures in the musical scene.
Hunangofiant y gantores boblogaidd Heather Jones. Mae'n dadlennu hanes ei phlentyndod, hanes ei phrofiadau fel mam ifanc a ddaeth yn feichiog yn 20 oed a hanes ei brwydr yn erbyn iselder wrth iddi ildio'i breuddwydion am gyfnod. Trwy'r uchafbwyntiau a'r iselfannau, mae Heather Jones wedi parhau'n un o enwau mwyaf cyfarwydd byd cerddorol Cymru.
|
|
I'r rhai sydd yn eu deugeiniau hwyr, mae hud i enw Heather Jones. Mae clywed yr enw bron â bod fel cerdded i mewn i beiriant amser sy'n cludo dyn yn ôl i'w ieuenctid pan oedd bywyd yn fwy diniwed a sinigiaeth heb ei darganfod.
Mae hunangofiant Heather Jones yn bendant yn cynnig profiad tebyg i'r darllenydd. Mae'r llyfr yn gronicl o'i hymgais am hapusrwydd personol a llwyddiant cyhoeddus, ac mae'r daith honno yn un ddifyr i'w dilyn. Cychwynna gyda diniweidrwydd merch ifanc yng Nghaerdydd yn ceisio dal gafael ar ei hetifeddiaeth Gymreig gerfydd blaenau ei bysedd wrth iddi fynd trwy'r system addysg mae ei chysylltiad ag Urdd Gobaith Cymru, a Gwersyll Glan-llyn yn arbennig, yn cadarnhau'r berthynas honno. Wedyn, mae'n cael ei hun yng nghanol berw chwyldro’r byd canu poblogaidd yn y 1960au a'r 1970au cynnar. Gyda Geraint Jarman a Meic Stevens, fe ffurfiodd y grŵp rhyfeddol, Y Bara Menyn. Wedi i hwnnw ddod i ben, mae'n datblygu ei gyrfa lwyddiannus ei hun, er bod llawer o droeon yn yr yrfa honno, ac ar bob tro mae'n ymddangos fod rhyw seléb neu'i gilydd yn cuddio!
Ond peidied neb â thybio taw llyfr yn llawn straeon arwynebol a selebaidd yw hwn. Wedi'i blethu trwy'r difyrrwch mae 'na ddwyster, a thu ôl i'r bywyd cyhoeddus mae Heather Jones wedi byw bywyd preifat yn gyfochrog â'i gyrfa gyhoeddus sydd wedi gweld cymaint, os nad mwy, o droeon yn yr yrfa. Ceir ei hanes yn syrthio mewn cariad ac yn syrthio allan o gariad, ac yn cael ei hun yn fam ifanc yn ceisio magu ei phlentyn, talu'r biliau a chynnal priodas. Yn nes ymlaen yn ei bywyd mae’n cael ei hun yn fam hŷn ac yn gorfod ymdopi gydag ymateb ei theulu i hynny. Mae hi'n ymladd yn erbyn iselder gyda phenderfyniad ac o'r herwydd mae ei hanes yn un ag iddo elfen o arwriaeth. Bu'n rhaid iddi hefyd fod yn gefn i eraill teulu agos a chyfeillion da wrth iddynt hwy ymdopi â salwch, ac mae'n amlwg fod ei phrofiad ei hun wedi rhoi iddi gonsýrn am eraill yn hytrach na magu hunandosturi diffrwyth.
Ysgrifennwyd y gyfrol hon gyda chymorth Caron Wyn Edwards ac mae hi wedi gwneud gwaith ardderchog o droi'r atgofion yn llyfr gwerth ei ddarllen, ond, er ein bod yn clywed llais Heather Jones yn eglur, mae rhywun yn teimlo weithiau taw ei geiriau hi a glywir. Ond dyw hynny'n tynnu dim oddi ar y stori sydd gan Heather Jones i'w hadrodd, a dwi'n falch iawn ei bod hi wedi bod mor barod i rannu'r stori honno yn wên ac yn ddagrau. Dyma gân sydd yn werth gwrando arni.
Lyn Lewis Dafis
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|