Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Dim Eto, Jac!Steven P. Jones View more titles by 'Steven P. Jones'
ISBN: 9781855967854 (1855967855)Publication Date November 2007
Publisher: Dref Wen, Cardiff
Illustrated by Lisa FoxSuitable for age 0-7 or Key Stage 1 Format: Paperback, 249x198 mm, 36 pages Language: Welsh Available Our Price: £4.99 
Dim Eto, Jac!
Customers' average rating:
 
Write a Customer Review
 
Read Reviews...
A story about Jac Davies - the little boy who is crazy about football. Jac likes to play football but, unfortunately, the ball lands quite often next door in Mr Parri's flower beds!

Stori arall am Jac Davies, y bachgen bach sy'n gwirioni ar bêl-droed. Mae Jac yn hoffi chwarae pêl-droed ond, yn anffodus, mae'r bêl yn glanio'n aml yng ngwely blodau Mr Parri drws nesaf!
Dyma stori hyfryd a chwbl gredadwy am Jac, bachgen bach sy’n hoffi chwarae pêl-droed byth a hefyd. Ond fel pob pêl-droediwr brwd o'r un oedran, tydi Jac a’i droed gicio ddim bob amser yn llwyddo i anelu’r bêl yn gywir! Mae’r bêl yn glanio’n amlach nag y dylai yng ngardd Mr Parri drws nesaf – gardd sy’n llawn o flodau lliwgar, hardd.

Ac O, dyna i chi drafferth, wrth i Jac geisio cael ei hoff bêl yn ôl heb i Mr Parri ei weld! Meddylia ef am amryw o ffyrdd, gan gynnwys cael cymorth gan ei gi anwes, Sgwbi, ond methiant yw’r cyfan. Yn wir, mae’n prysur fynd i ddyfroedd dyfnion. Does dim amdani ond mentro i nôl y bêl ei hun. Ar ei bedwar, gwthiodd ei ffordd drwy’r bwlch yn y gwrych ac i gyfeiriad ei bêl, ond beth ddaeth i’w gyfarfod ond pâr o esgidiau mawr!

Rhaid i chi ddarllen y stori i gael gwybod beth ddigwyddodd; ond efallai fod Mrs Parri yn ‘deall’ bechgyn bach yn well na Mr Parri!

Marian Roberts

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
Mair from Aberystwyth rated this title and wrote:
"Mae Jac wrth ei fodd yn chwarae pêl-droed ac mae'n bêl-droediwr penigamp. Yr unig broblem gyda hyn yw fod y bêl yn hoffi glanio yn yr ardd drws nesaf, sef gardd Mr a Mrs Parri. Un diwrnod, mae Jac allan yn chwarae gyda’i bêl ac mae’n mynd dros y ffens i mewn i ardd Mr a Mrs Parri. Mae Jac yn ymdrechu'n galed iawn i gael y bêl 'nôl, ond tybed a gaiff o'r bêl 'nôl yn y diwedd? Neu a yw Mr Parri am gadw’r bêl? Darllenwch y stori er mwyn dod o hyd i'r ateb . . . Mae’r stori wedi'i chyflwyno mewn arddull ddarllenadwy gyda geirfa syml a chlir. Mae’r lluniau'n rhai bywiog, clir gyda dawn y darlunydd i’w weld yn glir. Mae’r llyfr yn addas i blant o dan saith oed am ei fod yn dal eu dychymyg a hefyd mae'n stori fydd yn cadw diddordeb y plant. "


Delyth Humphreys from Caergybi rated this title and wrote:
"Dyma un o lyfrau Steven P. Jones sydd wedi'i gyflwyno ar ffurf stori. Mae'r stori'n seiliedig ar fachgen cyffredin o'r enw Jac sydd wedi gwirioni ar bêl-droed. Yn anffodus mae'r bêl yn mynnu glanio ar flodau prydferth Mr Parri drws nesaf. Gallwch ddychmygu nad yw Mr Parri yn hapus iawn!! Chwarae teg i Jac, mae'n ymdrechu'n galed iawn i sicrhau ei fod yn cael ei hoff bêl yn ol. Mae'n defnyddio rhaff, ei anifail anwes a thegan symudol. Drwy sôn am hyn, caiff y darllenydd flas ar ba mor benderfynol yw Jac. Nid yw Jac yn ildio'n hawdd iawn! Gan ei bod hi'n amhosib i Jac geisio cael ei bêl yn ôl heb i Mr Parri ei weld, mae'n mentro mynd i'w nôl ei hun. Tybed a fydd Jac yn llwyddiannus? Llyfr clawr meddal sydd yn llawn o ddarluniau lliwgar a deniadol i blant ifanc yw Dim eto, Jac!. Efallai bydd rhai plant yn uniaethu â Jac, gan fod pêl-droed yn rhan o fywydau llawer iawn ohonynt. Mae'r llyfr wedi'i anelu at blant 0-7 oed a byddai'n addas i'w ddarllen yn y dosbarth neu yn y cartref."
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Sam Tân: Eira Mawr
 
£5.99
 
Buy Now
Nain/Mam-gu
Amrywiol/Various
£5.95
Bwydydd Ych-y-Pych
Roald Dahl
£4.95
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now