Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Stafell Ddirgel, YMarion Eames View more titles by 'Marion Eames'
ISBN: 9781859021835 (1859021832)Publication Date February 2008
Publisher: Gwasg Gomer, Llandysul
Format: Paperback, 175x119 mm, 264 pages Language: Welsh Reprinting Our Price: £7.99 
Stafell Ddirgel, Y
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
A new edition of a popular novel set in the Dolgellau area depicting the struggles of the Quakers to worship as they wish, and their decision to sail to a new life in America. First published in 1969.

Argraffiad newydd o nofel boblogaidd a gyhoeddwyd gyntaf ym 1969, yn portreadu ymdrechion Crynwyr ardal Dolgellau i addoli yn ôl eu dymuniad, a'u penderfyniad i hwylio i'r Amerig a bywyd newydd.
Lle braf ydi Sesiwn Fawr Dolgellau, ond y llynedd, a’r ŵyl bellach yn denu’r miloedd, roedd y dorf anferthol fel pe bai ychydig bach yn fwy anystywallt nag arfer ac wrth i’r caniau bentyrru ar y sgwâr a’r goryfed ddechrau mynd yn drech, digon hawdd y gellid dychmygu sut y gallai “hwyl ddiniwed y werin” arwain at y math o weithred dreisiol, aflednais sy’n digwydd ar ddechrau’r nofel hon, sef dowcio gwrach dybiedig yn Afon Wnion.

Mae Y Stafell Ddirgel yn adrodd pennod gythryblus yn hanes Meirionnydd yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg pryd yr erlidiwyd aelodau mudiad y Crynwyr mewn ffordd mor atgas a didostur gan yr awdurdodau nes, yn y pen draw, i’r rhan fwyaf ohonynt orfod ymfudo i’r Unol Daleithiau gan adael bwlch cymdeithasol enfawr ar eu holau yn eu sir enedigol. Yng ngeiriau yr hanesydd, R.T.Jenkins, “mor dda i Gymru fuasai eu cyfraniad hwy i’w bywyd hi, pe cawsent gyfle i’w roi.”

Yn Y Stafell Ddirgel llwydda Marion Eames i chwythu anadl i esgyrn sychion yr hanes yma gan greu cymeriadau cig a gwaed credadwy a naratif gafaelgar, cynhaliol. Mae’r gwaith ymchwil hanesyddol drylwyr a’r adnabyddiaeth o fro Dolgellau a chariad yr awdur tuag ati, yn amlwg, ond eto heb fod yn rhy ymwthiol, ac mae’r arddull yn aeddfed braf ac yn hollol ddiymdrech.

Rhaid llongyfarch S4C hefyd am weld potensial y gyfrol i greu addasiad clodwiw, poblogaidd i’r sgrin fach yn ddiweddar. Byddai’n wych o beth pe bai ymddangosiad yr argraffiad smart newydd gan Gomer i gyd-ddigwydd â’r gyfres deledu yn esgor ar gynnydd yng ngwerthiant arferol y nofel.

Fodd bynnag, ddeng mlynedd ar hugain ers ei gyhoeddi am y tro cyntaf, er y gellir nodi llawer iawn o rinweddau amlwg wrth ei ailddarllen, ar sawl gwedd mae yna le i amau mai cyfyng yw apêl uniongyrchol y llyfr hwn erbyn hyn, ac nad yw'n glasur bytholwyrdd y gellir ei ddarllen droeon gan ddod o hyd i haenau newydd o ystyr ac ysbrydoliaeth. Eto, dichon ei fod yn destun gosod amlbwrpas defnyddiol yn yr ysgolion uwchradd ac mewn dosbarthiadau dysgwyr.

Er gwaethaf yr amheuaeth a fynegais, rhaid pwysleisio bod y cynnwys, fel sy’n wir am holl nofelau Marion Eames, yn ddiffuant ac yn taro deuddeg drwyddo draw, ac o edrych yn ôl mae’n drueni nad yw amgylchiadau llenora yn y Gymraeg wedi caniatáu i’r awdures fedrus hon fod yn fwy cynhyrchiol.

Martin Davis

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Hedd Wyn (DVD101)
 
£13.26
 
Buy Now
Mwydyn yn yr Afal
Meleri Wyn James
£3.00
 
Buy Now
Cyfres y Cewri: 6. Neb
R.S Thomas
£4.25
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now