Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Hoff Gerddi Cymru
ISBN: 9781859028230 (1859028233)Dyddiad Cyhoeddi Rhagfyr 2017
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Golygwyd gan Bethan Mair Fformat: Clawr Meddal, 216x141 mm, 158 tudalen Iaith: Cymraeg Adargraffu Ein Pris: £6.99   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Blodeugerdd gyfoethog o hoff gerddi pobl Cymru yn cynnwys cant o gerddi amrywiol adnabyddus, yn adlewyrchu dwyster a hiwmor, ac awyrgylch ramantus a heriol barddoniaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif. Adargraffiad. Cyhoeddwyd gyntaf ym Mawrth 2000.

A rich anthology of the favourite poems of the people of Wales comprising one hundred diverse and popular poems, reflecting the intensity and humour, the romantic and challenging mood of 20th century Welsh poetry. Reprint. First published in March 2000.
Cafodd Gwasg Gomer y weledigaeth beth amser yn ôl i gasglu a chyhoeddi barddoniaeth boblogaidd y Cymry. Eisoes ymddangosodd cyfrol Saesneg The Nation’s Favourite Poems yn 1996, ac wedi canfasio caled yn holi’r genedl drwy nifer o gyfryngau dyma’r fersiwn Cymraeg yn cyhoeddi’r canlyniad i ni.

Mae’r hen ffefrynnau yma, wrth reswm, cerddi a ddysgwyd mewn ysgolion drwy gydol y ganrif ddiwethaf, a byddai’r to hŷn yn sicr o gefnogi’r rheini – gwaith Ceiriog, Crwys a Wil Ifan, Cynan, T. H. Parry-Williams, R. Williams Parry, W. J. Gruffydd a T. Gwynn Jones. Oni bu cerddi’r beirdd hyn yn rhan o gynhysgaeth cenedlaethau o werinwyr, a glynasant ar gof gwlad, yn cael eu hadrodd a’u canu lle bynnag yr oedd dau neu dri wedi ymgynnull? Priodol yw eu cofnodi mewn llyfr fel hyn, ac wedi’r cyfan, bu i drwch o boblogaeth heddiw eu cefnogi.

Mae Dewi Emrys a Hooson yma, Gwenallt, Waldo, a B.T. Hopkins gyda’u cerddi enwog ‘Pwllderi’, ‘Seimon Fab Jona’, ‘Rhydcymerau’, ‘Cofio’ a ‘Rhoshelyg’. Efallai y cawn ein synnu at y dewis o ambell gerdd megis ‘Broseliawnd’ (T. Gwynn Jones), ‘Y Tlawd Hwn’ (W. J. Gruffydd), ‘Yr Heniaith’ (Waldo Williams) o’u cymharu â cherddi ystwythach a mwy adnabyddus gan yr un awduron. Nid beirniadaeth yw hyn, dim ond tynnu sylw at ffaith ddiddorol – a gobeithiol hefyd – sef bod yna bobl yng Nghymru sydd yn dal i ddarllen a dehongli barddoniaeth glasurol. Wedi’r cyfan dyma oedd eu dewis hwy.

Awn at feirdd ein cyfnod ni gan awchu am weld beth yw archwaeth plant ysgol ac oedolion am farddoniaeth y dydd. Mae Gerallt Lloyd Owen yma yn sgil ‘Fy Ngwlad’, ‘Etifeddiaeth’ a ‘Cilmeri’, Twm Morys ac ‘Y Gwyddel Du’ a ‘Gwyn’, Steve Eaves ac ‘Y Canol Llonydd Distaw’, Gwyn Thomas a ‘Croesi’r Traeth’ a ‘Drama’r Nadolig’, Geraint Løvgreen ac ‘Y Diwrnod Cyntaf’, Iwan Llwyd a ‘Far Rockaway’, Aled Lewis Evans ac ‘Over the Llestri’ a Grahame Davies a’i ‘DIY’.

Cynhwysir yma un bryddest o’r Eisteddfod Genedlaethol yn ei chyfanrwydd, sef ‘Y Glannau’ gan John Roderick Rees. Gwneir y sylw droeon mai dyma’r bryddest orau a ddaeth o’r Eisteddfod Genedlaethol yn y ganrif ddiwethaf a hawdd gwerthfawrogi’r farn honno. Detholiadau yn unig a geir yma o ‘Ymadawiad Arthur’ (T. Gwynn Jones), ‘Y Cynhaeaf’ (Dic Jones), a’r ‘Ffenestri’ (W. J. Gruffydd, Elerydd).

Wrth gwrs mae gennym oll ein hoff gerdd/cerddi. Ar dro dim ond adnabod neu gofio llinell neu gwpled a wnawn megis 'Draw dros y don mae bro dirion . . .', 'Mae hiraeth yn y môr . . .', neu 'Mieri lle bu mawredd', ond heb wybod rhagor, neu pwy yw’r awdur neu beth yw’r ffynhonnell. Bellach dyma gyfle i weld a chadw’r cerddi gyda’i gilydd mewn un llyfr taclus.

Yn bersonol mae’n dda gennyf weld T. Glynne Davies wedi cael ei ddewis gyda’i gerdd ‘Brawddegau wrth gofio Hiraethog’. Hefyd Alun Llywelyn-Williams, awdur un o gerddi mwyaf ysgytwol y Gymraeg (yn fy marn i) sef ‘Ar Ymweliad’ ac fe’i dewiswyd i’r detholiad hwn.

Mae yma gant o gerddi, adnabyddus ac annwyl i’r sawl a’u dewisodd. I’r trwch ohonom mae yma gerddi newydd nad ydynt eto wedi taro tant yn y cof, cerddi gwastad eu safon, modern, ond heb y llinell gofiadwy honno a fydd yn glynu yn y cof tra pery’r iaith. Ac eto clywaf rywrai yn canu 'Dim ond ffŵl sydd yn gofyn/ Pam fod eira’n wyn' neu’n sibrwd 'Wylit, wylit, Lywelyn' . . .

Vernon Jones

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Gwybodaeth Bellach:
Mae copi braille a phrint bras o'r llyfr yma ar gael i'w fenthyg gan RNIB Cymru. Cysylltwch Gwasanaeth Gwybodaeth Hygyrch RNIB Cymru ar 029 2045 0440 neu gwybodaethhygyrchcymru@rnib.org.uk am fwy o wybodaeth.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cerddi Jim Parc Nest
 
£11.99
 
Prynwch
Scrabble yn Gymraeg
 
£28.99
 
Prynwch
50 o Ganeuon i'r Dysgwyr
Alun Ifans
£1.00
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Nadolig Pwy a Ŵyr 2
Amrywiol/Various
£8.00
 
Prynwch
Saesneg
Robin Book, The
Jane Russ
£9.99
 
Prynwch
Plant
Gwyn y Carw Cloff
Tudur Dylan Jones
£6.99
 
Prynwch