Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Patshyn Glas
Wyn Owens
ISBN: 9781900437738 (1900437732)Dyddiad Cyhoeddi Gorffennaf 2005
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas, Abertawe
Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 104 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Ein Pris: £6.00   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Dyma gasgliad cyntaf o farddoniaeth gan Wyn Owens, yr arlunydd a'r bardd o Sir Benfro. Cerddi yn y mesurau caeth yn bennaf.

Wyn Owens's first collection of poems, mainly in strict metre; he is an artist and poet from Pembrokeshire.
Dywedir fod ansawdd y golau yn gwneud Sir Benfro yn baradwys i arlunwyr. Estroniaid ywr mwyafrif ohonynt, wedi eu denu yno gan burdeb y lliwiau syn cael eu creu wrth i fryniaur Preseli ymestyn allan ir mr mawr. Gan hardded y tirlun, gall lluniaur bobl ddŵad yn aml blesior llygad arwynebol. Ond dim ond cynfas y brodor all ddarlunio tir y cof; dim ond gwladwr y bryniau all liwio ysbryd Twm Carnabwth, ac mae angen deigryn yn y paent i ddal tranc y Gymraeg ym Mynachlog-ddu. Rhaid adnabod Waldo cyn sylweddoli mawredd Talmynydd, ar tangnefeddus o galon yn unig a all fanteision llawn ar y mr goleuni. Un or artistiaid breintiedig hynny yw Wyn Owens, ac mae ganddo ddau gyfrwng, ei gynfas ai gerddi. Ar un ywr weledigaeth yn y ddwy gelfyddyd.

Yr un ywr artist ar bardd wrth iddo beintio a barddoni bror Preseli mewn heulwen a chwmwl, mewn llawenydd a thristwch, mewn digalondid ac mewn gobaith, ac maer hwyliau mor gyfnewidiol thywydd y Gorllewin. Oriel o gerddi sydd ganddo yn Y Patshyn Glas a phob darlun unigol yn ychwanegu at batrwm amryliw ei Sir Benfro annwyl ef. Fel pob gwir artist, gall amrywio ei arddull hefyd. Weithiau, mae yng nghanol y traddodiad, yn cofion dyner am Robina Ellis-Gruffydd, am Nest ac am ei dad, a hynny yn null yr Hen Feistri. Bryd arall, mynn agor y drws ac ymestyn y ffiniau wrth iddo wau ei deimladau dyfnaf i mewn i dirlun ei febyd yn hudolus o haniaethol. Ond ta beth for cyfrwng, fel artist ac fel bardd, peintio a chanu or galon a wna Wyn Owens. Dyna gyfrinach Y Patshyn Glas.

Idris Reynolds

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth edrych ar y teitl hwn hefyd edrych ar y canlynol:
Glaw Trana
Sonia Edwards
£8.00
 
Prynwch
Nant, Y
Bet Jones
£7.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mudferwi
Rebecca Roberts
£7.99
 
Prynwch
Saesneg
Longest Farewell, The
Nula Suchet
£12.99
 
Prynwch
Plant
Rygbi
Sarah Larter
£9.99
 
Prynwch