Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Byd Go Iawn Un Nos Ola LeuadJ. Elwyn Hughes View more titles by 'J. Elwyn Hughes'
ISBN: 9781900437998 (1900437996)Publication Date July 2008
Publisher: Cyhoeddiadau Barddas, Swansea
Format: Paperback, 250x176 mm, 326 pages Language: Welsh Out of print Our Price: £11.95   
Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
A study of life in Caradog Prichard's popular novel, Un Nos Ola Leuad, portraying the characters of Bethesda and the Ogwen valley. It portrays life and society, buildings and places as they were in Caradog Prichard's days.

Cyfrol sy'n bwrw golwg ar fyd go iawn nofel gyfarwydd Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad, sef cymeriadau Bethesda a Dyffryn Ogwen. Ceir yma daith ddarluniadol o gymdeithas, adeiladau a llefydd fel yr oeddent yn nyddiau Caradog Prichard.
Er bod Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad yn gyfrol gyflawn ynddi’i hun, mae’n deg dweud ei bod hefyd yn chwaer-gyfrol, ac, ar ryw ystyr, hyd yn oed yn ddilyniant i Byd a Bywyd Caradog Prichard a gyhoeddwyd dair blynedd yn ôl. Ychydig o ofod a neilltuwyd i fynd i’r afael â chefndir y nofel yn y fan honno, ac er mai prin y byddai’r darllenydd wedi sylwi ar y ‘diffyg’ mewn cyfrol gynhwysfawr 198 o dudalennau, fe honna’r awdur mai ceisio ‘gwneud iawn am hynny’ a wnaeth y tro hwn.

Yma, fe ganolbwyntir yn gyfan gwbl ar Un Nos Ola Leuad – ei lleoliadau, ei chymeriadau a’i digwyddiadau, a chynseiliau’r rheini yn y ‘byd go iawn’. Fel y dywed J. Elwyn Hughes yn ei Ragarweiniad:

‘Yn Nyffryn Ogwen ei blentyndod y cafodd Caradog ei ysbrydoliaeth ac y mae rhannau helaeth o’r gwaith wedi ei seilio ar ddigwyddiadau, pobl a llefydd gwirioneddol yn y fro honno, a hynny er gwaethaf yr honiad yn ‘Nodyn yr Awdur’ ar ddechrau’r nofel: “Er bod brith-gofion bore oes yn sail i ambell ddigwyddiad yma, ystumiwyd cymaint gan amser a dychymyg fel nad oes unrhyw gysylltiad uniongyrchol ag unrhyw berson yn yr un o’r cymeriadau, ac y mae ‘eu dydd yn gelwydd i gyd’”’.

Eir ati, yn gwbl systematig, i gyfosod, yn gyntaf ‘Lefydd ac Adeiladau’, yna ‘Bobl a Chymeriadau’ ac yna ddigwyddiadau penodol â’u cymheiriaid hanesyddol. Llwyddwyd i gywain casgliad rhyfeddol o ddarluniau a ffotograffau i gyd-fynd â’r cyfan – rhai wedi ymddangos o’r blaen yn y gyfrol flaenorol, ond y rhan fwyaf o ddigon yn gwbl ‘newydd’.

Mae trwch y gyfrol yn canolbwyntio ar y cymeriadau, a dyma lle y mae hyd a lled ymchwil J. Elwyn Hughes yn dod i’r amlwg, ynghyd â’i adnabyddiaeth o bobl ei ardal. Cyfeiriaf yn benodol at ‘Now Gwas Gorlan, Robin Gwas Bach Gorlan a Now Bach Glo’, tri chymeriad sy’n ‘ymgorffori elfennau’ o gymeriad Wil Rîtsh (y cynhwyswyd rhai o’i ffraethebau yn y gyfrol Glywsoch Chi Hon? gan Fudiad Adfer yn 1978, ond na chofnodwyd hanes ei fywyd mor gyflawn cyn hyn), a’r bennod honno ar ‘Mister Vinsent Bank a’i Wraig a’u Hogyn Bach, Cyril’, y mae hiwmor yn byrlymu drwyddi. Cefais flas arbennig ar y rhain, ac, mewn ffordd wahanol, ar y bennod ar ‘Defi Difas Snowdon View’, lle y cynhwysir dau lythyr yn llaw T. Rowland Hughes yn holi’r gŵr a fu’n gynsail i Defi Difas, sef David D. Evans, am gefndir y Streic Fawr wrth iddo baratoi i ysgrifennu Chwalfa. Dyma gymeriadau y bu’n golled enfawr i’m cenhedlaeth i beidio â chael eu hadnabod, a dyma gymwynas fawr J. Elwyn Hughes yn y gyfrol hon. Oherwydd y mae’n fwy na chyfeirlyfr i’w gael wrth eich penelin wrth i chi fodio drwy Un Nos Ola Leuad; mae’n gofnod tu hwnt o werthfawr o hanes cymdeithasol, ac yn diogelu straeon am bobl y gellid yn hawdd fod wedi eu hanghofio cyn pen cenhedlaeth eto.

Erbyn i ni droi i’r drydedd adran, cawn mai dim ond un ‘digwyddiad’ sydd yma, mewn gwirionedd, sef hanes y gêm bêl-droed gythryblus rhwng yr Holyhead Railway Institute Reserves a’r Bethesda Comrades – neu’r Cybi Wanderers a ‘Celts ni’, fel y’u gelwir yn y nofel. Daeth achlysuron cymdeithasol eraill, fel yr orymdaith i anrhydeddu’r milwr a enillodd fedal y D.C.M., dadorchuddio’r gofgolofn ar derfyn y rhyfel, ac ymweliad Côr y Sowth, eisoes dan y chwyddwydr wrth edrych ar leoliadau a chymeriadau, a’r ffaith honno’n tystio i anawsterau cynllunio astudiaeth o’r fath, lle y mae ailadrodd a chroesgyfeirio bron yn anorfod. Ond hanes yr ornest bêl-droed yw pinacl y gyfrol, ac roedd yn werth neilltuo lle i’w thrafod ar ei phen ei hun.

A hithau’n ymestyn dros 326 o dudalennau, byddai hon wedi gwneud cyfrol clawr caled. Ac, eto, cyfrol boblogaidd, werthadwy, y bwriadwyd iddi fod. Ar sail tystiolaeth y lansiad yn Neuadd Ogwen, Bethesda, mae’n bendant wedi llwyddo yn hynny o beth.

Gwen Gruffudd

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Further Information:
Ym mis Mai 2005, cyhoeddodd J. Elwyn Hughes Byd a Bywyd Caradog Prichard, cyfrol a gafodd groeso mor frwd nes gorfod ei hailargraffu o fewn ychydig wythnosau. Yn y gyfrol honno, cyfeiriwyd at nofel fawr Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad, gan nodi mai yn Nyffryn Ogwen ei blentyndod y cafodd Caradog ei ysbrydoliaeth a bod rhannau helaeth o'r gwaith wedi eu seilio ar ddigwyddiadau, pobl a llefydd gwirioneddol a hynny er gwaethaf yr honiad a wna'r awdur yn ei 'Nodyn' ar ddechrau'r nofel:

'Er bod brith-gofion bore oes yn sail i ambell ddigwyddiad yma, ystumiwyd cymaint gan amser a dychymyg fel nad oes unrhyw gysylltiad uniongyrchol ag unrhyw berson yn yr un o'r cymeriadau, ac y mae 'eu dydd yn gelwydd i gyd'...

Fe wyddom erbyn hyn, wrth gwrs, nad oedd 'eu dydd yn gelwydd i gyd'. Darllenwch y gyfrol hon i gael gwybod i ba raddau y seiliwyd rhai o'r cymeriadau a'r llefydd yn y nofel ar bobl a mannau a go iawn yn Nyffryn Ogwen. Eir â chi ar daith ddarluniadol drwy Fethesda i weld siopau, adeiladau a llefydd fel yr oeddent yn nyddiau cynnar Caradog yn ei ardal enedigol a chewch weld lluniau rhai o'r cymeriadau yn union fel yr adwaenai Caradog Prichard hwy, ynghyd â hanes difyr a diddorol sawl un ohonynt.

Fel Byd a Bywyd Caradog Prichard, mae Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad yr un mor ddarllenadwy a difyr. Dyma gyfrol arbennig o ddadlennol a fydd o ddiddordeb i Gymry Cymraeg ymhobman ac o gymorth neilltuol i ddisgyblion a myfyrwyr wrth iddynt astudio Un Nos Ola Leuad ar gyfer eu gwahanol arholiadau.
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Guide to Welsh Literature ...
 
£9.99
 
Buy Now
Gwyddoniadur Cymru yr ...
 
£55.00
 
Buy Now
Meddwl a'r Dychymyg ...
Sioned Puw Rowlands
£9.99
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now