Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Hanner CantIwan Llwyd View more titles by 'Iwan Llwyd'
ISBN: 9781904837237 (1904837239)Publication Date November 2007
Publisher: Gwasg Taf, Holyhead
Illustrated by Marian DelythFormat: Paperback, 210x148 mm, 104 pages Language: Welsh Available Our Price: £9.95 
Hanner Cant
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
A collection of poems by Iwan Llwyd, many appearing in print for the very first time. The book was designed by Marian Delyth after close study of the poems, and includes black-and-white photographs throughout.

Casgliad o gerddi gan Iwan Llwyd, 'bardd ei genhedlaeth', y mae'r mwyafrif ohonynt yn gweld golau dydd am y tro cyntaf. Dyluniwyd y llyfr gan Marian Delyth ar ôl iddi astudio'r cerddi yn fanwl, a cheir ffotograffau pwrpasol du-a-gwyn drwyddo.
Dwy gyfrol o farddoniaeth sydd ar y rhestr hir i ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni. Cyfrol ddiweddaraf Iwan Llwyd ydy un o’r rheini, ac mae’n dda gen i ddweud fod y beirniaid yn llygaid eu lle yn yr achos hwn. Anodd cyfeiliorni, mae’n debyg, pan fydd bardd â chystal gafael ar ei grefft i’ch tywys ar eich taith!

Ond nid y farddoniaeth yn unig sy’n denu yn y gyfrol hon, chwaith. Mae’r ffotograffydd Marian Delyth wedi mynd ati i gyfuno’r cerddi â’i lluniau o’i gwaith dylunio trawiadol ei hun. Gan ddyfynnu o’r broliant, mae yma ‘lyfr sy’n gymaint gwledd i’r llygad ag ydyw i’r glust’, gyda’r geiriau a’r ffotograffau’n dod ynghyd i greu un cyfanwaith celfydd a hardd.

Fel yr awgryma’r teitl, deugain a deg o gerddi sydd yma, ac mae’r rheini wedi’u cyhoeddi i gyd-fynd â phen-blwydd y bardd ei hun yn hanner cant. Cerddi’r nawdegau oedd yng nghasgliad diwethaf Iwan Llwyd o farddoniaeth, Be ’Di Blwyddyn Rhwng Ffrindia? Erbyn hyn, mae’n ganrif newydd, a chynnyrch y blynyddoedd wedi’r troad sydd yma o’n blaen – y mwyafrif o’r cerddi heb eu rhyddhau o’r blaen.

Ond mae’r hen themâu yn dal i’w gweld. Mae teithiau Iwan Llwyd eto’n ddylanwad a’r pethau bach yn ysbrydoliaeth fawr. Mae Iwerddon ac America o hyd yn denu, ond mae Sbaen ac arfordir gorllewinol Cymru’n cael cryn sylw hefyd. Ac mae sŵn yr holl lefydd sy’n cael eu henwi ganddo yn dyst i’r hanner delfrydu sydd yma yn eu cylch.

Nid hynny yn unig, chwaith. Mae yma ymdeimlad mai trefn amser sy’n rheoli ond fod ein hôl ni yma o hyd. Mae ‘Cerdded i Abergwyngregyn’, ‘Carreg Cennen’ a ‘Corcaigh’ yn ffefrynnau personol yn hyn o beth. Ac mae yma awgrym rhwng y llinellau ein bod ninnau’n perthyn i’r un drefn, yn gaeth i’n tynged ein hunain. Dyna sy’n gwneud y cerddi’n rhai mor ddwfn: y rhywbeth hwnnw sydd y tu hwnt i’r wyneb.

O achos hynny, mae’n rhaid ymbalfalu am yr ystyr ambell dro. Ond yr hyn y mae’r bardd yn ei wneud ydy defnyddio’i ddawn dweud unigryw – ei iaith bob dydd a’i ddelweddau cyffrous o newydd – i greu awyrgylch a naws sefyllfa. Mae’n rhaid i ninnau wedyn ddefnyddio'n synhwyrau i ddehongli’r darlun sydd wedi’i greu.

Mae amrywiaeth a chyfoeth y themâu yn golygu nad oes modd gwneud cyfiawnder â’r casgliad mewn adolygiad byr fel hwn. Y cyfoeth hwnnw sy’n taro rhywun, ynghyd â sicrwydd crefft y bardd a’i glust am rythm a sŵn. Ychwanegwch gyfraniad Marian Delyth at hynny wedyn, ac mae yma gyfrol arbennig iawn.

Rhys Iorwerth

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Table of Contents:
Cafodd Iwan Llwyd ei alw’n ‘fardd ei genhedlaeth’ am y tro cyntaf ddeng mlynedd yn ôl mewn adolygiad gan Robert Rhys yn Barn ar y gyfrol Dan Ddylanwad. Mae wedi cael ei alw felly droeon oddi ar hynny, a phrin yw’r neb ystyriol a anghytunai â’r gosodiad erbyn heddiw.

Mae Marian Delyth yn enwog fel dylunydd profiadol a dyfeisgar ac fel ffotograffydd eithriadol. Ymdrwythodd yng ngherddi’r casgliad hwn cynmynd ati i hudo o’n blaenau lyfr sy’n gymaint gwledd i’r llygad ag ydyw i’r glust.
Further Information:
Gydag Iwan Llwyd, 'bardd ei genhedlaeth', yn troi'r hanner cant, dyma gyhoeddi cyfrol dan y teitl Hanner Cant, casgliad o gerddi y mae'r mwyafrif ohonynt yn gweld golau dydd am y tro cyntaf. Dyluniwyd y llyfr gan Marian Delyth ac mae ganddi ffotograffau du a gwyn drwyddo. Ymdrwythodd yng ngherddi'r gyfrol cyn llunio llyfr sy'n gymaint gwledd i'r llygad ag ydyw i'r glust.
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Evangelicals in the ...
Roger L. Brown
£13.99
 
Buy Now
Rhoi Cymru'n Gyntaf ...
Richard Wyn Jones
£18.99
 
Buy Now
Random Deaths and Custard
Catrin Dafydd
£7.99
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Alarch Du, Yr
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now