Your basket
Your Basket is Empty
Go to...
Best-selling Books
Links
|
| Bibliographical Information |
| Bwystfilod RheibusRobyn Léwis
View more titles by 'Robyn Léwis' |
ISBN: 9781904845621 (1904845622)Publication Date March 2008
Publisher: Gwasg y Bwthyn, CaernarfonFormat: Paperback, 210x150 mm, 215 pages
Language: Welsh
Available Our Price:
£9.95
| |
| There are no Customer Reviews for this title.
|
|
|
The memoirs of Robyn Llŷn, the former archdruid. Various parts of the autobiography focus on his upbringing, his life's milestones, his venture into politics and contesting the Arfon constituency for Plaid Cymru, and his tenure as archdruid of Wales.
Hunangofiant y cyn-archdderwydd Robyn Llŷn. Ceir hanes ei fagwraeth, cerrig milltir ei fywyd, ei ymwneud â gwleidyddiaeth, ei hanes yn sefyll fel ymgeisydd dros Blaid Cymru yn etholaeth Arfon, a'i gyfnod fel archdderwydd Cymru.
|
|
Hunangofiant y cyn-Archdderwydd o Nefyn yw’r llyfr hwn un a fu’n gyfreithiwr, yn fargyfreithiwr, yn ddirprwy farnwr, yn gofiadur cynorthwyol (yn Llys y Goron, nid yng Ngorsedd y Beirdd), a enillodd ddoethuriaeth am ei draethawd ymchwil ar dermau Cymraeg y gyfraith ac a enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu hefyd yn wleidydd a safodd yn ymgeisydd yn ei dro dros ddwy blaid wahanol, ond a edifarhaodd mewn sachlďain a lludw iddo erioed fod yn aelod o un ohonynt ac na fu ei berthynas â’r llall yn gwbl esmwyth ychwaith.
Does yma ddim sôn am ‘fwystfilod rheibus’ gwirioneddol na delweddol, a rhaid darllen hyd at t. 26 i weld pam mai dyna yw teitl y llyfr. Y mae’r geiriau’n adlewyrchu’r cariad at yr iaith Gymraeg sy’n galluogi’r cyfreithiwr amlwg hwn i ddweud ar ei ben nad yw’n credu mewn cyfraith a threfn (t. 148) ac a’i hysbrydolodd gydol ei yrfa yn ei waith proffesiynol a llenyddol a gwleidyddol. ‘Yn y bôn,’ meddai, ‘cenedlaetholwr iaith a diwylliant oeddwn ac wyf hyd heddiw’ (t. 132).
Rhoes y math hwn o genedlaetholdeb ryw wrthryfel rhyfedd yn ei enaid, a barodd i un adolygydd amlwg ddisgrifio cyfnod ei archdderwyddiaeth fel cyfnod o ‘hurtrwydd ysbrydoledig’ (t. 199), ac a arweiniodd at sawl datganiad rhwng difrif a chwarae, megis yr alwad am ddychwelyd meini Côr y Cewri i Sir Benfro (t. 199), yr awgrym mai’r rheswm dros ddyrchafu Rowan Williams yn Archesgob Caer-gaint oedd bod y Cymundeb Anglicanaidd byd-eang yn bwriadu symud ei bencadlys o Gaer-gaint i Gasnewydd (t. 200) a’r llythyr mewn Saesneg ffonetig a gyhoeddwyd yn y Sunday Telegraph (t. 204). Codi gwrychyn Saeson oedd bwriad yr holl bethau hyn, yn y gobaith hefyd o godi eu hymwybyddiaeth o’u cymdogion yng Nghymru.
Llwyddodd yr awdur i godi gwrychyn eraill hefyd. Dyma i chwi gyfreithiwr a yrrodd feic drwy siop Woolworth, Aberystwyth a haid o helgwn ar ei ôl (t. 65), ac a ddirwywyd gan Lys Ynadon y dref am ddwyn bws (t. 76). A gwleidydd a gythruddodd griw o Americanwyr ar daith i Estonia drwy sarhau George Bush, ‘eu Harlywydd medrus, duwiol ac athrylithgar’ (t. 201). Mae’r llyfr yn llawn o straeon difyr fel hyn. Ac o ffraethinebau lawer. Darllenwch o i gael gwybod pam y gofynnodd yr awdur i ryw Americanes, ‘pa bryd, ac am ba hyd y bu Jeanne d’Arc yn Philadelphia?’ (t. 176) a pham y gofynnodd i awdurdodau sianelau teledu gorllewin Lloegr, ‘pa fath Saesneg yw Vorsprung durch Technik?’ (t. 200). Ar t. 160 mi gewch hanes yr hangover a barodd am ddeng niwrnod, ac ar t. 192 fe ddysgwch sut y mae peth o elw gornestau tennis Wimbledon yn cyllido gweithgareddau Cyfeillion Llŷn.
Nid yw hyn oll ond codi cwr y llen megis ar storfa ddifyr odiaeth o atgofion gan un a gyfrannodd yn fawr at sawl agwedd ar fywyd Cymru ac a gafodd hwyl yn gwneud hynny.
Gwynn ap Gwilym
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Author Biography: O’i ddyddiau cynnar yn Nefyn i’w gyfnod fel Archdderwydd Cymru, y Prif Lenor cyntaf i ddal y swydd, mae’r hunangofiant hwn yn gyfrol onest o fywyd yr awdur rhyfeddol hwn. Cawn yma hanes ddifyr ac onest iawn, gyda’r awdur yn siarad, fel arfer, yn ddi-flewyn ar dafod ar bynciau sy’n agos i’w galon fel yr iaith Gymraeg, y teulu Brenhinol, Gwleidyddiaeth ac Eisteddfota. Yn un sydd wedi ysgrifennu nifer o lyfrau eisoes ac sy’n adnabyddus am ei lythyru cyson â’r wasg, dyma’r tro cyntaf i Robyn Léwis gofnodi ei fywyd lliwgar rhwng dau glawr. Further Information: From his early days in Nefyn to his time as Wales’s Archdruid (the only holder of he Prose Medal to hold the title), this autobiography is an honest account by a true original. In the book Robyn Léwis discusses many of the of subjects close and not so close to his heart, from the Welsh language to the Royal Family, politics to the Eisteddfod. A well-known author of many books and a frequent contributor to the letters page of several newspapers, this is the first time for Robyn Léwis to chronicle his colourful and varied life in a single tome. |
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
|
|
There are no Customer Reviews so far for this title.
|
|
|
|
More Titles
|
People who looked at this title also looked at the following:
|
Book of the Month
|