Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Cenwch yn Llafar - Detholiad Owain Llyr Evans o Lyfr y Salmau (CD)
ISBN: 9781905671021 (1905671024)Publication Date December 2007
Publisher: Tympan, Cardiff
Edited by Owain Llyr Evans Format: CD Language: Welsh Available Our Price: £13.99 
Cenwch yn Llafar - Detholiad Owain Llyr Evans o Lyfr y Salmau (CD)
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
A presentation of 66 of the Psalms, read by people from all over Wales. The readings come from the old Bishops' Bible and the New Welsh Bible.

Cyflwyniadau o 66 o Salmau gan ddarllenwyr o bob cwr o Gymru. Daw'r darlleniadau o Feibl yr Esgobion a'r Beibl Cymraeg Newydd.
Tybed ai Llyfr y Salmau yw llyfr mwyaf cyfarwydd y Beibl i’r mwyafrif o Gristnogion – ac efallai i eraill hefyd? Ar wahân i Salm 23, y mae mwy o gyfieithiadau ac addasiadau ohoni i’r Gymraeg (fel i’r Saesneg) na’r un salm arall, mae pawb fel petaent yn gallu dyfynnu adnod neu ddwy o’r cerddi hyn, a tho hŷn o addolwyr, beth bynnag am rai iau, yn gwybod ar eu cof ambell salm gyfan megis y gyntaf, yr wythfed neu’r ganfed, a darnau helaeth o rai eraill hwythau’n glynu yn y cof. Wrth gwrs, mae’r casgliad cyfan o gerddi’n llawer ehangach na hynny ac yn rhychwantu holl brofiadau’r bywyd crefyddol – mawl, diolchgarwch, llawenydd, ymbil, cysur, cynhaliaeth, amheuaeth, cwestiynu, dadlau, dicter, edliw, ffyrnigo.

Cerddi hynod o bersonol yw llawer ohonynt, yng nghymysgwch teimladol ambell un o’r beirdd, ac y maent i’w deall yn bersonol hefyd; ond salmau’r gymdeithas o addolwyr yw llawer o rai eraill a phrin fod yr un o lyfrau’r Beibl â’r fath ymwybod â hyfrydwch addoli yn y gynulleidfa. Mae’r eglwys Gristnogol, fel addoli’r synagog (a’r Deml cyn hynny), erioed wedi mynnu fod i’r salmau le yn y gwasanaethau. Wn i ddim i ba raddau y mae hynny’n wir erbyn hyn am oedfaon eglwysi anghydffurfiol. Yn sicr, ar wahân i ychydig o eithriadau gwiw, mae canu salmau wedi darfod ynddynt, ac er mai ‘Cenwch yn Llafar’ yw teitl y CD hwn, darllen salmau a wneir arno.

Darllen, sylwer, nid adrodd (neu ‘lefaru’). Y mae’r 24 o ddarllenwyr (doniol gweld fod eu henwau’n cael eu rhestru’n ofalus mewn dwy garfan – ordeiniedig a lleyg) yn gwneud eu gwaith yn rhagorol, yn cyflwyno’r salmau’n ystyrlon, yn eglur a diffuant heb arlliw o berfformio na sefyll rhyngddynt eu hunain a’r salm. Y mae yma 33 o salmau ar ddau CD, y naill yn defnyddio fersiynau Beibl 1620 a’r llall rai Beibl Diwygiedig 2004. Profiad diddorol yw gwrando ar y naill fersiwn ac yna’r llall. Y mae fersiynau 1620 yn fwy cyfarwydd i’r rhan fwyaf ohonom a da o beth yw cael ein gorfodi i wrando o’r newydd ar salm. Tebyg hefyd fod fersiynau 2004 yn gyfieithiadau mwy ‘cywir’ mewn mannau, ond cwestiwn gwahanol yw holi pa drosiad sydd fwyaf effeithiol fel cyfrwng llafar i ymateb iddo. Wedi’r cwbl, y mae sawl math o gywirdeb.

Detholiad Owain Llyr Evans yw’r 33 salm. Gellir casglu mai salmau i gynnal pobl sydd ganddo, boent yn addolwyr cyson ai peidio. Nid oes yma ddim dadlau â Duw yn nhraddodiad yr Iddew, na sôn lawer am ddial a dinistrio gelynion. Y nodyn cyson a drewir yw mawl a diolchgarwch, cysur a chynhaliaeth. Salmau hyfryd yw’r rheini sy’n mynegi hiraeth am gael rhannu yn y gymdeithas o addolwyr ac y mae cydblethu ymbil ac ymddiriedaeth ddisgwylgar yn nodwedd mewn llawer salm. Detholiad o salmau cyfarwydd sydd yma, ffefrynnau fel petai, fel sy’n gweddu i gasgliad fel hwn. Llai cyfarwydd yw Salm 132 ond o wrando’n ofalus, mae ganddi hithau ei neges obeithiol i’r oes bresennol hon.

Detholiad deniadol y gellir ei ddefnyddio mewn mwy nag un ffordd i hybu defosiwn yw hwn, boed hynny mewn cynulleidfa, grŵp neu’n bersonol.

Brynley F. Roberts

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Ten of the Most Important ...
Dr John Davies
£9.98
 
Buy Now
Hanes Athroniaeth y ...
 
£50.00
 
Buy Now
Cysgod y Cryman (Cryno-Ddisg)
Islwyn Ffowc Elis
£19.99
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Alarch Du, Yr
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now