Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Cês HanaKaren Levine View more titles by 'Karen Levine'
ISBN: 9781905671038 (1905671032)Publication Date November 2007
Publisher: Tympan, Cardiff
Adapted/Translated by Eigra Lewis Roberts.Format: CD Language: Welsh Available Our Price: £13.99 
Cês Hana
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
An audio adaptation of the story about a suitcase that arrives at the educational centre for the Holocaust in Tokyo. It belonged to an orphan called Hana Brady. Who was Hana? What happened to her? A true story about two Jewish Czech children and about what happened to them when their country was invaded by the Nazis during the Second World War. The narrator is Rhian Morgan.

Addasiad llafar o'r stori ynghylch cês sy'n cyrraedd canolfan addysgol yr Holocost yn Tokyo. Yr oedd yn perthyn i blentyn amddifad o'r enw Hana Brady. Pwy oedd Hana? Beth ddigwyddodd iddi? Stori wir am ddau blentyn Iddewig o Siecoslofacia, a'r hyn ddigwyddodd iddynt pan gafodd eu gwlad ei goresgyn gan y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Rhian Morgan sy'n darllen.
Rhaid cyfaddef, dwi’n hoffi llyfrau – hoffi eu byseddu, hoffi eu harogl hyd yn oed – felly pan ofynnwyd i mi adolygu ‘llyfr llafar’, doeddwn i ddim yn siŵr sut fyddwn i’n mwynhau’r profiad. Ond fe wnes. Mae eistedd yn llonydd a gwrando yn brofiad amheuthun. Ac mae llais Rhian Morgan yn un rhwydd iawn i wrando arno.

Hanes yr Holocost sydd yma, mewn gwirionedd, ond adroddir yr hanes cyfarwydd drwy stori anghyfarwydd Hana Brady, Iddewes ifanc, a anfonwyd yn 11 oed i garchar crynhoi yn Tsiecoslofacia. Hanes personol iawn ydyw, a’r hanes hwnnw’n dod yn fyw iawn i’r gwrandäwr.

Mae cynllun y stori’n gelfydd. Cawn ein cludo o Siapan 2000 i dre Novomesto yn Tsiecoslofacia yn ystod tridegau’r ganrif ddiwethaf, cyn i Hitler orchfygu’r wlad, ac yna i erchyllterau gwersylloedd crynhoi Teresin ac Auschwitz yng nghanol yr Ail Ryfel Byd.

I mi, mae dwy arwres i’r stori: Fumiko Ishioka, cyfarwyddwr Canolfan yr Holocost yn Tokyo, sy’n benderfynol o ganfod mwy am Hana Brady, perchennog y cês sy’n rhan o’i harddangosfa, er mwyn dysgu plant Japan am yr Holocost a gwerth goddefgarwch; a’r llall yw Hana ei hun, wrth gwrs. Mae’n hawdd agosáu at Hana – cydymdeimlwn â hi wrth i’w byd grebachu yn sgil dyfodiad y Natsïaid a’u rhestr rheolau i Novomesto. Rheolau a waharddai Hana rhag mynychu’r ysgol na chwarae gyda’i ffrindiau.

Mae’n stori sy’n chwarae ar deimladau’r gwrandäwr, mae’n amhosib peidio ag ymateb. Gwenais wrth glywed am blentyndod hapus Hana a’i drygioni a’i gorchestion; crynais wrth deimlo’r llygod mawr a’r llau yn rhemp yn y gwersyll crynhoi lle carcharwyd Hana am ddwy flynedd; ffieiddiais at greulondeb y Natsïaid yn gwahanu brawd a chwaer amddifad; llonnais o glywed am benderfyniad yr Iddewon i addysgu eu plant, hyd yn oed yn y canolfannau dieflig; a thristeais gyda Hana yn ei hunigrwydd a’i hiraeth am ei theulu.

Yn anorfod, stori drist yw stori cês Hana Brady, ond mae’n stori gwerth ei hadrodd. Er y tristwch, mae yma eiliadau sy’n codi calon pan gawn gip ar gryfder y natur ddynol.

Mae hwn yn gryno-ddisg fydd yn sicr o help i ddisgyblion ysgol sy’n astudio’r Ail Ryfel Byd – yn eu galluogi i uniaethu â phrofiad miloedd o blant Iddewig a garcharwyd ac a laddwyd. Ond mae yma rywbeth i bawb yn stori Hana Brady. Rwy’n falch i mi eistedd yn llonydd am ddwy awr i wrando arni.

Dana Edwards

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Ffarmwr Ffowc: Su' Mae'i ...
 
£15.31
 
Buy Now
Llyfrau Lloerig: ...
 
£3.75
 
Buy Now
Cyfres Brechdan Inc: ...
Lorens Gwyr
£3.50
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now