|
An audio adaptation of a novel tracing events on a farm in Pen Llŷn in 1912 as a twelve year old girl records the excitement and disappointments of growing up and as long-hidden family secrets are gradually revealed with the return of her father to sea and with the arrival of an authoritative aunt in the family home. This is an abridged version, and Jennifer Vaughan is the narrator.
Addasiad llafar o nofel yn olrhain digwyddiadau ar fferm ym Mhen Llŷn yn 1912 wrth i ferch ddeuddeg oed gofnodi cyffro a siomedigaethau tyfu i fyny ac wrth i gyfrinachau teuluol a fu ynghudd ers blynyddoedd gael eu datgelu'n raddol gyda dychweliad ei thad i'r môr a chyda dyfodiad modryb awdurdodol i'r cartref. Talfyriad ydyw, a Jennifer Vaughan sy'n darllen.
|
|
Cyhoeddwyd Y Gongol Felys yn gyntaf ym mis Mai 2005, ac ymddangosodd ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn yn 2006. Ond nawr mae hi ar gael ar gryno-ddisg, yn cael ei darllen gan Jennifer Vaughan.
Hon yw’r nofel gyntaf i Meinir Pierce Jones ei hysgrifennu ar gyfer oedolion, a gwelir ei phrofiad o ymwneud â byd plant yn amlwg yn ei harddull syml. Daw’r stori o dudalennau ‘copi bwc’ a ysgrifennodd plentyn ieuengaf fferm y Gongol Felys, Edith Morwenna Williams, sy’n gofnod o’r hyn a ddigwyddodd i’w theulu yno adeg y Pasg yn 1912. Edith ei hun sy’n adrodd y stori ddwy flynedd yn ddiweddarach, a hynny ar ei phen blwydd yn bedair ar ddeg oed. Mae ei chyflwyniad i’r hanes yn rhoi awgrym cryf inni ei bod hi wedi'i gadw iddi hi ei hun am yr holl amser hwnnw, ond bod y baich wedi mynd yn ormod iddi ei gario bellach, a’i bod yn adrodd y stori er mwyn cael gollyngdod ohono. Hyd yn oed cyn cyrraedd y bennod gyntaf cyflwynir elfen o ddirgelwch sy’n cydio yn y darllenydd o’r dechrau'n deg, ac yn ei gadw’n effro a disgwylgar o un bennod i’r llall: ‘Ond fi fy hun yw’r unig un a ŵyr bopeth a ddigwyddodd yma yn Y Gongol Felys.’
Gwêl Edith dipyn o fynd a dod i’r Gongol Felys yn ystod hynt a helynt ei stori. Cynrychiola’r amrywiaeth o gymeriadau'r elfen gref o ryddid a chaethiwed sy’n rhedeg trwy’r nofel – mordaith y tad ‘rownd yr Horn’, natur anturus Dorti y forwyn, ymfudiad Tomi i’r Unol Daleithiau, ac awdurdod llym Anti Neta. Mae i’r rhain ganlyniadau sy’n effeithio’n drwm ar Edith, gan araf rwygo’r uned deuluol.
Cynhelir cydbwysedd rhwng golygfeydd ysgafn a hwyliog ar y naill law, a rhai mwy difrifol, dirdynnol ar adegau, ar y llaw arall. Mae’r ymdeimlad o ddirgelwch a’r elfen o ddisgwyl iddo gael ei ddatgelu yn gwau trwy’r cyfan ac yng nghefn meddwl y darllenydd o hyd. Gall hyn darfu ar fwynhad y darllen ar adegau, a hyd yn oed dynnu rhywfaint oddi ar ergyd y nofel pan ddatguddir y dirgelwch a’r cyfrinachau ar y diwedd.
Dyma’r tro cyntaf i mi wrando ar nofel yn cael ei darllen. Doedd clywed llais rhywun arall yn cyfleu’r stori ddim yn effeithio ar fy mwynhad ohoni, ac fe’i cyflwynwyd mewn dull oedd yn hawdd gwrando arno.
Lois Dafydd
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|