Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Sgram!
ISBN: 9781905699261 (1905699263)Publication Date May 2008
Publisher: Atebol/Awen, Cardiff
Edited by Non ap Emlyn Illustrated by Marian DelythSuitable for age 9-11 or Key Stage 1/2 Format: Paperback, 210x210 mm, 112 pages Language: Welsh Reprinting Our Price: £6.99 
Sgram!
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
A collection of Welsh poems with colourful and attractive images. The book includes poems on numerous themes including food, clothes, travel and the weather. An audio CD of all the poems recited comes with the book. Every poem has its own vocabulary box making it accessible for Welsh learners.

Casgliad o gerddi blasus gyda lluniau lliwgar a deniadol. Ceir cerddi ar amryw o themâu gwahanol gan gynnwys bwyd, dillad, teithio a'r tywydd. Fe geir geirfa ar bob tudalen yn ogystal â CD sain o'r holl gerddi yn cael eu hadrodd, sy'n gwneud y casgliad yn addas ar gyfer dysgwyr yn ogystal â siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf.
Dyma gyfrol werth ei phrynu i'r cartref ac i'r ysgol. Cyfuniad o gerddi traddodiadol a chyfoes a geir yma, cerddi sy’n cyffwrdd â phob agwedd: y synhwyrau, chwaraeon, hamdden, teithio, Nadolig, yr amgylchedd a llawer mwy. Sgram go iawn! Mae'r cerddi'n syml ac yn apelgar gan gynnwys gwahanol dafodieithoedd gydag amrywiol fesurau a phatrymau barddonol. Hoffais y parodïau ar yr hwiangerddi, y gwahoddiadau ar ffurf penillion, y limrigau a'r cerddi wedi'u hysgrifennu ar ffurf siapau. Mae'r gyfrol yn gyforiog o syniadau ar sut i ddenu plant at farddoniaeth a hefyd yn eu hannog i lunio ambell bwt o gerdd eu hunain. Syniad da oedd rhoi geirfa mewn bocs lliw ar bob tudalen.

Mae'r amrywiaeth o wahanol luniau ar bob tudalen yn fendigedig. Maent yn llawn manylder di-ben-draw ac yn gyfrwng ardderchog i ennyn sgwrs a thrafodaeth. Roedd ychwanegu'r cryno-ddisg yn syniad da hefyd ac yn adnodd gwerthfawr – mae'r amrywiol leisiau sy'n darllen y cerddi'n hyfryd. Beth am fentro i greu disg rhyngweithiol?

Gaenor Watkins

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
ABC (Dvd091)
 
£10.20
 
Buy Now
Popeth yn Gymraeg (DVD)
 
£9.98
 
Buy Now
Hwyl Drwy'r Flwyddyn (Gêm ...
 
£24.98
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now