Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Find a Bookshop
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Pethe'r Pum Plwy' - Traddodiad Barddol Penllyn
ISBN: 9781906396770 (1906396779)Publication Date November 2014
Publisher: Cyhoeddiadau Barddas, Aberystwyth
Edited by Gruffudd Antur Format: Paperback, 210x147 mm, 176 pages Language: Welsh Available Our Price: £8.95 
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
A collection of essays introducing the wealth of the poetic tradition in the Penllyn area.

Casgliad o ysgrifau sy'n cyflwyno cyfoeth traddodiad barddol Penllyn.
Un o uchafbwyntiaur Babell Ln yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gr oedd teyrnged Gruffudd Antur i Gerallt Lloyd Owen. Pluen arall yn ei het ywr gyfrol hon a olygwyd ganddo cyfrol syn olrhain y traddodiad barddol ym mhum plwy Penllyn.

Bu iddo gasglu nifer o erthyglau a darnau barddoniaeth rhwng dau glawr. Fe gyfrannodd hefyd erthygl sylweddol ei hun am hynt a helynt beirdd yr uchelwyr yn yr ardal, gan olrhain y traddodiad yn l ir chwedl am Lywarch Hen yn ceisio lloches yn Llanfor.

Beryl H. Griffiths sydd wedi bod wrthi'n crynhoi hanes y traddodiad barddol mwy gwerinol yn yr ardal yn y cyfnod rhwng diflaniad beirdd yr uchelwyr ar ugeinfed ganrif, trwy drafod englynion a gwatwargerddi Cwm Cynllwyd.

Ni fyddai unrhyw drafodaeth ar draddodiad llenyddol Penllyn yn gyflawn heb gyfeiriad at O. M. Edwards, a Haf Llewelyn gafodd y gwaith o drafod ei gasgliad ef o hwiangerddi. Maer gyfrol yn cloi gydag ysgrif dreiddgar Hywel Griffiths ar ymateb y beirdd i foddi Tryweryn.

Ysgrifau canolog y gyfrol ywr rhai syn ymwneud r traddodiad barddol yn yr ugeinfed ganrif. Maen gwbl addas mair ysgrif agoriadol ywr un gan Elfyn Pritchard syn sn am fagwraeth Gerallt Lloyd Owen ar dylanwadau arno. Mae marwolaeth ddiweddar y cyn-feuryn yn bwrw ei chysgod tros y gyfrol i gyd.

Wrth drafod blynyddoedd ei fagwraeth yn y Sarnau, cyfeirir at gamp Gerallt yn cipio cadair yr Urdd am y trydydd tro yn 1969. Gwneir y sylw craff hwn. Yn wir, meddir, bun ffigwr cenedlaethol weddill ei oes ... ac ar adegau roedd y gofynion arnon drwm ar disgwyliadaun drymach, yn rhy drwm efallai.

Meuryn y Talwrn radio oedd Gerallt i lawer, wrth gwrs. Llwydda Elwyn Edwards i olrhain gwreiddiaur gyfres honno ir ymrysonau a gynhelid ym Mhenllyn, yn arbennig yn y cyfnod pan oedd Alan Llwyd yn byw yn yr ardal.

Gan Alan Llwyd ei hun fe gawn ysgrif ar brifeirdd Penllyn. Dywed fod tri math ohonynt sef y prifeirdd brodorol, y prifeirdd hirdymhorol ar prifeirdd byrdymhorol (R. Williams Parry yn un ohonynt).

Bwriadaf aros eiliad gydag un or prifeirdd byrdymhorol hyn. Os rhywbeth, maen bwrw ei gysgod tros y gyfrol yn fwy na Thryweryn a Gerallt Lloyd Owen hyd yn oed. Euros Bowen ywr bardd hwn. Heblaw am y sylw a roddir iddo gan Alan Llwyd fe drafodir ei waith hefyd mewn ysgrifau gan Dafydd Elis-Thomas a Geraint Bowen. Mae yna gysylltiad hefyd rhwng ei gerdd 'Arenig' sydd wedi ei chynnwys yn y llyfr ar llun ar y clawr.

Dywed Alan Llwyd mai Gaeaf 1947 ym Mhenllyn wnaeth fardd o Euros Bowen. Yr ardal hon oedd yr ysbrydoliaeth i lawer oi gerddi ac fe enillodd goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith tra oedd yn byw yn y cylch. (Gyda llaw, byddai mn reolaur Eisteddfod Genedlaethol heddiw yn golygu na chi Euros y goron am y cerddi hyn a hynny am eu bod mewn cynghanedd gyflawn.) Byddai ein llenyddiaeth ar ei cholled yn arw pe bair rheol hon mewn bodolaeth yn 1948 ac 1950.

Fem gwefreiddiwyd gan yr amrywiol drafodaethau ar Euros Bowen. Ers ei farwolaeth ni fu cymaint hynny o sn amdano ond fe lwyddwyd yn y gyfrol hon i adfer ei le a hynny'n anrhydeddus yn ein traddodiad llenyddol. Tybed, ar l iddo orffen ei gofiant i Gwenallt, a ellir temtio Alan Llwyd i fynd ir afael ag Euros Bowen? Maen amlwg fod ganddo'r wybodaeth ar weledigaeth i wneud hynny.

Mae un ysgrif arall yn y gyfrol sydd yn dyst i wytnwch y traddodiad barddol ym Mhenllyn. Trafodir yn honno gyfraniad Beirdd y Tyrpeg Ifan Rowlands, R. T. Rowlands ac Ithel Rowlands in bywyd llenyddol, tri pherthynas y mae eu gwaith yr un mor arwyddocaol chyfraniad Teulur Cilie.

Or llun ar y clawr blaen ir dyfyniad or ddrama Blodeuwedd ar y cefn, mae hon yn gyfrol eithriadol werthfawr a mawr yw ein dyled ir golygydd am ei chasglu ynghyd.

Dafydd Morgan Lewis

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Table of Contents:
Rhagair - Gruffudd Antur
'Rhydywernen'-Gerallt Lloyd Owen
1.Ysgrif: Gerallt ym mro ei fagwraeth - Elfyn Pritchard
'Gwahodd Llywarch i Lanfawr' - Diweddariad Gwyn Thomas
2.Ysgrif: Cywyddwyr Penllyn - Gruffudd Antur
'Blwyddyn'- R. Williams Parry
3.Ysgrif: Prifeirdd y Pum Plwy- Alan Llwyd
'Eira ym Mhenllyn' - Alan Llwyd
4.Ysgrif: Teulur Tyrpeg - gol. Gruffudd Antur
Ifan Rowlands - Gerallt Lloyd Owen (Barddas 13)
R. T. Rowlands - Elwyn Edwards
R. J. Rowlands - Dafydd Islwyn (Barddas 299/300)
Ithel Rowlands - Ann Fychan (Barddas 314)
'Hiraeth am y Bala' - Dic Jones
5.Ysgrif: Ymryson y Pethe - Elwyn Edwards
'Toriad gwawr ar Dryweryn' - Elwyn Edwards
6.Ysgrif: Olion fy hil a welaf:ymateb y beirdd i foddi Capel Celyn - Hywel Griffiths
'Ffarwel i blwy Llangywair' (traddodiadol)
7.Ysgrif: Beirdd Cwm Cynllwyd - Beryl H. Griffiths
'Arenig' - Euros Bowen
8.Ysgrif: Arenig Euros Bowen a J. D. Innes - Dafydd Elis-Thomas (Barddas 315)
'Llanuwchllyn' - Bobi Jones
9. Ysgrif: Hwiangerddi O. M. - Haf Llewelyn
Author Biography:
Hogyn o Lanuwchllyn yw Gruffudd Antur, ac mae gwreiddiau ei deulu ar y ddwy ochr yn gadarn yn naear Penllyn. Derbyniodd ei addysg gynradd yn Ysgol O. M. Edwards, Llanuwchllyn, ai addysg uwchradd yn Ysgol y Berwyn, y Bala. Ar l cael blas ar y pwnc ar gyfer ei Lefel A, aeth yn ei flaen i Brifysgol Aberystwyth i astudio Ffiseg, gan raddio gyda gradd ddosbarth cyntaf yn 2013.
Ar hyn o bryd, fodd bynnag, maen astudio ar gyfer gradd MA yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac ym mis hydref eleni bydd yn dechrau ar ei ddoethuriaeth. Mae Gruffudd yn cydnabod dylanwad nifer o bobl arno yn ystod blynyddoedd ei addysg, ac fe fanteisiodd yn llawn ar y bywyd diwylliannol Cymreig ym mro ei febyd. Er y bun ysgrifennu cerddi er yn blentyn, datblygodd ddiddordeb mewn barddoniaeth ac yn y gynghanedd o dan adain y Prifardd Elwyn Edwards yn dilyn gwersi cynghanedd ganddo yn 2008, ac ers hynny bun ddigon ffodus i fod yn rhan o dimoedd talwrn Ysgol y Berwyn a Phenllyn, timoedd ymryson Meirion ar Disgyblion Ysbas a chael cymryd rhan mewn nifer o nosweithiau barddol eraill. Enillodd gadair yr Eisteddfod Ryng-golegol bedair gwaith a Chadair Eisteddfod yr Urdd yn Eryri yn 2012 a thrachefn yn ei filltir sgwr yn Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014.
Mae Gruffudd hefyd wedi cyfieithu llyfrau plant ir Gymraeg, bun gyd-olygydd ac un o sefydlwyr 'Yr Heriwr', papur newydd myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth, ac yn gyd-olygydd rhifyn o 'tu chwith'. Ym mis Awst eleni y fo oedd Bardd Preswyl y mis ar Radio Cymru. Cyhoeddir ei waith yn rheolaidd mewn cylchgronau megis 'Barddas', 'tu chwith' a 'Barn', ac mae ganddo golofn yn y cylchgrawn ar gyfer cynganeddwyr, 'Y Glec'.
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Antur i'r Eithaf - ...
Eric Jones
£9.00
 
Buy Now
CD Caneuon Rala La La (CD)
Mair Tomos Ifans
£6.95
 
Buy Now
Rhys Meirion - Stopio'r ...
Rhys Meirion
£9.95
 
Buy Now
Book of the Month
English
Wild Places Uk - The Top ...
Iolo Williams
£19.99
 
Buy Now
Welsh
Awen Drwy'r Storïau, ...
 
£9.95
 
Buy Now
Children
Pwy sy Wedi Llyncu Llŷr?
Sarah Roberts
£5.99
 
Buy Now