Casgliad o ysgrifau gan Dafydd Glyn Jones, y beirniad ar Cyn-ddarllenydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, a geir yn y gyfrol hon. Mae yna sawl thema gyfunol yn rhedeg drwyr ysgrifau i gyd, er enghraifft, y syniad o Ynys Brydain, ac o Brydeindod (neu Brydaingarwch, i ddefnyddio un o dermaur awdur), yn gyffredinol, y modd y maer Cymry wedi ceisiou diffiniou hunain drwyr canrifoedd, a gwahanol oblygiadau ac ystyron y gair cenedl.
Mae ganddo hefyd ysgrifau pwysig iawn ar y modd y maer Cymry wedi eu cyflwyno au disgrifio eu hunain drwy gyfrwng hanes, gan adleisio, i raddau helaeth, y dadleuon ar damcaniaethau ynghylch cyflwyno ac adrodd hanes a gafwyd ers ugain mlynedd a rhagor bellach, adlais or hanesiaeth newydd, er enghraifft. Maer ysgrifau Saith Math o Hanes a Byw gyda Hanes yn trafod mathau arbennig o gyflwyno hanes. Fel y dywed Dafydd Glyn Jones, mae yna ddwy ystyr ir gair hanes, sef yr hyn a ddigwyddodd ar hyn a adroddwyd, hynny ydi, maen dibynnu pwy syn traethu am yr hyn a ddigwyddodd, ac mae hwn yn bwnc pwysig.
Mae pob un o ysgrifaur gyfrol yn dreiddgar ac yn ddiddorol, a cheir trafodaethau gwych ar Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan; ar Draddodiad Emrys ap Iwan, ac ysgrif ragorol yn dwyn y teitl Gwlad y Brutiau (nid Gwlad y Bryniau, sylwer). Mae Dafydd Glyn Jones yn hanesydd ac yn feirniad gwybodus a chraff, a hawdd canfod hynny wrth ddarllen y llyfr hwn.
Maen trafod pethau o bwys inni. Rhag ofn i neb feddwl ein bod yn byw mewn Cymru wynfydedig, berffaith, gydar Cynulliad ac S4C yn ein cynnal rhag dilead, darllener y rhybuddion a geir yn Byw gyda Hanes (ac mewn sawl man arall hefyd o ran hynny); darllener, er enghraifft, y paragraff cryf syn diweddu âr frawddeg: Ac onid y pryder yw fod y mymryn ymreolaeth gyfyngedig wedi dod yn rhy hwyr i allu ei achub [sef y bywyd Cymraeg]? (t. 282)
Darllenwyd y proflennin ddiofal yma a thraw, gan adael yn wedii ddyblu mewn un man, ac ni wn beth ydi ystyr y frawddeg hon: Dyma ef bellach mae wedi newid iaith (wrth sôn am ganu pop Cymraeg). Ai Dyma ef bellach wedi newid iaith (heb y mae) a olygir, neu a all atalnodi gwell achub y frawddeg: Dyma ef, bellach; mae wedi newid iaith. A gamddarllenwyd y proflenni yma? Yn sicr, nid o ben Cymreigydd a gramadegydd mor drwyadl-sicr oi bethau ac mor ofalus oi iaith â Dafydd Glyn Jones y daeth y frawddeg. Maer Britanni yn codi eu pennau yn rhy aml o ailadroddus yn y gyfrol, a chawn ein hatgoffan fynych fod y bobl hyn wedi colli eu gwlad oherwydd eu pechodau (stori Gildas). Mân frychau yw'r rhain mewn cyfrol ddiddorol, heriol, addysgiadol; cyfrol dreiddgar mewn mannau a phryfoclyd yn aml. Cyfrol arbennig iawn.
Alan Llwyd
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|