Nid yw’n syndod o gwbl gweld fod y Cymry am ddal i fwynhau nofelau Islwyn Ffowc Elis. Y mae’n chwedleuwr tan gamp, fel yr oedd Daniel Owen, ac fe ŵyr pawb, ond ambell i feirniad, peth mor sylfaenol bwysig i nofelydd ydi medru dal cynulleidfa efo stori dda. Y mae o hefyd yn medru ysgrifennu Cymraeg sydd fel sidan. Daeth ei fedr eithriadol fel dyn geiriau i’r golwg yn ei ysgrifau Cyn Oeri’r Gwaed, ac y mae i’w gweld yr un mor amlwg yn ei nofelau a’i storïau byrion. Y mae’n medru bod yn gyfareddol – darllenwch rai o’r disgrifiadau ar ddechrau penodau Cysgod y Cryman i weld mor wir ydi hyn. Dyma nodweddion, o’m darlleniad cyntaf o’r nofel, yn 1953, a’m trawodd i mor gryf rŵan â’r adeg honno.
Ond, bobol bach, y mae’r blynyddoedd rhwng 1953 a 2002 wedi newid safbwyntiau ein cymdeithas ni yn chwyldroadol. Y mae, yn y nofel, elfennau y cyfeiriodd Islwyn Ffowc Elis atynt mewn ysgrif ar 'Y Nofelydd a’i Gymdeithas', sef: '. . . safonau a rhagdybiau cydnabyddedig ei gyfnod a’i gymdeithas, [elfennau meddai] nad yw [nofelydd] yn debyg o ymyrryd rhyw lawer â [hwy] rhag tarfu’i gynulleidfa.'
Rhagdybiau Anghydffurfiwr o Genedlaetholwr o Gymro, yn 1953, a geir yn Cysgod y Cryman. Ystyriwn, er enghraifft, Harri Vaughan, arwr a phrif gymeriad y nofel hon: y mae rhai o’i nodweddion – cymeradwy ar y pryd – bellach yn ddigon i saethu ffeministiaid i orbit. Y mae’r un peth yn wir am Edward Vaughan, tad yr arwr, a pherchennog fferm sylweddol, sef Lleifior, yn Nyffryn Aerwen.
Yn ei ysgrif ar 'Y Nofelydd a’i Gymdeithas' sonia Islwyn Ffowc Elis am rwymedigaeth y nofelydd 'i rwystro’i ragfarnau rhag duo gormod ar ei ddihirod a gwynnu gormod ar ei arwyr'. Wrth ddarllen y nofel eto yr ydw i’n rhyw deimlo fod yna ymagweddu go bendant tuag at rai cymeriadau ynddi. Nid mater o fod yn y nofel gymeriadau 'da' a rhai 'drwg' ydi hyn – y mae cymeriadau o’r fath yn y rhan fwyaf o nofelau – ond fod yr awdur o bryd i’w gilydd yn cyfarwyddo ein hymateb yn lle gadael inni ymateb yn ôl portread a gweithredoedd y cymeriadau eu hunain. Dyma un enghraifft: y mae Wil James, sydd yn gweithio ar fferm Lleifior, yn ddihiryn; y mae ei weithredoedd a’i eiriau’n dangos hynny. Y mae’n mynnu siarad Saesneg â Karl, Almaenwr a ddaeth i weithio yn Lleifior pan oedd yn garcharor rhyfel ac a ddaeth yn ei ôl yno ar ôl y rhyfel. Dyma a ddywed Islwyn Ffowc Elis yn y nofel: 'Yr oedd Wil James yn un o’r rhai a siaradai Saesneg â Karl. Nid oedd ganddo mo’r crebwyll i wybod bod Karl yn fwy o feistr ar unrhyw iaith nag ydoedd ef.' Y mae’r ail frawddeg yn sylw uniongyrchol yr awdur, y mae’n dweud wrthym sut i ymateb. Ymhellach, y mae Karl yn gallu dweud, 'Yr wyf o hyd yn ddiysmygwr', chwithdod ieithyddol nad yw Wil James yn euog o’i debyg. Y mae yn y nofel nifer o sylwadau fel hyn sy’n goruchwylio ymateb y darllenwr.
Pan ymddangosodd y nofel gyntaf, cyhuddwyd Islwyn Ffowc Elis o wneud Karl mor dda nes ei bod yn anodd credu ynddo. Ond y mae’n gwbl glir fod ei hunanymwadiad mor eithafol nes bod yn negyddol, hynny yw, y mae cryfder Karl yn wendid. Yr oedd Islwyn Ffowc Elis yn fwy craff nag oedd yn amlwg i amryw o’i feirniaid cynnar.
Prif bwnc y nofel ydi lle traddodiad, sy’n cynnwys system economaidd a hen systemau o lywodraethu, ym myd Harri Vaughan a’i gymdeithas. Yr oedd Islwyn Ffowc Elis yn flaengar yn ei bwnc achos yr oedd yn ymdrin â materion a ddaeth i strydoedd amryw o ddinasoedd y byd rai blynyddoedd ar ôl cyhoeddi’r nofel: bu myfyrwyr yn y Sorbonne yn taflu cerrig ac yn baricedio strydoedd Paris, a phobol ifainc Tokyo’n taflu bomiau petrol yn Japan. Yr oedden nhw, fel Harri Vaughan yn ei ffordd ef ei hun, yn gwrthryfela yn erbyn awdurdod a systemau a darddai o draddodiad. Y mae’r pwnc yn dal gyda ni. Ond fe gynigir neges bwysig yn Cysgod y Cryman, sef mai trwy gyfaddawd y mae’r hen a’r newydd yn debyg o ddod i ryw fath o sefydlogrwydd mwy cyfiawn. Trwy berthynas Harri Vaughan a’i dad y cyfleir hyn yn y nofel.
Yr oedd hi’n bleser darllen y nofel hon unwaith yn rhagor, a gweld elfennau ynddi mewn ffordd wahanol. Y mae to ar ôl to o bobol ifainc o Gymry wedi cymryd at y nofel hon; yr oeddent, ac y maent, yn ddoeth o wneud hynny. Y mae hi’n nofel sy’n bleser i’w darllen. Y mae ei hawdur, uwchlaw popeth, yn ysgrifennwr Cymraeg tra nodedig, a beth bynnag arall sydd yn newid o ddarllen y nofel dros y blynyddoedd, y mae ei rhagoriaeth fel testun Cymraeg yn dal yn rhyfeddod.
Darllenir y nofel ar y CD gan J.O. Roberts.
Gwyn Thomas
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|