Gwybodaeth Lyfryddol |
Cyfres Straeon Bywyd Cymru: 5. Cwymp yn y Chwarel Siân Lewis
|
ISBN: 9781845271633 (1845271637)Dyddiad Cyhoeddi: Gorffennaf 2008
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg GwalchDarluniwyd gan Robin LawrieAddas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2
Fformat: Clawr Caled, 196x128 mm, 32 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£4.50
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
Cyfrol mewn cyfres sy'n edrych ar wahanol gyfnodau/gefndiroedd o hanes Cymru ac yn cyflwyno stori yn seiliedig ar hynny; y mae'r stori hon yn ymwneud â bywyd y chwarelwr. Addas i ddarllenwyr 9-11 oed.
A book in a series that looks at different periods/backgrounds in Welsh history, on which the story is based; this story is about the quarryman's life. Suitable for readers aged 9-11 years.
|
Cyfrol yn y gyfres ‘Straeon Bywyd Cymru’ yw Cwymp yn y Chwarel, cyfres sy’n rhoi cipolwg dychmygus i ni ar ddigwyddiadau pwysig yn hanes Cymru trwy lygaid plentyn.
Jac Edwards yw’r cymeriad sy’n rhannu ei fywyd a’i anturiaethau fel chwarelwr ifanc gyda ni. Cawn gyfle i brofi a gwerthfawrogi caledi a chreulondeb gwaith mewn chwarel lechi, yn ogystal â’r teyrngarwch a’r frawdoliaeth oedd yn bodoli wrth weithio mewn amgylchiadau o’r fath. O fewn y gyfrol gwelwn ddiniweidrwydd plentyn wrth iddo ysu am gael car gwyllt i’w gario i lawr y mynydd ar ddiwedd diwrnod o waith. Ochr yn ochr â hyn ceir y cyfrifoldeb aruthrol oedd ar blant a phobl ifanc y cyfnod i fynd allan i weithio i gynnal eu teuluoedd.
Mae’r awdur yn glyfar iawn yn llwyddo i gyflwyno bywyd, gwaith ac ysbryd y bachgen ifanc a’r gymdeithas y mae’n rhan ohoni heb i Jac adael y gwely mewn gwirionedd. Ceir tro annisgwyl ar ddiwedd y stori gan ein gadael yn teimlo’n fodlon iawn wrth gau cloriau’r gyfrol.
Cyfrwng effeithiol iawn i gyflwyno hanes i blant a'u tywys i’r gorffennol. Mae’r iaith yn llifo’n esmwyth ac mae termau sy’n ymwneud â’r gwaith llechi yn cael eu cynnwys a’u hesbonio mewn modd dealladwy. Dyma adnodd addysgol gwerthfawr yn ogystal â chyfrol i eistedd ’nôl a'i mwynhau.
Ffion Bowen
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
Gwybodaeth Bellach: Cyfres Straeon Bywyd Cymru
Cipolwg dychmygus ar fywydau plant fu’n rhan o ddigwyddiadau pwysig yn hanes Cymru.
Reidio i lawr y mynydd ar gar gwyllt! Dyna freuddwyd Jac Edwards.
Ar ôl diwrnod hir a chaled o waith yn y chwarel, beth gwell na gwibio i lawr yr inclein, yn lle gorfod cerdded bob cam?
Ond mae’r stiward, George Watson, â’i lygaid ar Jac ac yn barod i’w rwystro. Sut gall Jac wneud iddo newid ei feddwl?
Mae’r stori’n dilyn anturiaethau rybelwr bach mewn chwarel lechi yn ardal Blaenau Ffestiniog yn yr 1880au. |
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|